Canllawiau

Taflen ffeithiau Mynediad at Waith i gyflogwyr

Diweddarwyd 7 Hydref 2025

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Trosolwg

Mae Mynediad at Waith yn gynllun grant cymorth cyflogaeth a ariennir yn gyhoeddus sy’n anelu at gefnogi pobl anabl i ddechrau gweithio neu i aros mewn gwaith. Gall ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol i bobl sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gellir darparu cymorth lle mae rhywun angen cymorth neu addasiadau y tu hwnt i addasiadau rhesymol.

Gall grant Mynediad at Waith dalu am gymorth ymarferol i alluogi’ch gweithiwr i ddechrau gweithio neu i aros yn y gwaith, neu i’ch cefnogi os ydych yn hunangyflogedig. Nid yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn cael eu cynnwys o fewn Mynediad at Waith ac mae gwasanaeth gwahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Gellir defnyddio Mynediad at Waith ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg, fel gweithio hybrid. Gall hyn gynnwys:

  • cefnogaeth i weithio o fwy nag un lleoliad
  • cefnogaeth i weithio gartref am eich amser cyfan neu ran ohono

Beth fydd Mynediad at Waith ddim yn talu amdano

Ni fydd Mynediad at Waith yn talu am addasiadau rhesymol. Dyma’r newidiadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud yn gyfreithiol i gefnogi’ch gweithiwr i wneud eu gwaith.

Bydd Mynediad at Waith yn eich cynghori a ddylid gwneud newidiadau fel addasiadau rhesymol.

Sut all fy helpu?

Gall Mynediad at Waith eich cefnogi i:

  • gyflogi pobl anabl gyda’r sgiliau rydych eu hangen
  • cadw gweithiwr sy’n datblygu anabledd neu gyflwr iechyd (cadw eu sgiliau gwerthfawr ac arbed amser ac arian i recriwtio rhywun yn eu lle)
  • dangos eich bod yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi eich gweithwyr trwy gael polisïau ac arferion cyflogaeth da

Gall eich gweithiwr gael cymorth gyda’r costau ychwanegol o weithio a allai fod ganddynt oherwydd eu hanabledd neu gyflwr iechyd, er enghraifft:

  • cymorth ac offer yn y gweithle
  • addasu offer i’w gwneud hi’n haws iddynt eu defnyddio
  • arian tuag at unrhyw gostau teithio ychwanegol i’r gwaith ac oddi yno os na allant ddefnyddio’r drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael
  • arian tuag at unrhyw gostau teithio ychwanegol ar gyfer costau teithio o fewn y gwaith
  • dehonglydd neu gymorth arall mewn cyfweliad swydd lle mae anawsterau cyfathrebu
  • amrywiaeth eang o weithwyr cymorth
  • y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith
  • cymorth ymarferol arall yn y gwaith, fel hyfforddwr swyddi neu ddehonglydd iaith arwyddion

Os oes gan eich aelod o staff gyflwr iechyd meddwl, byddant yn cael cynnig cymorth i ddatblygu cynllun cymorth. Gall hyn gynnwys camau i’w cefnogi i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith ac awgrymiadau ar gyfer addasiadau rhesymol yn y gweithle.

Enghreifftiau o gymorth i ddatblygu cynllun cymorth:

  • patrymau gweithio hyblyg i ddarparu ar gyfer newidiadau mewn hwyliau ac effaith meddyginiaeth
  • darparu mentor i roi cymorth ychwanegol yn y gwaith
  • trefnu amser ychwanegol i gwblhau tasgau penodol
  • darparu hyfforddiant ychwanegol
  • cyfarfodydd rheolaidd rhyngoch chi a’ch gweithiwr i siarad am eu pryderon
  • dychwelyd i’r gwaith yn raddol, megis llai o oriau neu lai o ddiwrnodau

Nid yw Mynediad at Waith yn darparu’r cymorth ei hun, ond yn darparu grant i ad-dalu’r gost y cytunwyd arni ar gyfer y cymorth sydd ei angen.

Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl

Mae ‘r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith:

  • yn rhoi cyngor ac arweiniad i helpu cyflogwyr i ddeall salwch meddwl a sut y gallant gefnogi gweithwyr
  • yn cynnig asesiad i bobl gymwys i ddarganfod eu hanghenion yn y gwaith a datblygu cynllun cymorth

Pwy all gael Mynediad at Waith

Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth, rhaid i berson:

  • fod ag anabledd neu gyflwr iechyd sy’n golygu eu bod angen cymorth, addasiad neu gymorth ariannol neu ddynol i wneud eu gwaith
  • bod a chyflwr iechyd meddwl ac angen cymorth yn y gwaith
  • bod yn 16 oed neu drosodd
  • bod mewn, neu ar fin dechrau, cyflogaeth â thâl (gan gynnwys hunangyflogaeth)
  • fel arfer yn preswylio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban ac yn gweithio yno – mae system wahanol yng Ngogledd Iwerddon
  • peidio â hawlio Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth unwaith maent mewn gwaith

Fodd bynnag, efallai y byddant yn ei gael am gyfnod cyfyngedig os ydynt yn gwneud rhai mathau o ‘waith a ganiateir’ i’w helpu i symud oddi ar fudd-daliadau yn llwyr.

Os yw’r person yn was sifil, bydd eu cyflogwr yn darparu cymorth yn hytrach na Mynediad at Waith.

Eu cyflwr

Os yw eu hanabledd neu gyflwr iechyd yn effeithio ar eu gallu i wneud y swydd neu os oes rhaid iddynt dalu costau sy’n gysylltiedig â gwaith. Er enghraifft, offer cyfrifiadurol arbennig neu gostau teithio ychwanegol oherwydd na allant ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Os oes gan weithiwr gyflwr iechyd meddwl sy’n effeithio ar eu gallu i wneud y gwaith, ac mae angen cymorth i:

  • ddechrau swydd newydd
  • lleihau absenoldeb o’r gwaith
  • aros yn y gwaith

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sengl a delir i bobl sydd mewn neu allan o waith. Os yw’ch gweithiwr yn hawlio Credyd Cynhwysol ac mae ganddynt anabledd neu gyflwr iechyd, byddant yn gallu gwneud cais am Fynediad at Waith am unrhyw waith cyflogedig y maent yn ei wneud.

Newid swyddi

Os bydd unigolyn yn newid cyflogwr, efallai y byddant yn gallu trosglwyddo offer i’w cyflogwr newydd, ond ni allant drosglwyddo dyfarniadau ar gyfer gweithwyr cymorth neu deithio yn awtomatig – byddai angen iddynt gysylltu â’r tîm Mynediad at Waith i drafod eu trefniadau newydd.

Gweithio allan o’r wlad

Os oes gennych aelod o staff y mae eu swydd fel arfer wedi’i leoli yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, ond rydych yn gofyn iddynt deithio allan o’r wlad fel rhan o’u dyletswyddau, efallai y bydd cymorth Mynediad at Waith ar gael, ond gall unrhyw gymorth fod yn gyfyngedig.

Interniaethau/hyfforddeiaethau a gefnogir

Bydd pobl ifanc sy’n dechrau lleoliad gwaith gyda chyflogwr fel rhan o raglen interniaeth neu hyfforddeiaethau a gefnogir gan yr Adran Addysg yn gallu gwneud cais am gymorth Mynediad at Waith am gyfnod eu lleoliad gwaith yn unig.

Bydd Mynediad at Waith yn ariannu teithio ychwanegol, hyfforddwr swyddi a chymorth arall, gan gynnwys costau offer os yw’n briodol, ac yn hyrwyddo’r trawsnewidiad llyfn i gyflogaeth â thâl.

Ni fydd unrhyw fathau eraill o interniaethau/hyfforddeiaethau di-dâl yn gymwys i gael cymorth Mynediad at Waith.

Aelodau o’r glerigaeth

Gellir derbyn ceisiadau gan aelodau o’r glerigaeth, waeth beth yw eu henwad crefyddol. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt fod mewn cyflogaeth â thâl, er enghraifft, mae clerigwyr Eglwys Loegr yn derbyn cyflog tra bod rhai enwadau crefyddol eraill yn gweithio mewn ffordd wahanol.

Cyfarwyddwyr cwmni

Gall cyfarwyddwyr cwmni wneud cais i gael cymorth Mynediad at Waith. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt brofi bod y cwmni wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd.

Faint fydd hyn yn ei gostio i mi?

Fel cyflogwr, efallai y bydd yn rhaid i chi rannu’r gost gyda Mynediad at Waith os yw’r person wedi bod yn gweithio i chi am fwy na 6 wythnos pan fyddant yn gwneud cais am Fynediad at Waith.

