Canllawiau

Rhifyn mis Ebrill 2023 o Fwletin y Cyflogwr

Cyhoeddwyd 19 April 2023

Rhagarweiniad

Ar 15 Mawrth 2023, gwnaeth Canghellor y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Jeremy Hunt AS, ei gyhoeddiadau Cyllideb y Gwanwyn.

Mae’r prif fesurau treth a gyhoeddwyd yn cynnwys newidiadau i lwfansau cyfalaf, newidiadau i lwfansau pensiwn, a chyfres o newidiadau i gyfraddau.

Mae gwybodaeth am yr holl fesurau a gyhoeddwyd i’w chael yn Llyfr Coch y Gyllideb (yn Saesneg). I weld trosolwg o’r holl ddeddfwriaeth dreth a chyfraddau a gyhoeddwyd, ewch i Gyllideb Gwanwyn 2023 (yn Saesneg).

Yn y rhifyn hwn, rydym yn codi ymwybyddiaeth o’r arolwg blynyddol, ‘Dweud wrth ABAB’. Mae manylion pellach ar gael yn yr erthygl ‘Mae’r arolwg blynyddol, Dweud wrth ABAB, yn rhoi’r cyfle i fusnesau bach leisio’u barn yn uchel yn y system dreth’. Mae’r Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB) yn gorff annibynnol sy’n cynrychioli buddiant busnesau bach. Mae’r Bwrdd yn awyddus i gael adborth cwsmeriaid i helpu i leihau beichiau gweinyddol yn ymwneud â threth.

Hefyd yn rhifyn y mis hwn, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:

TWE (Talu Wrth Ennill)

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.

TWE (Talu Wrth Ennill)

Dynodi ceir a faniau cwmni at ddibenion buddiannau

Hoffai CThEF godi ymwybyddiaeth o sut y dylai cerbydau gael eu dynodi at ddibenion buddiannau.

Ar 20 Gorffennaf 2020, traddododd y Llys Apêl ei benderfyniad mewn perthynas ag apeliadau gan CThEF a Coca-Cola European Partners Great Britain Ltd. Roedd yr achos yn ystyried 3 gwahanol fath o gerbydau ac yn penderfynu a ddylent gael eu dynodi fel faniau neu geir.

Roedd y penderfyniad yn cyd-fynd â dehongliad hirsefydlog CThEF o’r ddeddfwriaeth ar gyfer buddiannau car — sef, at ddibenion buddiannau, mai ‘adeiladwaith’ cerbyd yw adeiladwaith y cynnyrch terfynol ar yr adeg y cynigir y cerbyd i’r cyflogai, ac nad yw’r defnydd a wneir o gerbyd yn berthnasol wrth ystyried ystyr ‘adeiladwaith’. Eglurodd y llysoedd hefyd mai’r dull cywir oedd penderfynu ar brif bwrpas cerbyd. Dim ond os mai pwrpas mwyaf amlwg y cerbyd dan sylw oedd cario nwyddau neu feichiau y byddai’n cael ei dderbyn fel fan. Dylech hefyd ystyried bod y llysoedd wedi dyfarnu na all cerbyd amlbwrpas fod â phrif bwrpas o gwbl.

Gallwch ddarllen rhagor o arweiniad ynghylch helpu cyflogwyr i benderfynu dynodiad cywir cerbyd at ddibenion buddiannau (yn Saesneg). Bydd hyn yn arbennig o bwysig i gyflogwyr sydd angen rhoi gwybod am gerbydau cwmni ar ffurflen P11D (i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr erthygl ychwanegol, ‘Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2023’) cyn y dyddiad cyflwyno ar 6 Gorffennaf 2023.

Debydau Uniongyrchol ar gyfer TWE y Cyflogwr a threfniadau Amser i Dalu

Fel cyflogwr, os hoffech drefnu Debyd Uniongyrchol newydd ar gyfer TWE y Cyflogwr, mae’n rhaid gwneud hyn yn gynnar er mwyn sicrhau y gwneir y taliad ar yr 22ain o bob mis. Er enghraifft, ar gyfer mis Mai 2023, byddai angen i gyflogwyr drefnu eu Debyd Uniongyrchol erbyn 10 Mai 2023 i sicrhau y cesglir yr arian mewn pryd.

Gan fod yr amserlen hon yn fyr, rydym yn gweithio i ostwng yr amser aros hwnnw.

Os oes gennych asiant, ni all drefnu Debyd Uniongyrchol ar eich rhan. Dylech fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes a, chyn belled â’ch bod wedi’ch cofrestru ar gyfer TWE i Gyflogwyr, byddwch yn gallu gwneud hyn eich hun.

Hysbysiadau cyffredinol pan fo Debyd Uniongyrchol ar waith

Y dyddiad dyledus ar gyfer taliadau TWE y Cyflogwr i CThEF yw’r 22ain o bob mis, ond mae’r Debyd Uniongyrchol bob amser yn cael ei gasglu’n fuan ar ôl yr 22ain. Mae hyn yn golygu y gallech gael gwybod gennym fod eich taliad yn hwyr. Nid yw hyn yn gosb, ond yn hytrach hysbysiad cynghori.

Mae rhai achosion lle mae’r neges hon yn cael ei hanfon er bod taliad wedi’i wneud mewn pryd. Mae’n ddrwg gennym am hyn, ac rydym wrthi’n ystyried sut y gallwn atal hyn rhag digwydd.

Trefniant Amser i Dalu

Os ydych yn cael trafferth talu a bod gennych ôl-ddyledion TWE, mae’n bosibl y gallwch sefydlu trefniant Amser i Dalu ar-lein. Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y trefniant ar-lein, gofynnir i chi ffonio CThEF a bydd ymgynghorydd yn trafod yr opsiynau sydd ar gael. Dyma’r prif feini prawf ar gyfer y trefniadau ar-lein:

  • mae’n rhaid i’r ddyled TWE fod yn llai na £15,000

  • mae’n rhaid i chi beidio â bod ag unrhyw ddyledion eraill

  • mae’n rhaid sefydlu’r trefniant Amser i Dalu cyn pen 35 diwrnod i ddyddiad dyledus y rhwymedigaeth

  • mae’n rhaid i’r ddyled beidio â chynnwys cosbau na thaliadau penodedig

  • mae’n rhaid i’r holl Ffurflenni Treth fod wedi’u cyflwyno

Os oes gennych asiant, ni all sefydlu trefniant Amser i Dalu ar eich rhan. Dylech fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes a, chyn belled â’ch bod wedi’ch cofrestru ar gyfer TWE i Gyflogwyr, byddwch yn gallu gwneud hyn eich hun.

Treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer taliadau terfyn cyflogaeth

I helpu cwsmeriaid i gael eu treth yn iawn, mae CThEF yn tynnu sylw at y rheolau ynghylch y ffordd o drin Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o ran taliadau terfyn cyflogaeth. Mae nifer o newidiadau wedi bod i’r rheolau hyn dros y 5 mlynedd diwethaf, gan gynnwys:

  • cyflwyno cyflog rhybudd ôl-gyflogaeth

  • dileu rhyddhad gwasanaeth tramor ar daliadau terfyn cyflogaeth i unigolion sy’n breswyl yn y DU

  • egluro nad yw’r eithriad ar gyfer anaf yn berthnasol i niwed i deimladau rhywun

  • alinio’r rheolau ar gyfer Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

O 2018 ymlaen, cyflwynwyd cyflog rhybudd ôl-gyflogaeth er mwyn sicrhau bod taliadau anghontractiol yn lle rhybudd yn agored i dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn yr un ffordd â thaliadau contractiol ac arferol.

Cyn 2018, byddai’r taliadau hyn wedi bod yn drethadwy, gan eu bod yn dod o fewn cwmpas adran 401 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) (ITEPA) 2003 (yn Saesneg). Mae’r swm o fewn y taliad terfyn cyflogaeth a gyfrifwyd fel cyflog rhybudd ôl-gyflogaeth bellach yn agored i Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol fel enillion cyffredinol, ac nid yw’n elwa mwyach ar y trothwy o £30,000 sydd ar gael yn adran 403 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003.

Yn ogystal, o 6 Ebrill 2021 ymlaen cyflwynwyd newidiadau i’r rheolau ar gyflog rhybudd ôl-gyflogaeth (yn Saesneg). Mae’r newidiadau hyn yn rhoi dull gwahanol o gyfrifo cyflog rhybudd ôl-gyflogaeth, lle diffinnir cyfnod cyflog cyflogai mewn misoedd, ond nad yw ei gyfnod rhybudd contractiol neu gyfnod rhybudd ôl-gyflogaeth yn rhif cyfan o fisoedd.

Mae cyflog rhybudd ôl-gyflogaeth yr unigolion hynny nad ydynt yn breswyl yn y DU bellach yn cael eu trin fel enillion ac felly’n agored i dreth y DU, fel petaen nhw wedi gweithio yn ystod eu cyflog rhybudd yn y DU. Cyn hyn, yn achos cyflogeion nad oeddent yn breswyl yn y DU, nid oedd cyflog rhybudd ôl-gyflogaeth, a gafwyd o gyflogaethau yn y DU, yn agored i dreth y DU fel enillion.

Ers 6 Ebrill 2018, nid yw’r eithriad gwasanaeth tramor ar gael mwyach ar gyfer taliadau a buddiannau eraill sy’n dod o dan adran 413 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003, cyn belled â bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni. Mae’r eithriad yn berthnasol o hyd os nad yw’r unigolyn yn breswylydd yn y DU yn ystod y flwyddyn y daw’r gyflogaeth i ben, neu os yw’r unigolyn yn forwr a bod ganddo wasanaeth morio digonol.

Ers 6 Ebrill 2020, yn sgil newid mewn deddfwriaeth, codir cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar daliadau terfyn cyflogaeth cymwys sydd dros yr eithriad rhag treth o £30,000. I gael rhagor o fanylion, darllenwch am y newidiadau i’r ffordd o drin Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o ran taliadau terfyn cyflogaeth (yn Saesneg).

Gwneud yn siŵr bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu

Er mwyn gallu trin unrhyw dreth yn gywir, bydd angen i chi nodi beth yw diben y taliad. Gallai taliad terfyn cyflogaeth gynnwys mathau gwahanol o daliadau i gyflogeion, megis digollediad am golli swydd, taliad yn lle rhybudd diswyddo, iawndal, taliad diswyddo, tâl gwyliau, taliad ymddeol, taliad salwch neu anaf, neu daliad ar gyfer cyfamod cyfyngol. Mae’n bosibl y bydd y taliadau hyn yn drethadwy fel enillion o dan ddarpariaethau eraill o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003. Mae EIM12810 — Taliadau a buddiannau terfyn cyflogaeth: cymhwyso’r ddeddfwriaeth (yn Saesneg) yn manylu ar sut y dylid ystyried y ddeddfwriaeth mewn trefn benodol.

Os nad yw’r taliad terfyn cyflogaeth yn drethadwy o dan y darpariaethau eraill, mae’n bosibl y bydd yn drethadwy fel taliad terfyn cyflogaeth o dan adran 401 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003. I gael arweiniad ar hyn, darllenwch EIM12800 — Taliadau a buddiannau terfyn cyflogaeth (yn Saesneg). Fodd bynnag, mae rhai taliadau — megis y rhai ar gyfer anaf neu salwch, neu daliad o ffioedd cyfreithiol mewn perthynas â’r terfyn cyflogaeth — sydd yn gallu cael eu heithrio rhag treth (yn Saesneg).

I’ch helpu i ystyried a oes treth ac Yswiriant Gwladol yn daladwy, darllenwch am yr hyn rydych yn talu treth ac Yswiriant Gwladol arno (yn Saesneg).

Os nad ydych wedi talu’r swm cywir o dreth ac Yswiriant Gwladol, gallwch wneud cywiriadau drwy Gyflwyniad Taliadau Llawn (yn Saesneg). Defnyddiwch y blwch ‘eitem ddata’ (Dosbarth 1A ar gyfer y flwyddyn hyd yma) ar gyfer diwygiadau i’r cyfraniad Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.

Benthyciadau Myfyrwyr a Benthyciadau Ôl-raddedig

Negeseuon i gyflogwyr gan y gwasanaeth hysbysu generig ynglŷn â Benthyciadau Myfyrwyr a Benthyciadau Ôl-raddedig

Mae CThEF yn anfon negeseuon gwasanaeth hysbysu generig ynglŷn â Benthyciadau Myfyrwyr a Benthyciadau Ôl-raddedig at gyflogwyr, i’w hatgoffa i wneud y canlynol:

  • dechrau cymryd didyniadau Benthyciad Myfyriwr neu Fenthyciad Ôl-raddedig, neu’r ddau

  • stopio cymryd didyniadau Benthyciad Myfyriwr neu Fenthyciad Ôl-raddedig, neu’r ddau

  • defnyddio’r math cywir o gynllun a ddarparwyd gan CThEF

  • peidio â chymryd didyniadau Benthyciad Myfyriwr neu Fenthyciad Ôl-raddedig, neu’r ddau, ar gyfer cyflogeion sy’n agored i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres neu sydd â phensiwn galwedigaethol yn unig yn hytrach na chyflog

Mae’n bwysig eich bod yn gwirio gwasanaethau Ar-lein CThEF ar gyfer negeseuon gwasanaeth hysbysu generig, gan fod hyn yn effeithio ar ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau ôl-raddedig eich cyflogai.

Os nad ydych wedi cymryd camau yn sgil y negeseuon gwasanaeth ar-lein, yna gall CThEF gysylltu â chi naill ai dros y ffôn neu drwy’r post.

I gael rhagor o wybodaeth am negeseuon gan y gwasanaeth hysbysu generig, darllenwch yr arweiniad i gyflogwyr ynghylch ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr a Benthyciadau Ôl-raddedig (yn Saesneg).

