Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Rhifyn 57

Cyhoeddwyd 9 May 2017

This gohebiaeth was withdrawn on

This document has been archived as it is over 2 years old.

Applies to England and Wales

Dechrau’r flwyddyn ariannol newydd yn iawn

Mae rheolaeth ariannol gadarn yn hollbwysig er mwyn i elusennau allu diogelu eu hunain yn erbyn anawsterau neu gamdriniaeth ariannol ac ateb anghenion eu buddiolwyr.

Does dim adeg well na dechrau’r flwyddyn ariannol newydd i asesu sefyllfa ariannol a rheolaethau ariannol eich elusen i weld sut y gallwch chi eu gwella. Mae gwneud hyn yn allweddol er mwyn sicrhau bod eich ymddiriedolwyr yn gallu diogelu asedau ac adnoddau’r elusen.

Diweddarwyd ein canllaw Cyllid elusennau: yr hanfodion i ymddiriedolwyr (CC25) yn ddiweddar i helpu ymddiriedolwyr a staff elusennau i fynd i’r afael â hanfodion rheolaeth ariannol. Mae hefyd yn cysylltu â chanllawiau mwy manwl ar nifer o feysydd.

Rydym wedi diweddaru ein rhestr wirio 15 cwestiwn hefyd sy’n declyn defnyddiol i weld a ydych wedi rhoi sylw i’r pethau sylfaenol, nodi blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac adolygu effeithiolrwydd ariannol cyffredinol eich elusen.

Ymgyrchu yn ystod cyfnod yr etholiad

Yn ystod y cyfnod yn arwain at yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin, dylai elusennau ymgyfarwyddo â’n canllaw ar Ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol i elusennau (CC9) yn ogystal â’r canllawiau atodol ar elusennau, etholiadau a refferenda.

Cynhyrchiwyd adroddiad achos yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2015 hefyd sy’n ystyried rhai o’r gwersi defnyddiol ar gyfer elusennau ac ymddiriedolwyr ynghylch ymgyrchu.

Beth yw’ch proses a pholisi ymsefydlu ar gyfer ymddiriedolwyr newydd?

Mae ymsefydlu priodol yn sicrhau bod ymddiriedolwyr yn dod yn aelodau gwerthfawr ac effeithiol o’r bwrdd mor gyflym â phosibl. Fan lleiaf argymhellwn y dylai recriwtiaid newydd i fyrddau elusennau gael y prif ddogfennau am yr elusen, gan gynnwys:

  • dogfen lywodraethol yr elusen
  • adroddiad blynyddol a chyfrifon diweddaraf yr elusen
  • cofnodion cyfarfodydd diweddar yr ymddiriedolwyr
  • polisi’r elusen ar ddelio â gwrthdaro buddiannau
  • unrhyw ddogfennau allweddol eraill y bydd eu hangen ar yr ymddiriedolwyr, er enghraifft, cynllun strategol yr elusen, ei gweledigaeth a’i gwerthoedd neu ddatganiad cenhadaeth

Dylai ymddiriedolwyr newydd gwrdd â’r ymddiriedolwyr eraill a phobl allweddol yn yr elusen i gael dealltwriaeth well o’i gwaith ac unrhyw heriau. Dylent hefyd ddarllen ein canllaw: Yr ymddiriedolwr hanfodol: beth mae angen i chi ei wybod, beth mae angen i chi ei wneud (CC3).

Cynghorwn elusennau i fuddsoddi mewn hyfforddiant, cymorth a datblygiad eu hymddiriedolwyr, yn ogystal ag aelodau o staff i gynyddu’r cyfraniad y gall y bwrdd ei wneud at reolaeth yr elusen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllaw Cael hyd i ymddiriedolwyr newydd (CC30).

Diweddariad digidol: Comisiwn Elusennau i lansio dau wasanaeth digidol newydd

O fewn y misoedd nesaf, byddwn yn lansio 2 gwasanaeth digidol newydd sbon a fydd yn caniatáu i ymddiriedolwyr newid eu henw a newid yr amcanion yn eu dogfen lywodraethol ar-lein.

