Ffurflen

Sut i wneud cais am help i dalu ffioedd: EX160A

Diweddarwyd 4 March 2024

Pryd i wneud cais am help i dalu ffioedd

Rhaid i chi wneud cais am help i dalu ffioedd ar yr un pryd ag y byddwch yn gwneud eich cais i’r llys neu’r tribiwnlys, ac y byddech fel arall yn talu ffi. Mae’n rhaid i chi wneud cais ar wahân am help i dalu ffioedd ar gyfer pob ffi sy’n daladwy gennych. Bydd y staff yn prosesu eich ceisiadau ar yr un pryd, ac yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi dalu rhywfaint tuag at y ffi, neu os bydd arnynt angen rhagor o wybodaeth.

Gwnewch gais am help i dalu ffioedd ar-lein, neu defnyddiwch y ffurflen gais bapur EX160.

Os ydych yn gwneud eich cais i’r llys neu’r tribiwnlys ar-lein, efallai y bydd angen i chi wneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein hefyd.

Y Llys Gwarchod

Os ydych yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod ac rydych angen help i dalu’r ffi, bydd angen ichi lenwi Ffurflen COP44A a chyfeirio at y cyfarwyddyd perthnasol.

Pwy all gael help i dalu ffioedd

Efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi, neu efallai y cewch ostyngiad:

Weithiau, gelwir help i dalu ffioedd yn ‘dileu ffi’.

Dim ond unigolion all wneud cais am help i dalu ffioedd. Mae hyn yn cynnwys unig fasnachwyr (pobl sy’n rhedeg eu busnes eu hunain).

Yn y rhan fwyaf o achosion, gall gwladolion o’r tu allan i’r DU wneud cais am help i dalu ffioedd os mai llys neu dribiwnlys yn y DU sy’n delio â’r achos neu’r hawliad. Fodd bynnag, yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Mewnfudo a Lloches), ni fyddwch yn gymwys i gael help i dalu ffioedd os nad ydych yn y DU ar yr adeg y byddwch yn dechrau eich apêl.

Ni allwch gael help i dalu ffioedd ar gyfer y ffi sy’n daladwy am geisiadau i gael copi o ddogfen, cael mwy nag un copi neu chwiliadau. Hefyd, ni allwch gael help i dalu ffioedd ar gyfer ffioedd a dalwyd i drydydd parti, megis am drawsgrifiadau neu adnau ansolfedd.

Os nad ydych yn gymwys i gael help i dalu ffioedd am unrhyw reswm, ac os ydych yn debygol o brofi caledi eithriadol, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais i rywfaint o’r ffi neu’r ffi lawn gael ei dileu o dan bŵer eithriadol yr Arglwydd Ganghellor.

Eich manylion personol

Mae’r llys neu’r tribiwnlys angen manylion megis eich enw, dyddiad geni, Rhif Yswiriant Gwladol neu gyfeirnod y Swyddfa Gartref i’ch adnabod chi. Os oes gennych bartner, dylech ddarparu eu rhif Yswiriant Gwladol neu eu cyfeirnod y Swyddfa Gartref nhw hefyd.

Fel arfer bydd eich rhif Yswiriant Gwladol ar lythyrau gan y Ganolfan Byd Gwaith, ar eich slip cyflog, neu P60. Sut i ddod o hyd i rif Yswiriant Gwladol coll.

Efallai bydd gennych gyfeirnod y Swyddfa Gartref os ydych yn destun rheolaeth fewnfudo. Fe welwch gyfeirnod y Swyddfa Gartref ar unrhyw ohebiaeth a gawsoch gan y Swyddfa Gartref.

Efallai y byddwn yn gwirio eich manylion (gan gynnwys manylion eich partner, os oes gennych un) yn erbyn gwybodaeth sydd gan adrannau eraill y llywodraeth amdanoch. Bydd hyn yn helpu i’ch atal rhag cael cais i ddarparu gwybodaeth bellach cyn y gwneir penderfyniad.

Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol neu’n gyfaill cyfreitha, gallwch wneud cais ar ran rhywun am ffioedd sy’n ddyledus i’w talu ar neu ar ôl 27 Tachwedd 2023. Mae’n rhaid ichi wneud y cais yn enw’r unigolyn yr ydych yn gwneud cais ar ei ran gan ddefnyddio eu manylion personol ac ariannol nhw, ond mae’n rhaid ichi ddefnyddio eich manylion cyswllt chi a rhaid i chi lofnodi’r ffurflen.

Os ydych yn y broses o wneud cais i fod yn gyfaill cyfreitha, mae’n rhaid ichi lenwi Ffurflen FP9 cyn y gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd.

Eich statws

Os oes gennych bartner, bydd sefyllfa ariannol eich partner yn cael ei hystyried a rhaid i chi ddarparu manylion am eu cynilion a’u hincwm nhw hefyd.

Dewiswch ‘sengl’:

  • os ydych yn byw ar eich pen eich hun ac yn dibynnu ar eich incwm chi yn unig
  • os ydych wedi gwahanu’n barhaol ac rydych efallai yn y broses o wneud cais am ysgariad, diddymiad neu ddirymiad ac nid ydych yn byw gyda phartner newydd
  • mae gennych bartner, ond mae ganddynt fudd sy’n gwrthdaro yn eich achos

Dewiswch ’wedi priodi neu’n byw â rhywun’:

  • os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil
  • os ydych yn cyd-fyw â phartner fel pe baech wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil
  • os oes gennych bartner ond rydych yn cael eich gorfodi i fyw ar wahân, er enghraifft, mae un neu’r ddau ohonoch yn y Lluoedd Arfog, yn y carchar neu’n byw mewn gofal preswyl

Gwneud cais am ad-daliad os ydych wedi talu’r ffi yn barod

Gallwch wneud cais i gael rhywfaint o’ch arian yn ôl, neu’r arian i gyd os ydych wedi talu ffi yn y 3 mis diwethaf, ac rydych yn credu eich bod yn gymwys i gael help i dalu ffioedd pan wnaethoch dalu’r ffi.

Os ydych yn gwneud cais am ad-daliad, mae angen ichi ddarparu manylion am y cynilion, y buddsoddiadau, y budd-daliadau a’r incwm yr oedd gennych pan wnaethoch dalu’r ffi, yn hytrach na nawr.

Dod o hyd i rif ffurflen y llys neu dribiwnlys

Mae angen i chi roi rhif y ffurflen rydych yn ei defnyddio i wneud eich cais i’r llys neu dribiwnlys. Fel arfer, gallwch ddod o hyd i’r rhif hwn ar waelod y ffurflen.

Os nad oes gennych rif ffurflen, er enghraifft os ydych yn gwneud cais am help i dalu ffi gwrandawiad ar gyfer hawliad bychan neu ysgariad drwy ein system ar-lein, yna rhowch ‘ffi gwrandawiad ar gyfer hawliad bychan’ neu ‘ysgariad ar-lein’ yn ateb i’r cwestiwn hwn.

Os nad ydych yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwn, gadewch y blwch yn wag.

Dod o hyd i rif eich achos, hawliad, apêl neu ‘hysbysiad talu’

Mae’r llys neu’r tribiwnlys yn creu cyfeirnod ar gyfer pob achos. Weithiau, gelwir hwn yn rhif hawliad, rhif achos, rhif apêl neu rif ‘hysbysiad talu’.

Os yw eich achos yn mynd ymlaen ar hyn o bryd, bydd y cyfeirnod ar lythyrau gan y llys neu dribiwnlys.

Os nad oes gennych gyfeirnod (efallai am nad yw eich achos wedi dechrau eto) gadewch y blwch hwn yn wag.

Talu ffi am achos profiant

Profiant yw pan ydych yn gwneud cais am yr hawl i ddelio ag adeiladau, arian ac eiddo (‘ystad’) rhywun sydd wedi marw yng Nghymru neu Loegr.

Darllenwch fwy am wneud cais am brofiant

Eich cynilion a buddsoddiadau

Dechreuwch drwy adio eich cynilion. Os oes gennych bartner, cofiwch gynnwys eu cynilion nhw hefyd.