Trothwyon a chyfraddau Benthyciadau Myfyrwyr a Benthyciadau Ôl-raddedig o 6 Ebrill 2023 ymlaen

Cyhoeddwyd trothwyon a chyfraddau Benthyciadau Myfyrwyr a Benthyciadau Ôl-raddedig ar gyfer 2023 i 2024 yn rhifyn mis Chwefror 2023 o Fwletin y Cyflogwr gan CThEF.

I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o gynlluniau a benthyciadau (gan gynnwys trothwyon), darllenwch yr arweiniad i gyflogwyr ynghylch ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr a Benthyciadau Ôl-raddedig.

Ymholiadau ynghylch tâl TWE y Cyflogwr

Bob mis, mae CThEF yn cyfrifo tâl TWE ar gyfer pob cyflogwr a darparwr pensiwn. Mae nifer fach o gwsmeriaid yn cysylltu â’n llinell gymorth ar gyfer cyflogwyr i roi gwybod i ni am anghysondebau. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae ein hymgynghorwyr yn gallu esbonio a chynnig arweiniad ar sut i gywiro’r broblem.

Mae’r achosion hynny sydd angen archwiliad manylach yn cael eu cyfeirio at y Tîm Datrys Taliadau yn CThEF, gan fod achosion cymhleth yn cymryd yn hirach i’w hadolygu. Mae’n bosibl y bydd y tîm yn cysylltu â chi i drafod eich cyfrif. Os bydd angen, bydd y tîm yn gweithio gyda chi i adnabod y broblem ac yn esbonio sut i’w chywiro.

Mae CThEF wedi datblygu atebion i helpu i ddadansoddi problemau cyffredin a’u datrys. Mae’r rhain yn llwyddo i fynd i’r afael â’r rhan fwyaf o’r anghysondebau. Fodd bynnag, mae problemau’n dal i godi pan gaiff cyflogaethau dyblyg eu creu ar gyfer cyflogai — hynny yw, pan gaiff cofnod cyflogaeth ychwanegol ei greu sydd union yr un fath â chyflogaeth sy’n bodoli eisoes, boed yn gyflogaeth sy’n fyw neu’n gyflogaeth sydd wedi dod i ben.

Gall hyn effeithio ar:

  • eich bil treth TWE o ran treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Benthyciad Myfyriwr, gan arwain at gasglu dyledion yn ddiangen

  • cywirdeb codau treth cyflogeion, gan arwain at ddidynnu swm anghywir o Dreth Incwm

  • prosesau TWE, cyfraniadau Yswiriant Gwladol, Benthyciad Myfyriwr, Credyd Cynhwysol, ac adnewyddu credydau treth

Osgoi cyflogaethau dyblyg

Rydym yn ymwybodol bod trefniannau cyflogres yn amrywio o gyflogwr i gyflogwr, gan gynnig opsiynau gwahanol a lefelau rheoli gwahanol, a hynny o ran yr wybodaeth a gedwir ar y system gyflogres. Dylech holi’ch darparwr meddalwedd i weld y swyddogaethau sydd ar gael i chi.

Argymhellion er mwyn osgoi creu cyflogaethau dyblyg (pan fo modd)

Pan fydd cyflogai newydd yn dechrau:

  • ceisiwch osgoi’r angen i ddiweddaru enw, dyddiad geni neu rywedd cyflogai eto, drwy wneud yn siŵr bod yr hysbysiad i gyflogai sy’n cychwyn a’r Cyflwyniad Taliadau Llawn cyntaf yn cynnwys manylion personol cywir (yn Saesneg)

  • rhowch wybodaeth gyson bob tro — er enghraifft, os bydd y Cyflwyniad Taliadau Llawn cyntaf yn cynnwys William Smith, cofiwch nodi’r enw hwn mewn Cyflwyniadau Taliadau Llawn yn y dyfodol, yn hytrach na nodi Bill neu W Smith

  • nodwch ddyddiad dechrau a datganiad cyflogai sy’n cychwyn ar y Cyflwyniad Taliadau Llawn cyntaf yn unig — ni ddylech ddangos y dyddiad dechrau ar unrhyw Gyflwyniadau Taliadau Llawn diweddarach

  • nid oes angen i chi roi gwybod i CThEF am newidiadau i ddyddiadau dechrau — dim ond ar eich system gyflogres y dylid eu cofnodi, os oes angen

Newidiadau i ID y gyflogres

Dylai pob cyflogai feddu ar ID y gyflogres unigryw (yn Saesneg). Yr enwau eraill am hyn yw rhif y cyflogai neu rif cyflogres y cyflogai, a bydd hyn fwy na thebyg yn ymddangos ar eu slipiau cyflog.

Os oes gan un o’ch cyflogeion fwy nag un swydd ar gyflogresi gwahanol, dylai fod ganddo o leiaf 2 rif cyflogai neu ddau rif cyflogres y cyflogai.

Mae CThEF yn deall bod meddalwedd gyflogres yn aml yn cynhyrchu rhifau cyflogeion ac mae’n bwysig eich bod yn deall sut mae’ch meddalwedd yn cynhyrchu rhifau cyflogres.

Dylech ddefnyddio rhifau cyflogeion neu rifau cyflogres cyflogeion unigryw bob amser.

Defnyddiwch rif cyflogai neu rif cyflogres gwahanol bob tro, os oes gan y cyflogai fwy nag un gyflogaeth ar yr un pryd yn y cynllun TWE.

Os bydd cyflogai’n gadael ac yn cael ei ailgyflogi, dylech wneud y canlynol:

  • defnyddio rhif cyflogai gwahanol — peidiwch ag ailddefnyddio rhif cyflogai blaenorol

  • dechrau’r wybodaeth am ei daliadau ar gyfer y flwyddyn hyd yma eto fel £0.00

Os bydd eich meddalwedd yn cynhyrchu rhifau cyflogeion ac na allwch atal hynny rhag digwydd, dylech wneud y canlynol:

  • nodi’r ID blaenorol yn y maes ‘Hen’

  • nodi’r ID newydd yn y maes ‘Newydd’

Dylech wneud y canlynol:

  • gosod y dangosydd ar gyfer newid ID y gyflogres, dim ond wrth roi gwybod am newidiadau i ID y gyflogres

  • nodi ID y gyflogres diweddaraf yn y meysydd ‘Hen’ a ‘Newydd’ fel ei gilydd — nid oes angen i chi gynnwys y dyddiad dechrau gwreiddiol

Os nad ydych yn siŵr a oedd y feddalwedd flaenorol yn cynnwys ID y gyflogres, ewch ati bob tro i osod y dangosydd ar gyfer newid ID y gyflogres wrth i chi roi gwybod am eich ID y gyflogres newydd.

Os oes angen i chi newid meddalwedd gyflogres, mae arweiniad ar gael ar sut i ddod o hyd i feddalwedd gyflogres (yn Saesneg).

