Canllawiau

Mynediad at Waith: taflen ffeithiau ar gyfer cwsmeriaid

Diweddarwyd 13 June 2023

Applies to England, Scotland and Wales

Trosolwg

Mae Mynediad at Waith yn rhaglen cymorth cyflogaeth a ariennir yn gyhoeddus sy’n anelu at helpu mwy o bobl anabl i ddechrau neu aros mewn gwaith. Gall ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol.

Gall grant Mynediad at Waith dalu am gymorth ymarferol i’ch helpu:

  • dechrau gweithio

  • aros mewn gwaith

  • symud i hunangyflogaeth neu ddechrau busnes.

Nid yw’r grant ar gyfer costau dechrau busnes.

Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Nid oes yn rhaid i’r arian gael ei dalu yn ôl ac ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar ein gwefan yn www.gov.uk/mynediad-at-waith/beth-fyddwch- yn-ei-gael.

Efallai y bydd eich cyflogwr hefyd yn gyfrifol am rai o’r costau eich cais. Gall Mynediad at Waith hefyd roi cyngor ac arweiniad ymarferol i gyflogwyr, i’w helpu i ddeall salwch corfforol a meddyliol a sut y gallant gefnogi gweithwyr.

Nid yw Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw yn cael eu cwmpasu gan Fynediad at Waith ac mae gwasanaeth gwahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Sut all fy helpu i?

Gall Mynediad at Waith helpu i dalu am gymorth efallai y bydd angen oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd, er enghraifft:

  • cymorth a chyfarpar yn eich gweithle

  • addasu offer i’w gwneud yn haws i chi ei defnyddio

  • arian tuag at unrhyw gostau teithio ychwanegol yn ôl ac ymlaen i’r gwaith os na allwch ddefnyddio’r cludiant cyhoeddus sydd ar gael, neu os oes angen help arnoch i addasu eich cerbyd

  • cyfieithydd neu gymorth arall mewn cyfweliad am swydd os ydych yn cael anhawster cyfathrebu

  • cymorth ymarferol arall yn y gwaith, fel anogwr gwaith neu rywun i gymryd nodiadau neu siaradwr gwefusau

Efallai y bydd angen i chi roi ryw brawf o’r costau i ni, e.e. ar gyfer costau tacsi.

Os oes gennych gyflwr iechyd meddwl, cewch gynnig cymorth i ddatblygu cynllun cymorth. Gall hyn gynnwys camau i’ch cefnogi wrth fynd i mewn i, aros neu ddychwelyd i’r gwaith ac awgrymiadau am addasiadau rhesymol yn y gweithle.

Enghreifftiau o gymorth i ddatblygu cynllun cymorth:

  • patrymau gweithio hyblyg i gynnwys newidiadau mewn hwyliau ac effaith meddyginiaeth

  • darparu mentor i roi cymorth ychwanegol yn y gwaith i chi

  • rhoi amser ychwanegol i chi gwblhau rhai tasgau

  • rhoi hyfforddiant ychwanegol i chi

  • cyfarfodydd rheolaidd rhyngoch chi a’ch rheolwr i siarad am eich pryderon

  • dychwelyd i’r gwaith yn raddol, fel lleihau oriau neu lai o ddiwrnodau

Gellir defnyddio Mynediad at Waith am drefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio hybrid. Gallai hyn gynnwys:

• cymorth i weithio o fwy nag un lleoliad

• cymorth i weithio gartref am y cyfan neu’n rhan o’ch amser

Bydd partneriaid Mynediad at Waith hefyd yn gweithio gyda’ch cyflogwr i roi gwybod iddynt sut y gallant eich cefnogi yn y gweithle orau.