Beth i’w gynnwys mewn cynilion a buddsoddiadau:

  • arian mewn ISAs ac unrhyw gyfrif cynilo arall, gan gynnwys ymddiriedolaethau plant sydd wedi aeddfedu a Junior ISAs
  • unrhyw incwm nas wariwyd o fisoedd blaenorol
  • bondiau cyfradd sefydlog neu fondiau buddsoddi
  • unrhyw gyfandaliad (er enghraifft, taliad dileu swydd)
  • stociau a chyfranddaliadau (gan gynnwys cryptoarian)
  • gwerth ecwati mewn ail gartrefi
  • unrhyw arian neu eiddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig
  • eich cyfran chi o unrhyw gyfrifon cynilo ar y cyd neu fuddsoddiadau sydd gennych gyda’ch partner os yw eich achos yn eu herbyn, neu mae ganddynt fudd sy’n gwrthdaro yn yr achos

Peidiwch â chynnwys y canlynol yn eich cyfanswm cynilion:

  • cyflogau neu fudd-daliadau
  • pensiynau personol
  • benthyciadau myfyrwyr
  • gwerth cyfalaf busnesau hunangyflogedig
  • cynilion neu fuddsoddiadau eich partner os yw eich achos yn eu herbyn, neu os oes ganddynt fudd sy’n gwrthdaro yn yr achos

Peidiwch â chynnwys taliadau o’r canlynol yn eich cyfanswm cynilion:

  • dyfarniadau am ddiswyddo annheg neu setliadau am ddiswyddo annheg
  • Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • iawndal o ganlyniad i dân Tŵr Grenfell
  • Deddf Cynllun Iawndal Windrush (Gwariant) 2020
  • Cynllun Gwneud Iawn Cartrefi Plant Lambeth
  • Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain
  • dyfarniadau am esgeulustod meddygol neu anafiadau personol
  • Cynllun Cam-drin Corfforol Canolfan Gadw Medomsley
  • Cynllun Iawndal Camweinyddu Cyfiawnder
  • Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol
  • Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol
  • Cynlluniau Cymorth Gwaed Heintiedig
  • iawndal am gaethiwedigaeth, llafur gorfodol, anaf neu golli plentyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd
  • Cynllun Gwneud Iawn Cymdeithas Iesu Grist
  • Iawndal Taliad Niwed Trwy Frechiad
  • Iawndal o ganlyniad i Glefyd Amrywiolyn Creutzfeldt-Jakob
  • Cynllun Iawndal Dioddefwyr Terfysgaeth Tramor
  • Cronfa Argyfwng We Love Manchester

Os oes gennych £4,250 neu fwy wedi’i gynilo

Eich ffi llys neu dribiwnlys Mae’n rhaid bod gennych lai na’r swm hwn wedi’i gynilo a’i fuddsoddi i fod yn gymwys i gael help i dalu ffioedd
Hyd at £1,420 £4,250
Rhwng £1,421 a £5,000 3 gwaith eich ffi llys neu dribiwnlys
£5,001 neu fwy £16,000

Bydd y ffioedd yn dibynnu ar eich hawliad neu achos. Darllenwch fwy am ffioedd llysoedd a thribiwnlysoedd.

Os ydych chi (neu eich partner) yn 66 oed neu’n hŷn, a bod gennych lai na £16,000 wedi’i gynilo, efallai y gallwch gael help i dalu eich ffi. Os oes gennych fwy na’r swm hwn, ni fyddwch yn gallu cael cymorth ariannol o dan y cynllun help i dalu ffioedd.

Os ydych chi’n cael budd-daliadau

Byddwch yn gallu cael help i dalu ffioedd os nad oes gennych gynilion, neu os oes gennych lai o gynilion na’r swm perthnasol gan ddibynnu ar eich ffi llys neu dribiwnlys, a’ch bod yn cael un o’r budd-daliadau hyn:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Cynhwysol (a’ch bod yn ennill llai na £6,000 y flwyddyn)
  • Credyd Pensiwn (credyd gwarant)

Byddwn yn cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i gadarnhau eich bod chi (neu yr oeddech) yn cael un o’r budd-daliadau hyn. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi os byddwn angen gweld tystiolaeth ychwanegol.

Plant sy’n byw gyda chi, neu sy’n cael eu cynnal yn ariannol gennych chi

Mae angen i chi roi manylion unrhyw blant rydych chi (neu eich partner) yn eu cynnal yn ariannol.