Beth i’w wneud pan fydd cyflogai’n gadael, neu ar ôl hynny

Pan fydd cyflogai’n gadael, neu ar ôl hynny:

  • os gwnewch Gyflwyniad Taliadau Llawn gyda dyddiad gadael, ni ddylech gyflwyno un arall, oni bai ei fod yn gywiriad, megis cywiriad i’r cyflog a’r didyniadau, neu’n daliad ar ôl gadael

  • dylech gynnwys y dyddiad gadael gwreiddiol ar daliad ar ôl gadael, neu unrhyw gywiriadau a wneir ar ôl i’r cyflogai adael

  • dylech osod y dangosydd ar gyfer taliad ar ôl gadael, dim ond os ydych wedi cyflwyno P45 ac wedi gwneud taliad arall

  • ni ddylech gyflwyno Cyflwyniadau Taliadau Llawn dyblyg neu unfath sy’n rhoi gwybod am daliad ar ôl gadael, oni bai eich bod wedi cael hysbysiad bod yr un gwreiddiol wedi’i wrthod

  • nid oes angen rhoi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau i ddyddiadau gadael — dim ond ar eich system gyflogres y dylid eu cofnodi, os oes angen

Meysydd ar gyfer pensiwn galwedigaethol a thaliadau afreolaidd

Dim ond os ydych yn talu pensiwn y dylech osod y dangosydd ar gyfer pensiwn galwedigaethol neu lenwi’r wybodaeth am swm blynyddol y pensiwn galwedigaethol — fel arall, gadewch y maes yn wag, a pheidiwch â nodi £0.00. Dylech osod y dangosydd ar gyfer patrwm talu afreolaidd, yn achos unrhyw gyflogai sy’n cael ei dalu’n anaml.

Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2023

Yn rhifyn mis Chwefror 2023 o Fwletin y Cyflogwr, gwnaethom gynnwys gwybodaeth gryno ar gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) i CThEF o 6 Ebrill 2023 ymlaen.

Cyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b)

Mae CThEF wedi newid y ddeddfwriaeth i fandadu cyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein, a hynny drwy:

Ni fyddwn yn derbyn ffurflenni P11D a P11D(b) papur mwyach. Mae hyn yn cynnwys rhestrau.I gyflogwyr ac asiantau presennol sydd eisoes yn cyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein, does dim newidiadau. I’r cyflogwyr ac asiantau sy’n weddill ac sydd wedi cyflwyno ffurflenni papur mewn blynyddoedd blaenorol, bydd angen iddynt gyflwyno eu ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein o 6 Ebrill 2023 ymlaen. I’r cyflogwyr hynny sydd angen cyflwyno hyd at 500 o ffurflenni P11D a P11D(b), gellir defnyddio gwasanaethau TWE ar-lein CThEF sy’n rhad ac am ddim. Os oes angen cyflwyno mwy na hynny, mae angen meddalwedd fasnachol. Ar gyfer blwyddyn adrodd 2022 i 2023, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 6 Gorffennaf 2023.

Os byddwch yn gwneud camgymeriad a bod angen i chi gyflwyno diwygiad i ffurflen P11D a P11D(b)

Yn y gorffennol, pe bai asiant neu gyflogwr angen diwygio’r ffurflen P11D a P11D(b) wreiddiol, byddai wedi anfon ffurflen bapur i CThEF. O 6 Ebrill 2023 ymlaen, ni fyddwn yn derbyn diwygiadau i ffurflenni P11D neu P11D(b) ar bapur mwyach, ac mae hyn yn cynnwys rhestrau.

Rydym wedi cyhoeddi arweiniad ar sut i gywiro gwall ar ffurflen P11D neu P11D(b), a fydd yn galluogi cyflogwyr ac asiantau i gyflwyno ffurflenni diwygiedig yn electronig o 6 Ebrill 2023 ymlaen.

Does dim angen newidiadau i’r feddalwedd, oherwydd nad yw’r ffurflen electronig newydd hon yn rhan o’r gwasanaethau TWE ar-lein presennol.

Ffurflenni P11D neu P11D(b) (gwreiddiol neu ddiwygiedig) papur ar ôl 6 Ebrill 2023

Os bydd cyflogwr neu asiant yn cyflwyno ffurflen P11D neu P11D(b) (wreiddiol neu ddiwygiedig) ar bapur ar ôl 6 Ebrill 2023:

  • caiff y ffurflen ei gwrthod ar sail y ffaith na chafodd ei chyflwyno i CThEF yn y modd a benodwyd

  • bydd y cyflogwr neu’r asiant yn cael hysbysiad bod y ffurflen wedi’i gwrthod, a bydd yn cael ei gyfeirio at y broses gywir

Talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres

I’r cyflogwyr hynny sy’n talu buddiannau drwy’r gyflogres

Mae’n bosibl y bydd cyflogwyr yn dal i fod â rhwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, ac felly bydd angen iddynt gyflwyno ffurflen P11D(b) i roi gwybod i ni faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr sy’n ddyledus. Bydd hefyd angen i gyflogwyr gyflwyno ffurflen P11D i ddangos unrhyw fuddiannau a dalwyd ond na chawsant eu talu drwy’r gyflogres.

I’r cyflogwyr hynny nad ydynt wedi dechrau talu buddiannau drwy’r gyflogres eto

Cofrestrwch er mwyn talu treuliau buddiannau trethadwy cyflogeion drwy’r gyflogres. O 6 Ebrill 2023 ymlaen, gall cyflogwyr gofrestru er mwyn talu buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn adrodd 2024 i 2025. Ni fydd angen i gyflogwyr gyflwyno P11D mwyach ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiannau ganddynt drwy’r gyflogres — mae talu drwy’r gyflogres yn gynt ac yn haws. Os ydych yn gyflogwr mawr, bydd hyn yn arbed papur a bydd yn well i’r amgylchedd.

Talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol

Os oedd eisoes gennych gytundeb anffurfiol â CThEF i dalu buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn adrodd 2022 i 2023, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch ffurflenni P11D ar-lein a rhoi gwybod i CThEF ymlaen llaw eich bod yn anfon ffurflenni P11D electronig gan ddefnyddio’r ffurflen ‘TWE — hysbysiad ynghylch talu buddiannau drwy’r gyflogres’.

Ni fyddwn yn derbyn trefniadau talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol mwyach — dylech fod wedi cofrestru i dalu drwy’r gyflogres ar gyfer blwyddyn adrodd 2023 i 2024 erbyn 5 Ebrill 2023.

Os ydych wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar gyfer blwyddyn adrodd 2023 i 2024, bydd yn rhaid i chi ddychwelyd i gyflwyno’ch ffurflenni P11D ar gyfer blwyddyn adrodd 2023 i 2024 ar-lein.

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A — sy’n ddyledus ar 22 Gorffennaf 2023

Mae’n rhaid i daliadau drwy ddull electronig, ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd wedi’u datgan ar eich ffurflen P11D(b) ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2023, glirio i mewn i gyfrif CThEF erbyn 22 Gorffennaf 2023.