Mae’r gwasanaethau wedi cael eu profi’n helaeth gyda nifer o elusennau, cyrff ambarél ac unigolion, gan gynnwys y rhai sydd â sgiliau digidol isel, ac rydym yn ffyddiog eu bod yn hawdd iawn i’w defnyddio a byddant yn creu arbedion amser sylweddol i ddefnyddwyr, o’i gymharu â’r broses llaw bresennol.

Cadwch olwg ar GOV.UK a ffrwd Twitter i gael rhagor o wybodaeth.

Newidiadau i bolisi’r Adran Iechyd ar gyfer elusennau GIG

Nid oes angen caniatâd ar elusennau GIG mwyach gan yr Ysgrifennydd Gwladol i newid eu henw neu eu dogfen lywodraethol. Mae hyn yn golygu bod y broses yn llawer symlach ar gyfer yr elusennau hyn. Cewch wybod sut i newid enw elusen neu ddogfen lywodraethol ar GOV.UK.

Rhybudd yn erbyn defnyddio negeswyr arian parod

Bydd rhaid i nifer o elusennau, yn enwedig y rhai sy’n gweithio dramor, fod yn ymwybodol o rybudd a gyhoeddwyd yn ddiweddar mewn cydweithrediad â’r heddlu ar ôl i ni weld cynnydd yn nifer yr elusennau y mae eu harian yn cael ei gipio o’u codwyr arian, asiantau a chynrychiolwyr ar ffin y DU.

Gall cipio arian olygu bod buddiolwyr elusen yn colli allan, mae’n cael effaith ar weithgareddau’r elusen ac mae’n arwain at golli arian rhoddwyr. Mae cyngor y Comisiwn yn syml: peidiwch â defnyddio negeswyr arian heblaw pan nad oes unrhyw ddull posibl arall o symud arian.

Gair i’ch atgoffa am ofynion cyfrifyddu eich elusen

Mae paratoi adroddiad blynyddol a chyfrifon yn gyfle pwysig i ymddiriedolwyr adrodd ar yr hyn y mae’r elusen wedi’i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf a dangos i’w chefnogwyr, darpar noddwyr a’r cyhoedd eu bod wedi rheoli ei hadnoddau yn effeithiol a’u bod yn gwneud gwahaniaeth i’w buddiolwyr ac yn bodloni ei hamcanion.

Mae’r gofynion manwl yn dibynnu’n bennaf ar faint eich elusen ac mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael ar GOV.UK, ond rhaid i’r holl elusennau cofrestredig baratoi adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr a chyfrifon a sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd eu gweld.

Os yw incwm eich elusen dros £25,000 yna mae’n rhaid i chi drefnu archwiliad annibynnol neu, yn achos yr elusennau mwy, archwiliad ariannol a ffeilio pob un o’r tair dogfen ochr yn ochr â’r ffurflen flynyddol. Os yw’ch elusen yn gwmni neu os oes incwm o fwy na £250,000 ganddi, mae’n rhaid i chi baratoi cyfrifon croniadau.

Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau yn ddiweddar ar ansawdd cyfrifon elusen, un wedi’i anelu at elusennau bach a’r llall wedi’i anelu at elusennau mwy, sy’n tynnu sylw at y gofynion allweddol o ran ateb anghenion darllenwyr a rhai camgymeriadau cyffredin i’w hosgoi wrth baratoi adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr a’r cyfrifon. Rydym wedi cyhoeddi nodyn atgoffa ar gyfer y gofyniad i adrodd ar fudd cyhoeddus hefyd.

Templedi cyfrifyddu newydd wedi’u cynhyrchu gyda Thŷ’r Cwmnïau

Os ydych yn ymddiriedolwr cwmni elusennol gydag incwm o dan £500,000 neu’n helpu i baratoi’r cyfrifon hynny ac nid ydych yn siŵr pa wybodaeth i’w chynnwys yn eich adroddiad blynyddol a chyfrifon, neu os ydych am arbed amser, gallwch ddefnyddio ein templedi cyfrifyddu newydd rydym wedi’u datblygu gyda Thŷ’r Cwmnïau.