Mae hyn yn cynnwys plant sydd:

  • o dan 16 oed ac yn byw gartref gyda chi
  • rhwng 16 a 19 oed, yn sengl, yn byw gartref gyda chi ac mewn addysg llawn amser (heb gynnwys astudio ar gyfer gradd neu gymhwyster addysg uwch arall)
  • plentyn nad yw’n byw gyda chi, ond rydych chi (neu eich partner) yn gwneud taliadau cynhaliaeth rheolaidd ar ei gyfer

Darllenwch fwy am Credyd Treth Plant pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 16 oed.

Cyfanswm eich incwm misol

Ysgrifennwch y swm o arian a gawsoch yn y mis calendr diwethaf. Os nad yw eich incwm yr un fath bob mis, gallwch ddefnyddio eich incwm am y mis blaenorol neu eich incwm ar gyfartaledd ar gyfer y 3 mis diwethaf, pa un bynnag yw’r isaf.

Beth i’w gynnwys fel incwm:

  • cyflogau gros (hynny yw, cyn i unrhyw daliadau treth neu Yswiriant Gwladol gael eu didynnu)
  • eich elw net os ydych chi’n hunangyflogedig
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • taliadau cynhaliaeth
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Gyfraniadau (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Gyfraniadau (ESA)
  • Credyd Cynhwysol
  • pensiynau (gwladol, gwaith, preifat ac elfen cynilion credyd pensiwn)
  • rhent gan unrhyw un sy’n byw gyda chi ac ar gyfer unrhyw eiddo arall yr ydych wedi’i brynu
  • rhoddion ariannol (gan gynnwys taliadau un-tro)
  • benthyciadau
  • cefnogaeth ariannol gan eraill
  • incwm arall – er enghraifft, incwm o werthu nwyddau ar-lein neu o ddifidendau neu daliadau llog

Ble i ddod o hyd i wybodaeth am eich incwm

Os byddwn yn gofyn i gael gweld prawf o’ch incwm, rydym yn argymell eich bod yn cadw unrhyw waith papur neu gipluniau rydych yn eu defnyddio i gwblhau eich cais.

Cyflog

Dylech nodi’r swm gros ar eich slip cyflog ar gyfer y mis calendr diwethaf. Os nad yw eich cyflog am y mis calendr diwethaf yn gynrychioladol o beth rydych yn ei gael fel arfer, gallwch ddarparu’r cyfartaledd am y 3 mis diwethaf.

Dewiswch yr opsiwn mis calendr diwethaf neu’r opsiwn cyfartaledd 3 mis sydd islaw’r blwch incwm i ddangos incwm ar gyfer pa gyfnod o amser rydych yn ei ddarparu.

Elw net o swyddi hunangyflogedig

Elw net yw’r refeniw a enillwyd yn y mis calendr cyn i chi wneud y cais, minws gwariant y busnes ar gyfer y mis hwnnw.

Os ydych chi’n hunangyflogedig ac angen nodi eich enillion misol, dylech gyfrifo’r elw net a wnaethoch yn y mis calendr cyn i chi wneud y cais. Os nad yw eich elw net yr un fath bob mis, gallwch ddarparu cyfartaledd o’ch elw net dros y 3 mis diwethaf. Os ydych yn bartner mewn busnes, dylech ond gynnwys eich cyfran chi o’r elw.

Y dull a ffafrir ar gyfer cyfrifo refeniw a gwariant ar gyfer busnesau syml yw cydnabod incwm pan ddaw i mewn i’r busnes a chydnabod gwariant pan a allan. Gelwir y dull cyfrifo hwn yn ‘ar sail arian parod’. Bydd elw a gyfrifwyd ‘ar sail croniadau’ hefyd yn cael ei dderbyn - dyma pryd rydych yn cofnodi incwm pan fyddwch yn anfonebu eich cwsmeriaid a’ch treuliau pan fyddwch yn cael bil. Dewiswch yr opsiwn mis calendr diwethaf neu’r opsiwn cyfartaledd 3 mis sydd islaw’r blwch incwm i ddangos incwm ar gyfer pa gyfnod o amser rydych yn ei ddarparu.