Defnyddio’r cyfeirnod talu cywir wrth dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A

Gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn cael ei ddyrannu’n gywir drwy roi’r cyfeirnod talu cywir.

Defnyddiwch eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, wedi’i ddilyn gan 2313.

Mae’n bwysig ychwanegu 2313 oherwydd bod ‘23’ yn dangos bod y taliad ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2023, ac mae ‘13’ yn dangos bod y taliad ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A. Ni ddylai’r cyfeirnod gynnwys unrhyw fylchau rhwng cymeriadau.

Talwch Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr drwy ddefnyddio’r botwm ‘Talu nawr’ i ddewis un o’r dulliau talu diogel, neu chwiliwch am ffyrdd eraill o dalu.

Dyddiad cau ar gyfer talu TWE drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos

Ym mis Ebrill 2023, bydd y dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig, sef yr 22ain, ar ddydd Sadwrn. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer mis Ebrill yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen i’r arian fod wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 21 Ebrill 2023, oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach.

Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os bydd eich taliad yn hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.

Siaradwch â’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu mewn da bryd cyn gwneud eich taliad i wirio terfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfyniadau amser. Yna, gallwch sicrhau eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwn yn ei gael mewn pryd.

Dysgwch ragor am dalu TWE y Cyflogwr.

Diweddariad i arweiniad ynghylch trwsio problemau gyda’r gyflogres, a phroses newydd ar gyfer gordaliadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Wrth i ni ddechrau blwyddyn dreth 2023 i 2024, rydym am roi diweddariad i gyflogwyr am ychwanegiad at yr arweiniad ynghylch trwsio problemau gyda rhedeg y gyflogres (yn Saesneg).

Yn rhifyn mis Chwefror 2023 o Fwletin y Cyflogwr, gwnaethom atgoffa cyflogwyr bod yr arweiniad ar GOV.UK wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r gostyngiad yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol o 1.25 pwynt canran i gyflogeion, cyflogwyr a’r hunangyflogedig, o 6 Tachwedd 2022 am weddill blwyddyn dreth 2022 i 2023. Gwnaethom hefyd gynghori bod arweiniad i helpu cyflogwyr i ddatrys problemau gyda’r gyflogres wedi’i ddiweddaru.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, dylai cyflogwyr barhau i gywiro cyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd wedi’u gordalu a chyflwyno Cyflwyniad Taliad Llawn diwygiedig yn ôl yr arfer, i wneud y cywiriadau perthnasol.

O fis Mai 2023 ymlaen, bydd CThEF yn cyhoeddi gwybodaeth a diweddariadau pellach i’r arweiniad ynghylch ‘trwsio problemau gyda rhedeg y gyflogres’, a fydd yn cynnwys:

  • sut i gyflwyno Cyflwyniad Taliadau Llawn diwygiedig

  • sut i gyflwyno ceisiadau drwy TWE ar-lein i gyflogwyr

  • proses newydd i gyflogeion neu gyn-gyflogeion, sydd wedi gordalu Yswiriant Gwladol ac na all eu cyflogwr gywiro hyn ar eu rhan

Bydd modd i gwsmeriaid ofyn am wiriad, i weld a yw eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer 2022 i 2023 wedi’u gordalu. Bydd y cwsmer wedyn yn cael ateb ysgrifenedig gennym a fydd yn egluro’r canlyniad, a bydd yn cael ad-daliad os oes un yn ddyledus. Rydyn ni’n disgwyl y bydd angen y broses hon ar gyfer nifer fach o achosion yn unig.

Pan wneir y newidiadau hyn ym mis Mai, byddwn yn anfon e-bost at bob cyflogwr ar ein cronfa ddata i roi gwybod iddynt. Tanysgrifiwch i gael e-byst diweddaru cyflogwyr gan CThEF (yn Saesneg), os nad ydych yn eu cael ar hyn o bryd.

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Y gyfradd llog swyddogol o 6 Ebrill 2023 ymlaen

Yn dilyn ein cyhoeddiad ym mis Mawrth, gwnaeth y gyfradd llog swyddogol (yn Saesneg) gynyddu o 2.00% i 2.25% ar 6 Ebrill 2023.

Defnyddir y gyfradd llog swyddogol er mwyn cyfrifo’r tâl Treth Incwm a godir ar fuddiant benthyciadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth ac ar fuddiant trethadwy llety byw penodol sy’n gysylltiedig â chyflogaeth.

Gall hyn effeithio arnoch os ydych yn darparu llety byw neu fenthyciadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth i’ch cyflogeion, gan y bydd angen i chi wybod y gyfradd llog gywir i’w chodi wrth gyfrifo gwerth unrhyw fuddiant ar gyfer 2023 i 2024.

Yn ogystal, mae’r gyfradd newydd yn golygu ei bod yn bosibl y bydd angen i gyflogeion dalu treth ar lety byw neu fenthyciadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, er efallai nad ydynt wedi’i thalu o’r blaen.

Newidiadau i gosbau TAW am gyflwyno neu dalu’n hwyr

Mae CThEF wedi cyflwyno cosbau newydd a thecach am gyflwyno neu dalu TAW yn hwyr. Mae hyn wedi disodli’r gordal diffygdalu.

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i gyfnodau TAW sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2023, ac i bawb sy’n cyflwyno Ffurflenni TAW, gan gynnwys cwsmeriaid sy’n cyflwyno Ffurflenni TAW ‘dim’ neu Ffurflenni TAW ad-daliad.

Rydym hefyd wedi gwneud newidiadau i daliadau llog TAW, gan gyflwyno llog ar daliadau TAW hwyr a newidiadau i’r ffordd rydym yn cyfrifo ad-daliadau o TAW sydd arnom i fusnesau.

Er mwyn osgoi bod yn destun cosbau, mae’n rhaid i fusnesau gyflwyno a thalu eu rhwymedigaethau TAW mewn pryd. Os ydych yn rhywun sy’n cyflwyno’n chwarterol, mae’n bosibl y byddwch yn agored i’r cosbau newydd o fis Mai 2023 ymlaen.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am newidiadau i gosbau TAW hwyr a thaliadau llog (yn Saesneg) ynghyd ag adnoddau cyfathrebu â rhanddeiliaid (yn Saesneg).

Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — help gyda dosrannu cydnabyddiaeth TAW

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fusnesau sy’n gwerthu unrhyw nwyddau neu wasanaethau sydd â rhwymedigaethau TAW gwahanol am bris unigol, fel rhan o becyn neu fwndel.

Cyhoeddwyd y Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (yr ail yn y gyfres) ynghylch dosrannu cydnabyddiaeth TAW (yn Saesneg) ar 3 Mawrth 2023. Cyhoeddwyd hyn ochr yn ochr â Briff Cyllid a Thollau 2 (2023): diweddariad ynghylch yr ymgynghoriad ar TAW a newid gwerth (yn Saesneg). Mae’r casgliad o dudalennau ynghylch y Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (yn Saesneg) yn rhoi manylion am y cefndir a’r cwmpas.