Byddwch ond angen rhannu’r gost ar gyfer:

  • cymhorthion ac offer arbennig
  • addasiadau i adeiladau neu offer

Nid yw rhannau’r gost yn berthnasol i ymgeiswyr hunangyflogedig nac i’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl.

Faint fydd y grant?

Bydd Mynediad at Waith yn ystyried talu grantiau o hyd at 100% ar gyfer:

  • pobl hunangyflogedig
  • pobl sydd wedi bod yn gweithio am lai na 6 wythnos pan fyddant yn gwneud cais am Fynediad at Waith am y tro cyntaf
  • y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl
  • gweithwyr cymorth
  • teithio ychwanegol i’r gwaith a chostau teithio mewn gwaith
  • cymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau

Bydd lefel y grant yn dibynnu ar:

  • p’un a yw’r person yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig
  • pa mor hir maent wedi bod yn eu swydd
  • y math o gymorth sydd ei angen

Beth fydd fy rhan i o’r costau?

Pan fydd rhannu costau yn berthnasol, bydd Mynediad at Waith yn ad-dalu hyd at 80% o’r costau cymeradwy rhwng trothwy a £10,000. Fel y cyflogwr, byddwch yn cyfrannu 100% o’r costau hyd at lefel y trothwy ac 20% o’r costau rhwng y trothwy a £10,000.

Mae swm y trothwy yn cael ei bennu gan nifer y gweithwyr sydd gennych.

Nifer y gweithwyr Swm y trothwy
0 i 49 o weithwyr dim
50 i 249 o weithwyr £500
Dros 250 o weithwyr £1,000

Bydd unrhyw falans dros £10,000 fel arfer yn cael ei dalu gan Fynediad at Waith.

Os yw’r cymorth hefyd yn darparu budd busnes cyffredinol, ceisir cyfraniad yn ychwanegol at unrhyw ran o’r costau gorfodol.

Mwyafswm y grantiau

Mae grantiau Mynediad at Waith a ddyfernir ar neu ar ôl 1 Hydref 2015 wedi’u capio. Mae swm y cap yn dibynnu ar bryd y dyfarnwyd neu adolygwyd y grant.

Grant wedi’i ddyfarnu neu ei adolygu Swm y cap fesul blwyddyn
1 Hydref 2015 i 31 Mawrth 2016 £40,800
1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017 £41,400
1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 £42,100
1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019 £57,200
1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020 £59,200
1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 £60,700
1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022 £62,900
1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 £65,180
1 Ebrill 2023 i 7 Ebrill 2024 £66,000
8 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025 £69,260

Nid yw grantiau Mynediad at Waith a ddyfarnwyd cyn 1 Hydref 2015 wedi’u capio. Byddant yn cael eu capio o 1 Ebrill 2018.

Sut gall rhywun wneud cais

Gall eich gweithiwr wneud cais am Fynediad at Waith os ydynt angen cymorth i’w cael yn ôl i’r gwaith.

Gwneud cais ar-lein

Y ffordd gyflymaf a hawsaf i wneud cais am Fynediad at Waith yw ar-lein.

Gwneud cais dros y ffôn

Gallant hefyd wneud cais drwy ffonio’r llinell gymorth Mynediad at Waith ar:

Ffôn: 0800 121 7479
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 7479
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.

Gwybodaeth bellach

Gofynnir i’ch gweithiwr pa gymorth maent ei angen pan fyddant yn gwneud cais, bydd Mynediad at Waith hefyd yn cysylltu â chi am fwy o wybodaeth.

Pan fydd eich gweithiwr yn cysylltu â’r tîm Mynediad at Waith, efallai y byddant angen:

  • eu rhif Yswiriant Gwladol
  • cyfeiriad y gweithle, gan gynnwys cod post
  • enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn gwaith cyswllt gweithle, er enghraifft eu rheolwr neu chi eich hun
  • rhif cyfeirnod treth unigryw (os yn hunangyflogedig)
  • enw eu mentor Lwfans Menter Newydd (os oes ganddynt un)

Sut gallwn gyfathrebu â chi

Os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen ein llythyrau, cwblhau ein ffurflenni neu ddefnyddio ffôn, mae gennym lawer o wahanol ffyrdd y gallwn gyfathrebu â chi.

Os hoffech i ni gyfathrebu â chi drwy braille, Iaith Arwyddion Prydain, dolen glyw, cyfieithiadau, print bras, sain, e-bost neu rywbeth arall, cysylltwch â ni.