Dylech gynnwys pob cyfrif banc y telir incwm i mewn iddo ac a ddefnyddir i dalu treuliau busnes ohono i gyfrifo eich elw net, boed y cyfrifon hynny yn gyfrifon personol neu’n cyfrifon busnes.

Budd-dal Plant, Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant

Fel arfer bydd y swm misol ar dudalen olaf y llythyr gan Cyllid a Thollau EF (HMRC) neu ar unrhyw gyfrif ar-lein sy’n cadarnhau eich bod yn cael Budd-dal Plant, Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant.

Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Gyfraniadau (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Gyfraniadau (ESA), a Chredyd Cynhwysol (UC)

Fel arfer bydd y swm misol yn y llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu ar eich cyfrif ar-lein sy’n cadarnhau eich bod yn cael y budd-dal.

Pensiynau

Dylech allu gweld eich incwm pensiwn misol ar eich datganiad pensiwn.

Datganiad Incwm a Gwariant Carcharorion

Bydd eich incwm misol ar eich Datganiad Incwm a Gwariant Carcharor os ydych yn garcharor.

Cynnwys incwm eich partner

Os oes gennych bartner, cofiwch gynnwys unrhyw arian y maen nhw’n ei gael hefyd. Gweler yr adran ‘Eich statws’ os nad ydych yn siŵr a ddylech gynnwys incwm eich partner.

Dim incwm

Os nad oes gennych chi (a’ch partner) incwm, efallai y gofynnir am dystiolaeth i ddangos sut ydych yn cefnogi eich hun.

Os ydych yn byw tu allan i’r DU

Troswch eich incwm misol i bunnoedd sterling (GBP) gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid gyfredol. Bydd ein staff yn caniatáu newidiadau bychan i’r gyfradd gyfnewid o pan fyddwch yn cwblhau eich cais i’r dyddiad y bydd yn cael ei asesu.

Incwm eithriedig

Peidiwch â chynnwys y budd-daliadau hyn fel incwm:

  • taliadau ymlaen llaw a wnaed ar gyfer Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau hanesyddol eraill
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini
  • Taliad Cymorth Profedigaeth
  • Lwfans Gofalwr
  • Elfen Gofalwr Credyd Cynhwysol
  • Elfen Gofal Plant Credyd Treth Gwaith
  • Elfen Gofal Plant Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • elfennau anabledd ac anabledd difrifol Credyd Treth Plant
  • elfennau plentyn ag anabledd ac anabledd difrifol Credyd Cynhwysol
  • elfennau plentyn ag anabledd ac anabledd difrifol Credyd Treth Gwaith
  • Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol
  • cymorth ariannol o dan gytundeb ar gyfer gofal maeth plentyn
  • Budd-dal Tai
  • Elfen Credyd Tai Credyd Pensiwn
  • Elfen Tai Credyd Cynhwysol
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Elfen Gallu Cyfyngedig i Weithio Credyd Cynhwysol
  • taliadau a wneir o’r Gronfa Gymdeithasol
  • taliadau a wneir i gefnogi pobl sydd angen gofal cymdeithasol
  • taliadau a wneir o’r Cronfeydd Byw’n Annibynnol
  • pensiwn a a dalwyd dan Orchymyn Pensiwn Gwasanaeth y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Sut y mae eich incwm yn effeithio ar eich gallu i gael help i dalu eich ffi

Yn dibynnu ar eich achos, gellir dileu’r ffi gyfan os mai dim ond ychydig o gynilion sydd gennych chi neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi a’ch bod yn bodloni’r gofynion incwm.

Ceiswyr sengl

Os ydych yn sengl, rhaid bod eich incwm misol yn llai na £1,420 yn ogystal â £425 ar gyfer pob plentyn sy’n 13 oed neu lai, a £710 ar gyfer pob plentyn sy’n 14 oed neu drosodd.

Er enghraifft, rhaid i riant sengl gydag un plentyn dan 13 oed fod ag incwm misol sy’n llai na £1,845. Rhaid i riant sengl gydag un plentyn sy’n 14 oed neu drosodd fod ag incwm misol sy’n £2,130 neu lai.

Os oes gennych chi bartner

Rhaid bod eich incwm misol yn llai na £2,130 yn ogystal â £425 ar gyfer pob plentyn sy’n 13 oed neu lai, a £710 ar gyfer pob plentyn sy’n 14 oed neu drosodd.