Mae’r wybodaeth hon yn arbennig o berthnasol os ydych yn fusnes sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW ac sy’n gwerthu nwyddau, sydd â rhwymedigaethau TAW gwahanol, mewn bwndel. Y nod yw dangos y risgiau cydymffurfio sy’n gysylltiedig â’r dulliau gwahanol mae busnesau’n eu defnyddio wrth iddynt fynd ati i roi prisiau priodol ar yr elfennau unigol yn y bwndel.

Dylai busnesau sy’n camddefnyddio’u systemau til ddod ymlaen

Mae CThEF yn ysgrifennu at fusnesau sydd dan amheuaeth o osgoi treth drwy gamddefnyddio’u systemau til.

Dylai’r sawl sy’n defnyddio systemau cuddio gwerthiannau electronig ddod ymlaen i ddatgelu’r hyn y dylent fod wedi’i dalu tra oeddent yn camddefnyddio’u systemau til.

Naill ai bydd gan y sawl sy’n defnyddio systemau cuddio gwerthiannau electronig fynediad at feddalwedd arbenigol, neu byddant yn ffurfweddu eu dyfeisiau Adeg Werthu Electronig mewn ffordd benodol, sy’n eu galluogi i guddio’u gwerthiannau go iawn yn fwriadol ac felly i osgoi’r dreth sy’n ddyledus.

I’r busnesau hynny nad ydynt yn ymateb, gall CThEF ddechrau ymchwiliad neu asesu’r hyn y mae’n tybio sydd ar y busnes i CThEF. Bydd hyn yn cynnwys llog a chosbau. Yn yr achosion mwyaf difrifol, neu os rhoddwyd gwybodaeth anwir gan fusnes, gall CThEF ddechrau ymchwiliad troseddol.

Gall busnesau wneud datgeliad ynghylch camddefnyddio’u systemau til (yn Saesneg).

Os oes gennych asiant, siaradwch ag ef os yw hyn yn berthnasol i chi.

Os oes unrhyw beth ynghylch eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi ddelio â’r mater hwn, rhowch wybod i ni drwy ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF:

Ffôn: 0300 200 1900

Dydd Llun i ddydd Gwener: 08:30 – 17:00

Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau.

Rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) — hurio contractwyr

Mae 2 flynedd ers i’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) newid yn y sectorau preifat a gwirfoddol.

Yn ddiweddar, rydym wedi diweddaru ein harweiniad ar y rheolau, i’w wneud yn gliriach ac yn haws i gwsmeriaid ei ddefnyddio.

Efallai y bydd yn rhaid i rai sefydliadau cleient weithredu’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres am y tro cyntaf, naill ai gan nad ydynt wedi hurio contractwyr o’r blaen, neu am eu bod yn gweithredu yn y sectorau preifat a gwirfoddol ac wedi bodloni’r amodau o ran maint yn ddiweddar. Gallwch ddarllen y dudalen ynghylch gweithio oddi ar y gyflogres (yn Saesneg) a’r ESM10006 — deddfwriaeth ynghylch gweithio oddi ar y gyflogres (yn Saesneg) i wirio a yw’r rheolau’n berthnasol i chi bob blwyddyn. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych wedi:

  • dod yn fusnes newydd

  • cael eich prynu gan sefydliad arall

  • newid o ran maint dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf

  • dechrau hurio contractwyr

Nid yw’r rheolau wedi newid ar gyfer contractwyr sy’n gweithio drwy eu cwmni cyfyngedig eu hun, a elwir yn aml yn Gwmni Gwasanaeth Personol, neu gyfryngwr arall, sy’n darparu gwasanaethau i sefydliadau cleient bach yn y sectorau preifat a gwirfoddol. O dan yr amgylchiadau hyn, mae dal gan gontractwyr gyfrifoldeb am ystyried a chymhwyso’r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres, a elwir yn aml yn ‘IR35’. Efallai y bydd contractwyr am wirio bod eu cleient yn sefydliad bach yn y sector preifat neu’r sector gwirfoddol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr arweiniad i gyfryngwyr a chontractwyr ynghylch gweithio oddi ar y gyflogres (yn Saesneg).

Cadw cofnodion

Mae angen i gleientiaid sy’n hurio contractwyr gadw cofnodion manwl o’u huriadau, gan gynnwys:

  • enwau a chyfeiriadau’r contractwyr a’u cyfryngwyr

  • penderfyniadau maent yn eu gwneud o ran statws cyflogaeth, gan gynnwys y rhesymau dros y penderfyniadau

  • ffioedd a dalwyd

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth yn yr arweiniad i gleientiaid ynghylch gweithio oddi ar y gyflogres (yn Saesneg).

Rhagor o gymorth

Rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd y gallwn wella’r cymorth rydym yn ei gynnig i gwsmeriaid i’w helpu i gydymffurfio â’r rheolau hyn. Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y math o gymorth ychwanegol y gallai fod o ddefnydd i chi neu’r sector rydych yn gweithio ynddo. Os oes gennych adborth, anfonwch e-bost at: offpayrollworking.legislation@hmrc.gov.uk.

Paratoi ar gyfer y sail blwyddyn dreth newydd — Hunanasesiad Treth Incwm

Mae’r rheolau y mae CThEF yn eu defnyddio er mwyn cyfrifo elw unig fasnachwyr a phartneriaid ar gyfer Treth Incwm ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn newid i lawer o fusnesau o 2023 i 2024 ac ymlaen. Gallai’r newid hwn effeithio ar y Ffurflenni Treth y mae’n rhaid i drethdalwyr eu cyflwyno erbyn 31 Ionawr 2025 a Ffurflenni Treth wedi hynny. Mae ein cyhoeddiad ar ddiwygio’r cyfnod sail (yn Saesneg) yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Nid yw’r oedi rhag cyflwyno’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm (yn Saesneg) a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2022 yn effeithio ar y newid hwn.

Bydd y diwygiad hwn dim ond yn effeithio ar drethdalwyr â dyddiad cyfrifyddu sy’n wahanol i 31 Mawrth neu 5 Ebrill.

O dan y rheolau newydd, o fis Ebrill 2024 ymlaen, bydd busnesau’n cael eu trethu ar elw ar gyfer y flwyddyn dreth ac nid ar yr elw ar gyfer y flwyddyn gyfrifyddu sy’n dod i ben yn y flwyddyn dreth, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Blwyddyn dreth 2023 i 2024 — blwyddyn drosiannol

Mae blwyddyn dreth 2023 i 2024 yn ‘flwyddyn drosiannol’, pan fydd busnesau hunangyflogedig yn symud i’r ffordd newydd o gyfrifo elw trethadwy ar gyfer y flwyddyn dreth.