Gallwch gysylltu â ni o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm drwy:

Ffôn: 0800 121 7479
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 7479
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Neu ysgrifennwch atom yn:

Mynediad at Waith
Operational Support Unit
Harrow Jobcentre Plus
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1JE

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am gael help gyda budd-daliadau a phensiynau os oes gennych anghenion hygyrchedd.

Ar ôl gwneud cais

Asesiadau

Ar ôl i’ch gweithiwr wneud cais am Fynediad at Waith, bydd rheolwr achos yn cysylltu â chi a’ch gweithiwr i drafod pa gymorth a allai fod ar gael. Efallai y bydd eich gweithiwr angen asesiad o’r gweithle i asesu eu hanghenion.

Os yw’ch gweithiwr yn gwybod pa gymorth sydd ei angen, nid oes angen iddynt gael asesiad. Bydd rheolwr achos Mynediad at Waith yn trafod y dyfarniad gyda chi a’ch gweithiwr i ddatblygu pecyn cymorth wedi’i deilwra.

Os bydd angen asesiad ar eich gweithiwr, bydd yn cael ei gynnal dros y ffôn, galwad fideo ar-lein neu yn bersonol yn y gweithle.

Os nad yw’ch gweithiwr yn gallu defnyddio’r ffôn neu alwad fideo, cysylltwch â’r sefydliad sy’n trefnu’r asesiad i gytuno ar ffordd arall o gael yr asesiad. Gallai hyn fod trwy wasanaeth cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar-lein neu wasanaeth fideo ar-lein.

Os bydd angen i’ch gweithiwr aildrefnu neu ganslo asesiad, cysylltwch â’r sefydliad sydd wedi trefnu’r asesiad gyda’ch gweithiwr.

Gweithwyr cymorth

Gall eich gweithiwr barhau i ddefnyddio eu gweithiwr cymorth presennol tra’n gweithio o gartref.

Os oes angen i’ch gweithiwr ganslo gweithiwr cymorth ar fyr rybudd a chodir ffi arnynt, efallai y bydd Mynediad at Waith yn gallu talu’r costau hynny.

Dehonglwyr

Os yw’ch gweithiwr yn defnyddio dehonglydd BSL ac na allant ymweld â’u cartref, gallai Mynediad at Waith helpu i dalu am wasanaeth dehongli BSL ar-lein.

Mae angen i’ch gweithiwr ddweud wrth Fynediad at Waith os ydynt yn newid y math o gymorth maent yn ei ddefnyddio. Er enghraifft, os yw’ch gweithiwr yn dechrau defnyddio gwasanaeth dehongli ar-lein yn hytrach na gweithiwr cymorth BSL.

Os gall dehonglydd eich gweithiwr ddarparu gwasanaethau dehongli ar-lein, gellir dal talu am hyn. Ni fydd Mynediad at Waith yn gallu talu am unrhyw amser teithio, os nad ydynt yn teithio i gefnogi’ch gweithiwr.

Os ni all gweithiwr cymorth eich gweithiwr eu cefnogi ar hyn o bryd

Os na all gweithiwr cymorth eich gweithiwr eu cefnogi oherwydd eu bod yn sâl, efallai y bydd eich gweithiwr yn dal i allu hawlio taliad amdanynt. Bydd angen i ddyfarniad Mynediad at Waith eich gweithiwr gynnwys taliad am eu gweithiwr cymorth tra byddant i ffwrdd yn sâl.

Ni all eich gweithiwr gael cymorth gan Fynediad at Waith i dalu am eu gweithiwr cymorth os ydynt yn sâl ond nid yw’r taliad am eu salwch wedi’i gynnwys yn nyfarniad Mynediad at Waith eich gweithiwr. Efallai y byddant yn gallu gwneud cais am Dâl Salwch Statudol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Cynhwysol.

Costau teithio

Dim ond tuag at gostau teithio sydd eu hangen oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd eich gweithiwr y gall Mynediad at Waith dalu.

Os nad yw’ch gweithiwr bellach yn teithio i’r gwaith, ni ddylai eich gweithiwr hawlio am unrhyw gymorth teithio. Gall eich gweithiwr ddechrau derbyn cymorth tuag at deithio pan fyddant yn dechrau teithio i’r gwaith eto.

Gwneud cais am gostau

Mae gan eich gweithiwr 9 mis i wneud cais am gostau.

