Canllawiau

Bwletin y Cyflogwr: Ebrill 2023

Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.

Dogfennau

Manylion

Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.

Mae rhifyn mis Ebrill o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:

  • rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2023
  • yr arolwg blynyddol, Dweud Wrth ABAB, sy’n rhoi’r cyfle i fusnesau bach leisio’u barn yn uchel yn y system dreth
  • deall eich ymrwymiadau o ran hawl i weithio ac Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • fideos YouTube ynghylch goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian i helpu busnesau
  • paratoi ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd
  • y gyfradd llog swyddogol o 6 Ebrill 2023 ymlaen

Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.

Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.

Cyhoeddwyd ar 19 April 2023