Bydd defnyddio’r rhain yn helpu i sicrhau eich bod yn rhoi’r wybodaeth gywir sydd ei hangen arnom i ni fel rheoleiddiwr, ond bydd yn eich helpu i gynhyrchu cyfrifon o safon hefyd sy’n dangos i’ch cefnogwyr sut rydych wedi defnyddio eu rhoddion hael. Mae templedi ar gael hefyd ar gyfer elusennau nad ydynt yn gwmnïau gydag incwm o dan £500,000 a thempledi ar gyfer adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr.

Newidiadau i’r fframwaith gwaredu tir ar gyfer cymdeithasau tai

O 6 Ebrill 2017, nid oes rhaid i ddarparwyr cofrestredig tai cymdeithasol yn Lloegr gael cydsyniad mwyach gan yr Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau, neu weinidogion Cymru mewn perthynas â thir yng Nghymru, i waredu tir a rhoi morgeisiau. O ganlyniad, yn gyffredinol bydd rhaid i ddarparwyr cofrestredig sy’n elusennau cofrestredig gydymffurfio ag adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 pan fyddant yn gwaredu tir, a chydymffurfio ag adran 124 pan fyddant yn rhoi morgeisiau dros dir.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau yn ogystal â dyletswyddau cyfreithiol cyffredinol ymddiriedolwyr wrth waredu tir i’w gweld ar GOV.UK.

Gwneud y penderfyniadau iawn i’ch elusen chi

Mae’n rhaid i fyrddau elusennau wneud penderfyniadau anodd yn rheolaidd. Mae’r canllaw Eich penderfyniad chi y Comisiwn yn cynnig cyngor i ymddiriedolwyr ynghylch sut i wneud penderfyniadau, a’r pethau allweddol i’w hystyried. I’ch atgoffa, wrth wneud penderfyniadau mae dyletswydd gyfreithiol gan ymddiriedolwyr i:

  • weithredu o fewn eu pwerau
  • gweithredu mewn ewyllys da a dim ond er lles yr elusen
  • sicrhau bod digon o wybodaeth ganddynt
  • rhoi sylw i’r holl ffactorau perthnasol
  • anwybyddu unrhyw ffactorau amherthnasol
  • rheoli gwrthdaro buddiannau
  • gwneud penderfyniadau sydd o fewn yr ystod o benderfyniadau y byddai’n rhesymol i gorff ymddiriedolwyr eu gwneud

Elusennau a phensiynau gweithle: ydych chi’n ymwybodol o’ch dyletswyddau cofrestru awtomatig?

Bydd dyletswyddau cofrestru awtomatig gennych chi hyd yn oed os ydych yn cyflogi dim ond un aelod o staff. Nid yw elusennau wedi’u heithrio rhag y gofyniad cyfreithiol hwn.

Bydd rhaid i chi asesu eich staff, eu cynnwys mewn cynllun pensiwn os ydynt yn bodloni meini prawf arbennig, dweud wrthynt beth rydych wedi’i wneud (a ydynt yn bodloni’r meini prawf neu beidio i gael eu cofrestru’n awtomatig), a chwblhau a chyflwyno Datganiad o Gydymffurfiaeth i’r Rheoleiddiwr Pensiynau erbyn dyddiad penodol.

Mae canllawiau gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ar ei wefan i’ch helpu, gan gynnwys gwiriwr dyletswyddau ar-lein (y mae’n cymryd ychydig o funudau i’w gwblhau) i’ch helpu i ddeall beth mae angen i chi ei wneud, ac erbyn pryd.

I wybod rhagor ewch i wefan Y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Ydych chi’n arddangos ymrwymiad at arferion da codi arian?

Mae Codi arian ar gyfer elusennau: canllaw i ddyletswyddau ymddiriedolwyr (CC20) yn amlinellu’r gyfraith a’r egwyddorion ymarfer da y dylai ymddiriedolwyr eu dilyn wrth ddelio â chodi arian. Mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd dilyn y safonau codi arian cydnabyddedig, a osodir gan y Rheoleiddiwr Codi Arian yn y Cod Ymarfer Codi Arian.