Interniaethau a gefnogir

Os yw’ch gweithiwr ar interniaeth a gefnogir gan yr Adran Addysg, gall Mynediad at Waith barhau i ddarparu cymorth ar gyfer unrhyw gymorth sy’n gysylltiedig â gwaith maent ei angen. Ni all ariannu unrhyw gymorth addysgol sydd ei angen ar eich gweithiwr.

Os yw anghenion cefnogaeth eich gweithwyr yn newid

Os yw’r gefnogaeth mae eich gweithiwr ei angen wedi newid, er enghraifft oherwydd eu bod wedi dechrau gweithio o gartref ac angen cymorth ychwanegol, mae angen iddynt ddweud wrth Mynediad at Waith.

I roi gwybod am newid, mae angen i’ch gweithiwr gysylltu â llinell gymorth Mynediad at Waith.

Bydd rheolwr achos ynediad at Waith yn trafod gweithio o gartref gyda chi a’ch gweithiwr i ddeall pa gymorth sydd ei angen. Os na allant nodi’r cymorth sydd ei angen, byddant yn rhoi eich gweithiwr mewn cysylltiad ag aseswr gweithle. Byddant yn gweithio gyda chi a’ch gweithiwr i argymell sut i oresgyn y rhwystrau yn y gwaith.

Bydd angen i’ch gweithiwr barhau i roi gwybod am unrhyw newidiadau i’w amgylchiadau oherwydd gall swm eu dyfarniad grant gael ei effeithio.

Os oes angen cymorth ychwanegol ar eich gweithiwr ond maent wedi cyrraedd neu bron wedi cyrraedd uchafswm y grant a ddyfarnwyd, bydd angen iddynt siarad â rheolwr achos Mynediad at Waith. Gall eich gweithiwr barhau i gael grant o hyd at £69,260 y flwyddyn. Os nad yw’ch gweithiwr wedi gwario’r holl ddyfarniad eto, gall rheolwr achos Mynediad at Waith weithio gyda hwy i gytuno ar sut i wario gweddill yr arian.

Ailystyriaeth, adolygu a gweithdrefn gwyno

Beth os nad yw’ch gweithiwr yn cytuno â lefel eu dyfarniad?

Mae Mynediad at Waith yn cael ei benderfynu ar sail achos i achos ac mae’r swm a ddyfernir yn seiliedig ar drafodaethau gyda chi a’ch gweithiwr. Mae hyn yn golygu nad yw’n bosibl apelio yn erbyn lefel dyfarniad.

Fodd bynnag, mae gan y cynllun Mynediad at Waith bolisi ailystyriaeth. Mae gan bawb hawl i un ailystyriaeth o ddyfarniad gan reolwr achos Mynediad at Waith gwahanol. Gofynnwch i’ch gweithiwr ddefnyddio’r manylion cyswllt ar frig eu llythyr dyfarniad os ydynt am drefnu hyn.

Beth os bydd pethau’n newid?

Os yw rôl eich gweithiwr wedi newid, gallant ofyn am adolygu eu dyfarniad. Gall hyn ddigwydd cymaint o weithiau ag y bydd eu sefyllfa yn newid, a byddant yn dal i gael eu dyfarniad wedi edrych arno eto os nad ydynt yn cytuno â lefel y dyfarniad a adolygwyd.

Sut wyf i neu fy ngweithiwr yn cwyno?

Nid yw peidio â chytuno â lefel y dyfarniad a chanlyniadau’r ailystyriaeth ar ei ben ei hun yn rhoi digon o reswm dros gwyno. Fodd bynnag, os ydych chi neu’ch gweithiwr wedi cael gwasanaeth cwsmeriaid gwael neu’n credu nad yw’r cais Mynediad at Waith wedi’i drin yn gywir, gellir gwneud cwyn gan ddefnyddio ein gweithdrefn gwyno.

Mae’r daflen ffeithiau hon yn rhoi gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid yw’n ddatganiad cyflawn ac awdurdodol o’r gyfraith.

Adnewyddiadau

Bydd Mynediad at Waith yn cysylltu â’ch gweithiwr 12 wythnos cyn i’w cefnogaeth ddod i ben. Os hoffai’ch gweithiwr barhau, bydd angen i’ch gweithiwr wneud cais i’w adnewyddu.

Mae’r daflen ffeithiau hon yn rhoi gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid yw’n ddatganiad cyflawn ac awdurdodol o’r gyfraith.