Er enghraifft, os ydych yn rhan o gwpl gydag un plentyn dan 13 oed, rhaid bod gennych incwm misol sy’n llai na £2,555. Os oes gan y ddau ohonoch un plentyn sy’n 14 oed neu drosodd, yna yr incwm mwyaf a ganiateir i gael help i dalu ffi yw £2,840.

Dileu rhan o’r ffi

Os yw eich incwm misol yn fwy na’r uchafswm a ganiateir ar gyfer cael help i dalu’r ffi gyfan, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am help i dalu rhan o’r ffi.

Gallwch fod yn gymwys i ddileu rhan o’r ffi:

  • os ydych yn sengl ac mae gennych incwm misol sy’n llai na £4,420 yn ogystal â £425 ar gyfer pob plentyn sydd gennych sy’n 13 oed neu lai, a £710 ar gyfer pob plentyn sy’n 14 oed neu drosodd
  • os ydych yn rhan o gwpl ac mae gennych incwm misol sy’n llai na £5,130 yn ogystal â £425 ar gyfer pob plentyn sydd gennych sy’n 13 oed neu lai, a £710 ar gyfer pob plentyn sy’n 14 oed neu drosodd

Talu rhan o’r ffi

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell gostyngiadau mewn ffioedd EX160C i gyfrifo faint o arian y gallech ei gael oddi ar eich ffi.

Peidiwch ag anfon y swm hwn gyda’ch cais i’r llys. Bydd staff y llys yn prosesu eich cais am help i dalu ffioedd ac yn dweud wrthych faint sydd angen i chi ei dalu a sut i wneud hynny.

Darparu tystiolaeth o’ch incwm

Efallai y byddwch yn cael llythyr gan y llys neu’r tribiwnlys yn gofyn am dystiolaeth o’ch incwm. Os digwydd hyn, bydd y llythyr yn dweud wrthych pa wybodaeth sydd angen i chi ei darparu. Gall hyn gynnwys cyfriflenni banc, slipiau cyflog neu lythyrau gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Mae’n rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y llythyr o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad pan gafodd y llythyr ei anfon atoch gan y llys neu’r tribiwnlys. Os na fyddwch yn ei hanfon o fewn yr amser hwn, bydd eich cais yn cael ei drin fel un sydd wedi’i adael ac ni fydd yn cael ei brosesu ymhellach. Yna bydd angen i chi ddechrau gwneud cais newydd i’r llys neu’r tribiwnlys.

Nid oes angen i chi anfon tystiolaeth o’ch incwm oni bai eich bod yn cael llythyr yn gofyn am hynny.

Llofnodi’r ffurflen

Rhaid i chi lofnodi a dyddio’r datganiad a’r datganiad gwirionedd i gadarnhau eich bod yn credu bod gennych hawl i gael help i dalu ffioedd, a bod yr holl wybodaeth rydych wedi’i rhoi’n gywir. Os canfyddir eich bod wedi dweud celwydd yn fwriadol neu wedi bod yn anonest, gellir dwyn achos troseddol am dwyll yn eich erbyn.

Os ydych yn gynrychiolydd cyfreithiol neu’n gyfaill cyfreitha sy’n llenwi’r ffurflen ar ran rhywun arall, bydd angen i chi lofnodi’r datganiad a’r datganiad gwirionedd i gadarnhau bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan y ceisydd yn gywir.

Hawliadau neu geisiadau lluosog

Mewn rhai llysoedd a thribiwnlysoedd ceir achosion lle mae 2 neu ragor o bobl wedi’u henwi ar yr un ffurflen hawlio. Yr enw ar hyn yw hawliad neu gais lluosog.

Pan geir hawliad neu gais lluosog, bydd pawb sy’n gysylltiedig yn gyfrifol am y ffioedd y mae angen eu talu. Dylai pob unigolyn wneud cais am help i dalu ffioedd ar wahân. Os ydych yn gwneud cais gyda’ch partner, dim ond un cais am help i dalu ffioedd sydd angen i chi gyflwyno.

Os na fydd un o’r grŵp yn gymwys i gael help i dalu ffioedd, yna bydd rhaid talu’r ffi gyfan.