Erbyn hyn gall elusennau ddangos eu hymrwymiad at arferion gorau codi arian mewn dwy ffordd:

  • yn achos elusennau gyda chostau codi arian sy’n fwy na £100,000, trwy dalu’r ardoll wirfoddol i fodloni costau’r Rheoleiddiwr Codi Arian; mae llythyrau ac anfonebau eisoes wedi cael eu hanfon at bob elusen a gwmpesir gan yr ardoll. Os oes unrhyw ymholiadau gennych, neu os nad ydych yn siŵr a yw’ch elusen wedi talu, cysylltwch â levy@fundraisingregulator.org.uk
  • gall elusennau eraill gofrestru’n wirfoddol gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian

Mae elusennau sy’n dangos eu cefnogaeth yn cael cydnabyddiaeth gyhoeddus ar y gofrestr sy’n cael ei dangos ar wefan y Rheoleiddiwr Codi Arian, a gallant ddefnyddio bathodyn y rheoleiddiwr ar eu deunyddiau marchnata a chodi arian.

Gwasanaeth Dewis Codi Arian: ydych chi’n barod?

Cyn bo hir bydd y Rheoleiddiwr Codi Arian yn lansio gwasanaeth dewis codi arian sy’n caniatáu i’r cyhoedd ddewis elusennau nad ydynt am iddynt gael cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol ganddynt.

Darllenwch yr wybodaeth a’r daflen fer sydd ar gael ar wefan y Rheoleiddiwr Codi Arian i sicrhau eich bod yn deall sut y bydd y newidiadau yn effeithio ar gyfathrebiadau â’ch cefnogwyr.

Elusennau mwy: profi eich gwydnwch yn erbyn twyll

Mae’r Comisiwn yn annog elusennau mwy i ddefnyddio teclyn am ddim sy’n ceisio eu helpu i asesu eu gwydnwch yn erbyn twyll a diogelu asedau’r elusen. Mae 29 o gwestiynau tracio gan y Teclyn Hunanasesu Gwydnwch Twll (SAFR) sy’n golygu y gall cyrff sefydlu:

  • pa mor dda y mae’n deall natur a chost twyll
  • a oes strategaeth effeithiol ganddynt i roi sylw i’r broblem
  • a oes strwythur gwrth-dwyll ganddynt sy’n eu helpu i weithredu eu strategaeth
  • i ba raddau y mae twyll wedi’i reoli fel unrhyw fater busnes arall

Er y bydd ymatebion unigol elusennau yn hollol gyfrinachol, bydd y Comisiwn yn defnyddio trosolwg o’r canlyniadau, gan ei alluogi i nodi meysydd o gryfder neu wendid arbennig. Bydd hyn yn ein helpu i wella canllawiau a sefydlu tueddiadau mwy hirdymor.

Newidiadau anghymhwyso awtomatig

Sylwch nid yw’r darpariaethau anghymhwyso awtomatig newydd ar gyfer ymddiriedolwyr ac uwch reolwyr wedi cael eu gweithredu eto. Bydd y llywodraeth newydd ar ôl yr Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin yn gwneud y penderfyniad ynghylch eu gweithredu. Yna bydd y Comisiwn yn rhoi diweddariadau pellach.

Cadw mewn cysylltiad â’r Comisiwn

Mae ein canolfan gyswllt ar agor 10am - 12pm a 1pm - 3pm, Llun - Gwener ar 0300 066 9197; byddwn yn gallu eich helpu os ydych yn cael problemau technegol gyda ffurflen flynyddol, cais i gofrestru neu unrhyw un o’n ffurflenni ar-lein.

Gallwch gofrestru i gael rhybuddion GOV.UK hefyd ac felly byddwch yn gwybod pryd rydym wedi diweddaru ein cynnwys ar y we. Hon yw’r ffordd symlaf o gadw i fyny â’r wybodaeth ddiweddaraf. Gofynnir i chi am gyfeiriad e-bost i greu tanysgrifiad, a gallwch ddewis pa mor aml yr hoffech chi gael rhybudd pan fyddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar y we.