Bydd yn rhaid i fusnesau ddatgan cyfanswm yr elw o ddiwedd eu dyddiad cyfrifyddu diwethaf ym mlwyddyn dreth 2022 i 2023, hyd at 5 Ebrill 2024. Bydd unrhyw elw a gynhyrchir dros gyfnod hirach yn drethadwy yn ystod y flwyddyn drosiannol.

Mae blwyddyn drosiannol 2023 i 2024 yn rhoi cyfle i fusnesau sy’n masnachu ar hyn o bryd, waeth beth fo’u dyddiad cyfrifyddu, ddefnyddio unrhyw ryddhad gorgyffwrdd sy’n deillio o elw gorgyffwrdd, o’r adeg y dechreuodd y busnes am y tro cyntaf. Mae modd lledaenu unrhyw elw sy’n weddill dros 5 mlynedd a hynny fel mater o drefn.

Er enghraifft, os mai 31 Rhagfyr 2023 yw dyddiad cyfrifyddu’r busnes, bydd hefyd yn rhaid iddo ddatgan elw o 1 Ionawr 2023 hyd at 5 Ebrill 2024 (15 mis yn hytrach na 12) yn ei Ffurflen Dreth ar gyfer 2023 i 2024, a bydd yn rhaid cyflwyno’r Ffurflen Dreth honno erbyn 31 Ionawr 2025.

O 2023 i 2024 ac ymlaen, efallai y bydd yn rhaid i rai busnesau ddefnyddio ffigurau dros dro ar eu Ffurflenni Treth. Os yw busnesau wedi cyflwyno ffigurau dros dro fel rhan o’u Ffurflenni Treth, bydd y llywodraeth yn llacio’i harweiniad i roi’r terfynau amser diwygio arferol i fusnesau fel y gallant gyflwyno eu Ffurflenni Treth terfynol.

Blwyddyn dreth 2024 i 2025 a blynyddoedd yn y dyfodol

Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 a blynyddoedd yn y dyfodol pan fo blynyddoedd cyfrifyddu’n wahanol i ddiwedd y flwyddyn dreth, bydd yr elw trethadwy yn cael ei gyfrifo drwy ddosrannu’r elw ar gyfer y 2 gyfnod cyfrifyddu sy’n pontio’r flwyddyn dreth.

Newidiadau i’r dyddiad cyfrifyddu

I’r busnesau hynny sy’n newid dyddiadau cyfrifyddu ym mlwyddyn dreth 2021 i 2022, bydd CThEF yn gallu rhoi manylion ffigurau rhyddhad gorgyffwrdd neu ffigurau elw hanesyddol ar gais, os yw’r ffigurau hynny wedi’u cofnodi ar systemau CThEF. Dylai trethdalwyr ac asiantau ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os bydd angen yr wybodaeth hon arnynt er mwyn llenwi Ffurflen Dreth ar gyfer 2021 i 2022.

Os bydd dyddiad cyfrifyddu’r busnes yn newid yn ystod blwyddyn dreth 2022 i 2023, bydd y rheolau presennol o ran newid dyddiad cyfrifyddu’n berthnasol.

Os bydd busnes yn penderfynu newid ei ddyddiad cyfrifyddu o flwyddyn dreth 2023 i 2024 ymlaen, ni fydd y rheolau hyn yn berthnasol, ac mi fydd yn bosibl gwneud newid pellach, ni waeth beth fo’r newidiadau yn y gorffennol.

Ceisiadau am ryddhad gorgyffwrdd

I wneud pethau’n haws i’n cwsmeriaid, mae CThEF yn datblygu ffurflen fel bod modd cyflwyno ceisiadau am ryddhad gorgyffwrdd ar-lein. Bydd hefyd yn sicrhau bod y ceisiadau hyn yn cael eu trin ar wahân i’r post cyffredinol. Ynghyd â’r ffurflen ar-lein hon, rydym yn hyfforddi mwy o swyddogion i ddelio ag ymholiadau’n ymwneud â rhyddhad gorgyffwrdd, ac yn datblygu offeryn mewnol i symleiddio’r ffordd y cesglir gwybodaeth am ryddhad gorgyffwrdd. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddarparu cymorth cyson wrth ymdrin â cheisiadau a wnaed drwy’r post, dros y ffôn, a’r rheiny sy’n dod drwy’r ffurflen ar-lein newydd.

Bwriad CThEF yw lansio’r ffurflen ar-lein a chymorth ychwanegol yn ystod haf 2023.

Gellir ond darparu gwybodaeth am ryddhad gorgyffwrdd os yw’r ffigurau hyn wedi’u cofnodi ar systemau CThEF. Mae cofnodion CThEF yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan drethdalwyr fel rhan o Ffurflenni Treth blaenorol. Os nad yw’r wybodaeth hon wedi’i chyflwyno ar Ffurflenni Treth, ni fydd CThEF yn gallu’i darparu.

Mae angen manylion y busnes arnom wrth edrych ar gais am wybodaeth am ryddhad gorgyffwrdd, fel y gallwn roi gwybod i’r trethdalwr beth yw’r ffigurau cywir. Pan fyddwch yn cyflwyno cais, bydd CThEF yn gofyn i chi ddarparu cymaint o’r wybodaeth ganlynol â phosibl:

  • enw’r trethdalwr

  • rhif Yswiriant Gwladol neu Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr

  • enw’r busnes

  • disgrifiad o’r busnes

  • a yw’r busnes yn hunangyflogaeth neu’n rhan o bartneriaeth

  • os yw’r busnes yn rhan o bartneriaeth, Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr y bartneriaeth

  • dyddiad dechrau’r busnes hunangyflogedig

  • dyddiad dechrau fel partner yn y bartneriaeth

  • y cyfnod cyfrifyddu neu gyfnod sail diweddaraf a ddefnyddiwyd gan y busnes

Dylai trethdalwyr sy’n gobeithio newid dyddiadau cyfrifyddu a defnyddio rhyddhad gorgyffwrdd yn ystod blwyddyn dreth 2022 i 2023 neu 2023 i 2024 aros hyd nes y bydd rhagor o wybodaeth am ddarparu ffigurau rhyddhad gorgyffwrdd ar gyfer y blynyddoedd treth hyn yn cael ei chyhoeddi.

Deall eich ymrwymiadau o ran hawl i weithio a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae gan bob cyflogwr yn y DU gyfrifoldeb i atal gweithio anghyfreithlon ac i gydymffurfio â deddfwriaeth Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

I’ch helpu i ddeall yr ymrwymiadau hyn, mae tîm Gorfodaeth Mewnfudo’r Swyddfa Gartref a CThEF yn cynnal gweminar yn trafod y canlynol:

  • gwiriadau hawl i weithio

  • cosbau sifil ac erlyniadau

  • sut i roi gwybod am droseddau mewnfudo

  • pwy sy’n weithiwr at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

  • sut i benderfynu a yw rhywun yn hunangyflogedig

  • eithriadau o ran cymhwystra ar gyfer yr isafswm cyflog

Cofrestrwch ar gyfer y weminar ynghylch deall yr hawl i weithio a chymhwystra ar gyfer yr isafswm cyflog (yn Saesneg), a fydd yn cael ei chynnal ar 16 Mai 2023, lle bydd panel o arbenigwyr o’r ddau sefydliad wrth law i ateb cwestiynau.