Cymhwyster

Gallwch wneud cais ar gyfer Mynediad at Waith os:

  • ydych fel arfer yn byw, ac yn gweithio ym Mhrydain Fawr

  • oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n golygu eich bod angen cymorth, addasiadau neu gymorth ariannol neu ddynol i wneud eich swydd

  • oes gennych gyflwr iechyd meddwl ac mae angen cymorth yn y gwaith

  • ydych yn 16 oed neu’n hŷn

Mae’n rhaid i chi hefyd:

  • eisoes bod yn gwneud gwaith â thâl

  • bod ar fin dechrau gweithio neu’n dod yn hunangyflogedig

  • yn cael cyfweliad am swydd

  • bod ar fin dechrau treial gwaith neu’n dechrau profiad gwaith wedi’i drefnu o dan y Contract Ieuenctid drwy’r Ganolfan Byd Gwaith

Os ydych yn was sifil, bydd eich cyflogwr yn darparu cymorth yn lle Mynediad at Waith. Cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i drefnu hyn.

Efallai y byddwch hefyd yn ei gael os cewch Lwfans Menter Newydd. Gellir cael mwy o wybodaeth ar ein gwefan yn www.gov.uk/new-enterprise-allowance.

Eich cyflwr

I gael cymorth gan Fynediad at Waith, mae’n rhaid bod gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n golygu bod angen cymorth, addasiadau neu gymorth ariannol neu ddynol arnoch i wneud swydd. Er enghraifft, offer cyfrifiadurol arbennig neu gostau teithio oherwydd nad ydych yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’n rhaid i’ch cyflwr iechyd meddwl effeithio ar eich gallu i wneud swydd. Mae’n rhaid iddo hefyd olygu y bydd angen cymorth arnoch i:

  • dechrau swydd newydd

  • lleihau absenoldeb o’r gwaith

  • aros mewn gwaith

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal unigol a delir i’r rhai mewn gwaith neu’n ddi-waith. Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol a bod gennych anabledd neu gyflwr iechyd, byddwch yn gallu gwneud cais am Fynediad at Waith ar gyfer unrhyw waith â thâl a wnewch.

Eithriadau

Efallai na chewch Fynediad at Waith os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn:

  • Budd-dal Analluogrwydd

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

  • Lwfans Anabledd Difrifol

  • Cymhorthdal Incwm

  • Credydau Yswiriant Gwladol

Fodd bynnag, efallai y cewch am gyfnod cyfyngedig os gwnewch rai mathau o ‘gwaith a ganiateir’ i’ch helpu i symud oddi ar fudd-daliadau yn gyfan gwbl.

Newid swyddi

Os ydych yn newid cyflogwyr, efallai y gallwch drosglwyddo offer i’ch cyflogwr newydd. Ni allwch drosglwyddo dyfarniadau yn awtomatig ar gyfer gweithwyr cymorth na theithio. Byddai angen i chi gysylltu â’r tîm Mynediad at Waith i drafod eich trefniadau newydd.

Gweithio y tu allan i’r wlad

Os yw eich swydd fel arfer wedi’i lleoli ym Mhrydain Fawr ond gofynnir i chi deithio y tu allan i’r wlad fel rhan o’ch dyletswyddau, byddai cymorth Mynediad at Waith yn cael ei darparu ond gall fod yn gyfyngedig.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE) a thu allan i’r Undeb Ewropeaidd

Pan fydd eich cwmni wedi’i leoli yn un o wledydd yr UE ac rydych yn cael eich anfon i Brydain Fawr i weithio, gallwch wneud cais am gymorth Mynediad at Waith.

Os ydych yn dod o wlad nad yw’n rhan o’r UE, mae angen fisa i fyw a gweithio yma, a fydd angen i chi ei ddangos os byddwch yn gwneud cais am Fynediad at Waith.

Gall trwydded waith neu statws caniatâd i aros hefyd yn golygu y gallwch wneud cais am gymorth Mynediad at Waith.

Interniaethau/hyfforddeiaeth wedi’u cynnal

Gall pobl ifanc sy’n dechrau lleoliad gwaith gyda chyflogwr fel rhan o raglen interniaeth â chymorth yr Adran Addysg neu hyfforddeiaeth Adran Busnes a Masnach wneud cais am gymorth Mynediad at Waith ar gyfer amser eu lleoliad gwaith yn unig.