Ble i anfon eich cais

Ffi’r llys neu dribiwnlys

Os ydych yn gwneud cais am help i dalu ffi llys neu dribiwnlys, mae’n rhaid i chi anfon eich ffurflen wedi’i llenwi ynghyd â’ch ffurflen help i dalu ffioedd at y swyddfa llys neu dribiwnlys sy’n delio â’ch achos neu’ch hawliad. Dylech anfon eich cais am help i dalu ffioedd o fewn 28 diwrnod iddo gael ei lofnodi neu efallai y bydd y llys neu’r tribiwnlys yn ei wrthod a bydd angen i chi wneud cais newydd am help i dalu ffioedd.

Dod o hyd i lys neu dribiwnlys ar GOV.UK

Gwneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein

Os ydych wedi gwneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein, fe gewch gyfeirnod help i dalu ffioedd yn y fformat ‘HWF-XXX-XXX’. Dylech anfon y cyfeirnod hwn i’r llys neu’r tribiwnlys rydych wedi anfon eich cais iddo o fewn 28 diwrnod. Os bydd yn cyrraedd ar ôl hynny, efallai y bydd yn cael ei wrthod a bydd rhaid ichi wneud cais am help i dalu ffioedd newydd.

Os ydych yn gwneud cais ar-lein i‘r llys, nodwch eich cyfeirnod help i dalu ffioedd ar eu system nhw pan ofynnir ichi wneud hynny.

Os ydych yn gwneud cais am ad-daliad, ewch i’r adran ‘Gwneud cais am ad-daliad os ydych wedi talu’r ffi yn barod’.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwch yn cael llythyr os bydd eich cais yn aflwyddiannus, neu os oes angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth. Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi anfon tystiolaeth o’ch incwm.

Sut i apelio

Gallwch apelio os na fydd eich cais am help i dalu ffioedd yn llwyddiannus a’ch bod yn anghytuno â’r penderfyniad.

Bydd angen i chi ysgrifennu i’r llys neu’r tribiwnlys erbyn y dyddiad a nodir yn eich llythyr gwrthod. Bydd rhaid ichi egluro pam nad ydych yn hapus â’r penderfyniad a chynnwys unrhyw dystiolaeth a fydd yn cefnogi eich apêl.

Fe ddarparer ymateb i’ch apêl o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os bydd y llys neu’r tribiwnlys yn gwrthod eich apêl, mae gennych hawl i gysylltu ag uwch reolwr y llys neu’r tribiwnlys o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad y cafodd eich apêl ei gwrthod. Bydd yn edrych ar eich cais am apêl ac yn gwneud penderfyniad terfynol.

Os ydych chi’n debygol o brofi caledi eithriadol

Pan fyddwch chi’n credu nad oes modd realistig i chi fforddio talu ffi’r llys neu’r tribiwnlys, neu eich bod yn wynebu amgylchiadau eithriadol eraill, gallwch ofyn i’r llys neu’r tribiwnlys ystyried gostwng neu hepgor eich ffi.

Mae hwn yn fesur diogelwch pwysig a allai fod yn berthnasol, er enghraifft, pan nad ydych chi’n gymwys dan y cynllun help i dalu ffioedd, cymeradwywyd cais am help i dalu ffioedd yn rhannol yn unig, neu os yw eich ffi yn daladwy mewn achos ble nad yw’r cynllun help i dalu ffioedd yn berthnasol ac nid ydych yn gymwys i gael dileu’r ffi dan reolau eraill.

Yn gyffredinol, bydd yr uwch reolwr ond yn caniatáu eich cais os gallwch ddangos nad ydych chi’n gallu fforddio’r ffi yn ymarferol neu fod yna amgylchiadau eraill sy’n cyfiawnhau dileu’r ffi. Bydd amgylchiadau ceiswyr yn cael eu hystyried ar sail unigol.

Wrth ystyried a ddylid lleihau neu hepgor y ffi, bydd angen tystiolaeth ar yr uwch reolwr am eich amgylchiadau eithriadol, gan gynnwys pam na allwch fforddio talu’r ffi, neu pam fod amgylchiadau eraill sy’n cyfiawnhau dileu’r ffi. Mae’n rhaid i chi ddarparu’r dystiolaeth hon gyda’ch cais.

