Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n cwrdd â Phwyllgor ASEAN Llundain

Heddiw ymunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones AS â Chyfarfod Pwyllgor Cymdeithas Cenhedloedd De-Ddwyrain Asia (ASEAN) Llundain yn Uwch Gomisiwn Singapore.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
ASEAN London Committee Members

ASEAN London Committee Members with the Secretary of State for Wales

Yr oedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys sut i adeiladu ar gysylltiadau masnach, addysg, twristiaeth a buddsoddi rhwng gwledydd ASEAN a Chymru, a chyfleoedd sydd ar gael i fusnesau Cymreig sy’n dymuno gwella perthnasoedd masnach gyda’r farchnad ASEAN.

Dywedodd Mr Jones: “Mae’r DU yn gweddnewid ei pherthynas â gwledydd ar draws Asia. Mae’n un o ychydig iawn o wledydd Ewropeaidd a gynrychiolir ym mhob gwlad ASEAN, gyda De-Ddwyrain Asia yn y canol, un o’r economïau rhanbarthol sy’n tyfu gyflymaf yn y byd.

“Yr oedd yn gyfle gwerthfawr i drafod gyda Phwyllgor ASEAN Llundain y cyfleoedd sy’n agored i fusnesau Cymru a sut y gallwn ehangu ein cysylltiadau a sicrhau fod cwmnïau o Brydain yn derbyn y cyfleoedd gorau i gystadlu yn y ras fyd-eang.”

Mae Mr Jones wedi ymweld â De-Ddwyrain Asia dair gwaith, yn fwyaf diweddar bu ym Malaysia ym mis Chwefror eleni, lle y cyfarfu ag arweinwyr allweddol byd busnes a’r llywodraeth. Mae gan Gymru gysylltiadau cryf ym Malaysia gan gynnwys gyda Phrifysgol Ryngwladol Malaya Cymru, partneriaeth rhwng Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Malaysia. Mae disgwyl i Mr Jones groesawu dirprwyaeth ryngwladol o 20 o fyfyrwyr o Malaysia o’r brifysgol ryngwladol yn yr wythnosau i ddod.

Hefyd ym mis Chwefror eleni, croesawodd Lysgennad Indonesia, Ei Ardderchogrwydd Hamza Thayeb a dirprwyaeth o Lysgenhadaeth Indonesia ar ymweliad â gogledd Cymru. Cyfarfu’r ddirprwyaeth â busnesau Cymreig oedd â dymuniad i fasnachu’n rhyngwladol ac eraill a oedd eisoes yn profi llwyddiant mewn marchnadoedd byd-eang.

Dywedodd Mr Jones, “Yn ystod fy nhaith i Indonesia y llynedd ac yn fwy diweddar i Malaysia, gwelais y cyfleoedd enfawr sy’n bodoli yn y marchnadoedd newydd hyn ac rwy’n annog busnesau yng Nghymru i fanteisio ar gyfleoedd i greu cysylltiadau â hwy.”

Dengys ffigurau fod allforion Cymreig i Asia ac Oceania yn cyfrif am 11% o gyfanswm yr allforion nwyddau yn 2013, sef gwerth £1,670 miliwn, cynnydd o £193 miliwn (13%) o’i gymharu â 2012. Yr oedd gwerth y nwyddau a fewnforiwyd i Gymru o Asia ac Oceania yn £1,461 miliwn, cynnydd o £64 miliwn (5%) yn ystod yr un cyfnod.

Cyhoeddwyd ar 13 May 2014