Bydd Mynediad at Waith yn talu am deithio ychwanegol, anogwr gwaith a chymorth arall, gan gynnwys costau cyfarpar os yw’n briodol, a hyrwyddo’r trosglwyddiad esmwyth i mewn i waith cyflogedig.

Ni fydd unrhyw fathau eraill o interniaethau di-dâl a swyddi dan hyfforddiant yn gymwys am gymorth Mynediad at Waith.

Gwaith â thâl (cyflogaeth)

At ddibenion Mynediad at Waith, mae cyflogaeth yn golygu:

  • gwaith cyflogedig llawn amser neu ran amser, boed yn barhaol, achlysurol neu dros dro

  • treial gwaith a drefnwyd gan y Ganolfan Byd Gwaith

  • gweithio mewn amgylchedd heb gymorth neu wedi’i gynnal

  • dim gwirfoddoli

  • swyddi cynghorydd ac etholedig eraill swyddogol

  • nid hyfforddiant, ac eithrio hyfforddiant sy’n gysylltiedig â’ch swydd bresennol â thâl tra byddwch yn cael cyflog arferol

I fod yn gymwys i gael cymorth os ydych yn gyflogedig, mae’n rhaid i chi gael contract cyflogaeth a chael o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol wedi’i dalu i chi.

Gallwch hefyd wneud cais os oes gennych:

  • llythyr sy’n cynnig swydd

  • dyddiad dechrau swydd

  • llythyr yn cadarnhau eich cyfweliad

Gall Mynediad at Waith eich darparu â rhywun i helpu mewn cyfweliad am swydd. Os ydych wedi cofrestru gydag asiantaeth, mae’n rhaid i chi gael swydd i’w dechrau cyn y gallwch fod yn gymwys i gael cymorth.

Gweithwyr y Gwasanaeth Sifil ac asiantaethau llywodraethol

Os cewch eich cyflogi gan adrannau llywodraeth gweinidogol, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu un o’i hasiantaethau, bydd eich adran yn talu am eich cymorth.

Aelodau o’r glerigiaeth

Os ydych yn aelod o’r glerigiaeth, waeth pa enwad crefyddol, mae’n rhaid i chi fod mewn gwaith cyflogedig, er enghraifft, mae clerigwyr Eglwys Loegr yn cael cyflog neu dâl tra bod rhai enwadau crefyddol eraill yn gweithio mewn ffordd wahanol.

Hunangyflogaeth

At ddibenion Mynediad ar Waith, mae hunangyflogaeth yn golygu:

  • gweithredu busnes naill ai ar eich pen eich hun neu mewn partneriaeth, neu weithio i gyflogwr ar sail hunangyflogedig

  • gweithredu busnes fasnachfraint ar sail hunangyflogedig

  • meddu ar rif Cyfeirnod Treth Unigryw (UTR)

Gallwch wneud cais am gymorth Mynediad at Waith os ydych dros oed ymddeol (ac nid oes yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol nawr), ond bydd angen i chi gael cyfrifon ar gyfer busnesau sefydledig neu gynllun busnes o safon sy’n dderbyniol i fanc neu sefydliad ariannol arall, er enghraifft ar gyfer busnesau newydd.

Yn achos ymgeiswyr hunangyflogedig fel diddanwyr nad ydynt o reidrwydd yn ystyried eu hunain yn fusnes, yna byddai UTR a CV yn briodol. Bydd hyn yn helpu eich Rheolwr Achosion wrth benderfynu a yw’r busnes yn, neu’n debygol o ddod, yn fusnes hyfyw ac felly’n gymwys ar gyfer cymorth Mynediad at Waith.