Gall y math o dystiolaeth y dylech ei darparu gynnwys (lle bo’n berthnasol):

  • hysbysiadau sy’n bygwth achos cyfreithiol oherwydd bod biliau neu gostau tai heb eu talu
  • manylion am eich incwm, cynilion a gwariant
  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall i gefnogi eich cais i ddileu ffi

Rhaid i’r holl dystiolaeth fod yn Saesneg neu wedi’i chyfieithu i Saesneg. Pan fydd y dystiolaeth am eich sefyllfa ariannol yn cael ei chyflwyno mewn arian nad yw’n bunnoedd sterling (GBP), yna rhaid hefyd cynnwys gwerth yr arian hwnnw mewn punnoedd sterling. Dylai cyfieithiadau a’r gwerthoedd mewn punnoedd sterling gael eu darparu gan ffynhonnell gydnabyddedig (gall hyn gynnwys gwasanaethau cyfieithu neu drosi ar-lein).

Ni fydd eich ffi yn cael ei lleihau neu ei hepgor yn awtomatig oherwydd eich statws. Er enghraifft, gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o hyd i gefnogi eich cais os ydych:

  • yn ddi-waith
  • yn weithiwr tymhorol neu ran-amser
  • yn fyfyriwr
  • yn y carchar

Wrth ystyried cais am ddileu ffi oherwydd caledi eithriadol, byddai disgwyl ichi ddangos eich bod wedi cymryd yr holl gamau rhesymol i ganfod ffynhonnell ariannu amgen. Er enghraifft, os oes gennych noddwr yn eich cefnogi gyda mater sy’n ymwneud â mewnfudo, mae angen ichi ddarparu tystiolaeth yn dangos nad yw’r partïon hynny yn gallu eich helpu i dalu eich ffi.

Os oes gennych unrhyw fath o yswiriant costau cyfreithiol, mae’n rhaid ichi ddarparu tystiolaeth pam na fyddai’r yswiriant hwnnw yn ariannu eich ffi.

Os nad yw’r llys neu’r tribiwnlys yn caniatáu eich cais am ddileu’r ffi mewn amgylchiadau eithriadol, yna gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn i’r uwch reolwr. Yna bydd yr uwch reolwr yn ystyried unrhyw dystiolaeth rydych wedi’i chyflwyno’n flaenorol ac unrhyw wybodaeth bellach a gyflwynwch gyda’ch apêl. Unwaith y bydd yr uwch reolwr wedi gwneud ei benderfyniad terfynol, ni fyddwn yn gallu ystyried y mater ymhellach.

Gallwch ddefnyddio Ffurflen EX105 i wneud cais am help gyda chostau trawsgrifio’r llys drwy gynllun ar wahân.

Achosion brys

Os byddwch angen penderfyniad yn gynt na 5 niwrnod gwaith, gall uwch reolwr y llys neu dribiwnlys wneud penderfyniad ynghylch a fyddwch yn cael help i dalu’ch ffi.

Mae argyfyngau’n cynnwys achosion sy’n cynnwys:

  • atal camau i droi tenant allan
  • deiseb ansolfedd gan ddyledwr
  • plant neu oedolion bregus
  • trais domestig
  • gwaharddebau
  • darpariaethau ‘y tu allan i oriau’ yn y Llysoedd Barn Brenhinol

Os oes gennych anabledd sy’n golygu ei bod yn anodd i chi fynd i lys neu dribiwnlys neu gyfathrebu, cysylltwch â’r llys neu’r tribiwnlys a byddant yn gallu eich helpu. Dod o hyd i lys neu dribiwnlys ar GOV.UK.

Cyngor annibynnol ac am ddim

Support Through Court (STC)

Cefnogaeth ymarferol ac emosiynol ar sut mae’r llys yn gweithio, llenwi ffurflenni, trefnu papurau a sut i ddatrys eich mater:

  • www.supportthroughcourt.org
  • Rhif ffôn: 03000 810 006

Cyngor ar Bopeth

Cyngor am ddim ar sut i ddelio â dyledion:

  • www.citizensadvice.org.uk
  • Rhif ffôn: 03444 111 444 i ddod o hyd i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol