Canllawiau

Cyfarfodydd ymddiriedolwyr elusennau: 15 cwestiwn y dylech chi eu gofyn

Defnyddiwch y rhestr wirio hon i adolygu effeithiolrwydd eich elusen mewn Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, cyfarfodydd ymddiriedolwyr, trafodaethau diwrnod cwrdd i ffwrdd neu gyfarfodydd cynllunio.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Mae’r rhestr wirio 15 cwestiwn hon yn addas i bob elusen, er mae’n bosib na fydd rhai cwestiynau yn berthnasol i faint eich elusen a sut y mae’n gweithredu.

Fel ymddiriedolwyr, gallech chi ei defnyddio pryd bynnag rydych chi’n adolygu’r ffordd y mae’ch elusen yn gweithredu, yn enwedig yn ystod cyfnodau economaidd newidiol neu ansicr. Gall hyn fod yn drafodaethau anffurfiol neu’n eitemau ar yr agenda mewn cyfarfodydd ymddiriedolwyr, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, diwrnodau cwrdd i ffwrdd neu gyfarfodydd cynllunio.

Gall y rhestr wirio eich helpu chi i:

  • strwythuro trafodaethau am yr hyn y mae’ch elusen yn ei wneud a sut y mae’n gwneud hynny
  • sicrhau bod eich elusen yn ddiogel yn ariannol, hyd yn oed mewn adegau economaidd anodd
  • datblygu cynlluniau ac amserlenni ar gyfer gweithredu
  • dangos eich bod chi’n ymateb yn briodol i newid

Mae’r rhestr wirio yn cynnwys cysylltiadau i ganllawiau’r Comisiwn Elusennau ac mae’n cwmpasu:

  • strategaeth - cyfleoedd a risgiau
  • iechyd ariannol
  • llywodraethu, gan gynnwys diogelu
  • gwneud y defnydd gorau o adnoddau
Cyhoeddwyd ar 19 December 2012
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 March 2017 + show all updates
  1. Some small changes to improve clarity

  2. First published.