Ni all Mynediad at Waith dalu am gostau sefydlu busnes neu gwmpasu costau tra bod y busnes yn cael ei ffurfio, mae hyn yn cynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • eitemau safonol o gyfarpar

  • cymorth ar gyfer canfod ffeithiau

  • mynychu cyrsiau, seminarau neu ddigwyddiadau tebyg

Cyfarwyddwyr Cwmni

Os ydych yn Gyfarwyddwr Cwmni, gallwch wneud cais am gymorth Mynediad at Waith. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi brofi bod eich cwmni wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd.

Yr hyn a gewch

Nid oes swm penodol am grant Mynediad at Waith. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich achos penodol. Bydd y grant ond yn cynnwys y cymorth sydd ei angen i adael i chi aros mewn gwaith neu’n hunangyflogedig.

Gall yr arian dalu am bethau fel:

  • newidiadau i’r offer a ddefnyddiwch

  • offer arbennig

  • costau teithio i’r gwaith os na allwch ddefnyddio cludiant cyhoeddus

  • gweithiwr cymorth neu anogwr gwaith i’ch helpu yn eich gweithle

  • gwasanaeth cymorth os oes gennych gyflwr iechyd meddwl a’ch bod yn absennol o’r gwaith neu’n ei chael hi’n anodd gweithio

  • hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd ar gyfer eich cydweithwyr

  • rhywun i’ch helpu mewn cyfweliad am swydd

  • y gost o symud eich offer os byddwch yn newid lleoliad neu swydd

Uchafswm y grantiau

Mae grantiau Mynediad at Waith a ddyfarnwyd ar neu ar ôl 1 Hydref 2015 yn cael eu capio. Mae swm y cap yn dibynnu ar bryd y dyfarnwyd eich grant neu pan gafodd ei adolygu diwethaf.

Y grant wedi’i ddyfarnu neu wedi’i adolygu Swm y cap y flwyddyn
  • | -
1 Hydref 2015 i 31 Mawrth 2016 £40,800
1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017 £41,400
1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 £42,100
1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019 £57,200
1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020 £59,200
1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 £60,700
1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022 £62,900
1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 £65,180
1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 £66,000

Ar hyn o bryd nid yw grantiau Mynediad at Waith a ddyfarnwyd cyn 1 Hydref 2015 yn cael eu capio. Byddant yn cael eu capio o 1 Ebrill 2018.

Sut i wneud cais

Gwneud cais ar-lein

Y ffordd gyflymaf a hawsaf i wneud cais am Fynediad at Waith yw ar-lein.

Gallwch hefyd wneud cais trwy ffonio’r llinell gymorth Mynediad at Waith:


Ffôn: 0800 121 7479

Ffôn testun: 0800 121 7579

Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn):18001 yna 0800 121 7479

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth cyfnewid video os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Gwybodaeth bellach

Pan fyddwch yn gwneud cais, gofynnir i chi pa help a chymorth sydd eu hangen arnoch. Bydd Mynediad at Waith hefyd yn cysylltu â’ch cyflogwr am fwy o wybodaeth.

Pan fyddwch yn cysylltu â thîm Mynediad at Waith, bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • eich cyfeiriad yn y gweithle, gan gynnwys eich cod post

  • enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn gwaith cyswllt yn y gweithle, e.e. eich rheolwr

  • eich rhif cyfeirnod treth unigryw (os ydych chi’n hunangyflogedig)

  • enw eich mentor Lwfans Menter Newydd (os oes gennych un)

Sut allwn ni gyfathrebu â chi

Os ydych yn ei chael hi’n anodd darllen ein llythyrau, llenwi ein ffurflenni neu ddefnyddio ffôn mae gennym lawer o wahanol ffyrdd y gallwn gyfathrebu â chi.

Os hoffech i ni gyfathrebu â chi drwy braille, Iaith Arwyddion Prydain, dolen glyw, cyfieithiadau, print bras, sain, e-bost neu rywbeth arall, cysylltwch â ni.

Neu ysgrifennwch atom yn:


Access to Work Operational Support Unit

Harrow Jobcentre Plus

Mail Handling Site A

Wolverhampton

WV98 1JE

Trefn Ailystyriaeth, Adolygu a Chwynion

Beth os wyf yn anghytuno â lefel fy ngwobr?

Mae Mynediad at Waith yn cael ei benderfynu ar sail fesul achos ac mae’r swm a ddyfernir yn seiliedig ar drafodaethau gyda chi a’ch cyflogwr. Mae hyn yn golygu nad yw’n bosibl apelio yn erbyn lefel y dyfarniad.

Fodd bynnag, mae gan y cynllun Mynediad at Waith bolisi ailystyriaeth.

Mae gan bawb yr hawl i un ailystyriaeth o ddyfarniad gan Ymgynghorydd Mynediad at Waith gwahanol. Defnyddiwch y manylion cyswllt sydd ar frig eich llythyr dyfarnu os ydych am drefnu hyn.

Beth os bydd pethau’n newid?

Os ydych wedi cael newid cyflogwr neu fod eich swydd wedi newid, gallwch ofyn i adolygu eich dyfarniad. Gall hyn ddigwydd gymaint o weithiau ag y bydd eich sefyllfa yn newid, a byddwch dal yn gallu cael eich dyfarniad ei ailystyried os nad ydych yn cytuno â lefel eich dyfarniad a adolygwyd.

Sut gallaf gwyno?

Nid yw anghytuno â lefel eich dyfarniad a chanlyniadau’r ailystyriaeth, ar ei ben ei hun, yn ddigon o reswm dros gwyno. Fodd bynnag, os ydych wedi cael gwasanaeth cwsmeriaid gwael neu’n credu nad yw eich cais am Fynediad at Waith wedi cael ei drin yn gywir, gallwch gwyno drwy ddefnyddio ein trefn gwyno. Gellir cael mwy o wybodaeth ar ein gwefan yn trefn gwyno.

Ni allwch hawlio cymorth gan Mynediad at Waith os nad ydych yn gweithio mwyach. Os oes gennych ddyfarniad Mynediad at Waith eisoes, gallwch ddechrau ei ddefnyddio eto pan fyddwch chi’n dechrau gweithio.

Mae DWP yn rhoi blaenoriaeth i roi grantiau ar gyfer ceisiadau newydd gan bobl sydd ar fin dechrau gweithio o fewn 4 wythnos.

Os yw’ch anghenion cymorth yn newid

Os yw’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch yn newid, er enghraifft oherwydd eich bod wedi dechrau gweithio gartref, mae angen i chi ddweud wrth Mynediad at Waith.

I roi gwybod am newid, cysylltwch â’r llinell gymorth Mynediad at Waith.

Bydd Rheolwr Achosion Mynediad at Waith yn trafod gweithio gartref gyda chi a’ch cyflogwr i ddeall pa gymorth sydd ei angen. Os na allant nodi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, byddant yn eich rhoi mewn cysylltiad ag asesydd gweithle. Byddant yn gweithio gyda chi a’ch cyflogwr i argymell sut i oresgyn y rhwystrau rydych chi’n eu hwynebu.

Os ydych wedi dechrau gweithio gartref, ond bod eich anghenion cymorth yr un peth, nid oes angen i chi roi gwybod am hyn.

Mae angen i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau oherwydd y gallant effeithio ar swm eich dyfarniad.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch ond eich bod wedi cyrraedd neu bron wedi cyrraedd uchafswm eich dyfarniad, siaradwch â’ch Rheolwr Achosion Mynediad at Waith. Gallwch barhau i gael grant o hyd at £66,000 y flwyddyn. Os nad ydych wedi gwario’r holl ddyfarniad eto, gall eich Rheolwr Achosion Mynediad at Waith weithio gyda chi i gytuno ar sut i wario gweddill yr arian.

Asesiadau

Ar ôl i chi wneud cais am Mynediad at Waith, bydd Rheolwr Achosion yn cysylltu â chi i drafod pa help y gallech ei gael. Efallai y bydd angen asesiad o’ch gweithle arnoch i asesu’ch anghenion.