Paratoi ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd

Mae CThEF wedi cyhoeddi gwybodaeth am yr Ardoll Troseddau Economaidd (yn Saesneg).

Cafodd yr Ardoll Troseddau Economaidd ei chyflwyno yn rhan 3 o Ddeddf Cyllid 2022, fel rhan o gynllun y llywodraeth i ddatblygu model adnoddau cynaliadwy ar gyfer diwygio troseddau economaidd.

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi yn cynnwys pwy sy’n agored i’r ardoll a sut y gall y rheiny dan sylw gofrestru, cyflwyno datganiadau, a thalu’r ardoll. Mae’n rhaid talu erbyn 30 Medi bob blwyddyn, ac mae’r taliadau cyntaf yn ddyledus ar 30 Medi 2023.

Gwasanaeth ar-lein yr Ardoll Troseddau Economaidd

Mae gwasanaeth ar-lein yn cael ei ddylunio ar hyn o bryd i alluogi’r sawl sy’n agored i’r ardoll i gofrestru a chyflwyno datganiadau’n flynyddol. Rydym yn chwilio am gyfranogwyr i brofi’r gwasanaeth a helpu i wneud yn siŵr bod dyluniad y gwasanaeth yn bodloni anghenion defnyddwyr. Os byddwch chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, â diddordeb mewn helpu CThEF gyda’r gwaith o brofi ac adeiladu’r gwasanaeth, cysylltwch ag: economiccrimelevyenquiries@hmrc.gov.uk.

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Mae’r arolwg blynyddol, Dweud wrth ABAB, yn rhoi’r cyfle i fusnesau bach leisio’u barn yn uchel yn y system dreth

Mae’r arolwg blynyddol, ‘Dweud Wrth ABAB’ (yn Saesneg), ar gael i’w lenwi nawr. Mae’r arolwg yn taflu goleuni hollbwysig ar y materion mawr y mae busnesau bach yn eu hwynebu yn y system dreth. Cafodd yr arolwg ei gomisiynu gan gorff annibynnol, sef y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol.

Mae gan y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol frwdfrydedd i wrando ar anghenion y gymuned o fusnesau bach, a’u deall. Daw aelodau’r bwrdd o sawl busnes a phroffesiwn, a’u nod yw rhoi cymorth i CThEF er mwyn creu system dreth sy’n gyflymach ac yn haws i fusnesau bach.

Mae’r Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol yn herio perfformiad CThEF, gan graffu’n drylwyr ar fentrau allweddol, megis Troi Treth yn Ddigidol a gwella profiad y cwsmer. Caiff cynnydd CThEF yn erbyn blaenoriaethau’r Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol ei adolygu yn adroddiad blynyddol y bwrdd, sy’n cael ei anfon yn uniongyrchol at weinidogion y Trysorlys.

Os ydych ymhlith y 5.7 miliwn o fusnesau bach yn y DU (gan gynnwys unig fasnachwyr, yr hunangyflogedig, busnesau micro, a sefydliadau sydd â llai na 51 o gyflogeion), yna dyma’ch cyfle i roi’ch safbwyntiau ynghylch y system dreth i’r Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol, a gall y bwrdd yn ei dro ddefnyddio hyn i roi cymorth i chi.

Bydd yr arolwg yn cymryd oddeutu 10 munud i’w lenwi, a bydd ar agor tan 2 Mai 2023. Caiff canlyniadau’r arolwg eu cyhoeddi yn yr Adroddiad ‘Dweud wrth ABAB’, a gaiff ei gyhoeddi ar GOV.UK yn ystod haf 2023.

Adolygiad o’r Fframwaith Gweinyddu Trethi — symleiddio a moderneiddio gwasanaethau Treth Incwm CThEF drwy’r fframwaith gweinyddu trethi

Fel y cyhoeddwyd yn ystod Cyllideb Gwanwyn 2023, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi dogfen drafod er mwyn archwilio sut y gall CThEF symleiddio a moderneiddio gwasanaethau Treth Incwm CThEF (yn Saesneg) fel rhan o’i Adolygiad o’r Fframwaith Gweinyddu Trethi.

Mae hyn yn amlinellu ein bwriad o gynyddu nifer y bobl sy’n dewis cael rhai o’n llythyrau a’n ffurflenni ar ffurf ddigidol. Mae hefyd yn ceisio barn ar wella prosesau TWE, ac yn lansio adolygiad o’r meini prawf ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm.

Goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian — fideos YouTube ar gael i helpu busnesau

Mae CThEF wedi lansio 4 canllaw newydd ar ffurf fideo ynghylch goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian (yn Saesneg). Mae’r rhain i helpu cwsmeriaid i gael pethau’n iawn y tro cyntaf wrth iddynt gofrestru gyda CThEF ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian.

Mae’r fideo ‘Sut ydw i’n cofrestru ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian?’ yn egluro sut i wneud y canlynol:

  • creu cyfrif Porth y Llywodraeth

  • mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth

  • gwneud cais i gofrestru, a llenwi pob adran

  • ychwanegu gwybodaeth am eich busnes

  • llenwi datganiad

  • talu’r ffioedd

Mae ‘Pryd a sut ydw i’n talu am oruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian?’ yn egluro:

  • sut i dalu ffioedd pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru am y tro cyntaf

  • pryd bydd eich ffi oruchwylio flynyddol yn ddyledus

Mae ‘Sut i dalu’ch ffi oruchwylio flynyddol, neu sut i optio allan o’r oruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian’ yn esbonio sut i wneud y canlynol:

  • mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein i dalu’ch ffi oruchwylio flynyddol

  • datgofrestru, os nad oes angen i chi fod wedi’ch cofrestru gyda CThEF mwyach o dan y rheoliadau gwyngalchu arian

Mae ‘Pa ffioedd y mae angen i mi eu talu am oruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian?’ yn egluro:

  • pa ffioedd y mae angen i chi eu talu

  • y ffi gofrestru

  • y ffi ar gyfer y prawf ‘gweddus a phriodol’ neu’r ffi ar gyfer y broses gymeradwyo

  • y ffi flynyddol ar gyfer eich safle

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:

  • nam ar eu golwg

  • anawsterau echddygol

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw

Erbyn hyn, mae’r dudalen cynnwys gyda’r cysylltiadau i erthyglau i’w gweld ar ochr chwith y sgrin, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r Dudalen’ ar yr ochr chwith a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
  • cadw’r ddogfen fel PDF:
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r Dudalen’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — bydd hyn yn caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein e-byst hysbysu (yn Saesneg).

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter @HMRCgovuk.

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu syniadau ar gyfer erthyglau ym mwletinau yn y dyfodol, drwy e-bostio mary.croghan@hmrc.gov.uk.