Os ydych chi’n gwybod pa gymorth sydd ei angen arnoch chi, nid oes angen i chi gael asesiad. Bydd Rheolwr Achosion Mynediad at Waith yn trafod y dyfarniad gyda chi ac yn datblygu pecyn cymorth wedi’i deilwra.

Os oes angen i chi gael asesiad, bydd yn cael ei gynnal dros y ffôn, fideo ar-lein neu wyneb yn wyneb yn y gweithle.

Os na allwch ddefnyddio’r ffôn neu alwad fideo, cysylltwch â’r sefydliad sy’n trefnu’r asesiad i gytuno ar ffordd arall o gael yr asesiad. Gallai hyn fod trwy wasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar-lein neu wasanaeth fideo ar-lein.

Os oes angen i chi aildrefnu neu ganslo asesiad, cysylltwch â’r sefydliad sydd wedi trefnu’r asesiad gyda chi.

Gweithwyr cymorth

Gallwch barhau i ddefnyddio’ch gweithiwr cymorth presennol wrth weithio gartref.

Os bydd angen i chi ganslo gweithiwr cymorth ar fyr rybudd a chodir ffi arnoch chi, efallai y gallwch chi hawlio’r arian hwnnw.

Cyfieithydd

Os ydych chi’n defnyddio cyfieithydd BSL ac na allant ymweld â’ch cartref, gallai Mynediad at Waith helpu i dalu am wasanaeth cyfieithu BSL ar-lein.

Mae angen i chi ddweud wrth Mynediad at Waith os ydych chi’n newid y math o gefnogaeth rydych chi’n ei defnyddio. Er enghraifft, os byddwch chi’n dechrau defnyddio gwasanaeth cyfieithu ar-lein yn lle gweithiwr cymorth BSL.

Os gall eich cyfieithydd ar y pryd ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar-lein, gellir eu talu am hyn o hyd. Ni fydd Mynediad at Waith yn gallu talu am unrhyw amser teithio, os nad ydynt yn teithio i’ch cefnogi chi.

Os na all eich gweithiwr cymorth eich cefnogi ar hyn o bryd

Os na all eich gweithiwr cymorth eich cefnogi oherwydd ei fod yn sâl, efallai y byddwch yn dal i allu hawlio taliad amdanynt. Bydd angen i’ch dyfarniad Mynediad i’r Gwaith gynnwys taliad i’ch gweithiwr cymorth tra ei fod i ffwrdd yn sâl.

Ni allwch gael help gan Mynediad at Waith i dalu am eich gweithiwr cymorth os yw’n sâl ond nid yw taliad am eu salwch wedi’i gynnwys yn eich dyfarniad Mynediad at Waith. Efallai y gallant hawlio Tâl Salwch Statudol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Cynhwysol.

Costau teithio

Dim ond oherwydd eich anabledd neu’ch cyflwr iechyd y gall Mynediad at Waith dalu tuag at gostau teithio sydd eu hangen.

Os nad ydych yn teithio i’r gwaith mwyach, ni ddylech hawlio am unrhyw gymorth teithio. Gallwch chi ddechrau derbyn cefnogaeth tuag at deithio pan fyddwch chi’n dechrau teithio i’r gwaith eto.

Hawlio am gostau

Mae gennych 9 mis i hawlio am gostau.

Os oes gennych gwestiwn am eich taliadau, cysylltwch â’r llinell gymorth Mynediad at Waith. Bydd rhywun yn trefnu eich galw yn ôl o fewn 7 diwrnod.

Adnewyddu

Bydd Mynediad at Waith yn cysylltu â chi 12 wythnos cyn y bydd eich cefnogaeth yn dod i ben. Os hoffech i’ch cefnogaeth barhau, bydd angen i chi wneud cais i’w adnewyddu.

Mae’r daflen ffeithiau hon yn rhoi gwybodaeth gyffredinol yn unig ac nid yw’n ddatganiad cyflawn ac awdurdodol o’r gyfraith.