Datganiad i'r wasg

"Mae'n rhaid i Gymru fanteisio ar gyfleoedd i fasnachu’n ehangach ledled y byd"

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu cynrychiolwyr o Indonesia ar ymweliad â gogledd Cymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Flight paths

Heddiw (28 Chwefror), bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn annog busnesau yng Nghymru i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i archwilio marchnadoedd tramor wrth iddo groesawu cynrychiolwyr o Lysgenhadaeth Indonesia sydd ar ymweliad â gogledd Cymru.

Bydd Mr Jones yn arwain Ei Ardderchogrwydd Teuku Mohammed Hamzah Thayab a chynrychiolwyr o Indonesia ar nifer o ymweliadau i gwrdd â busnesau sydd am fasnachu’n rhyngwladol, ac eraill sydd eisoes wedi cael llwyddiant mewn marchnadoedd byd-eang.

Yn gyntaf, bydd y cynrychiolwyr yn cwrdd ag aelodau Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru i drafod gwasanaethau cymorth y Llywodraeth sydd ar gael i fusnesau yn y rhanbarth sy’n awyddus i ehangu i farchnadoedd newydd. Yn hwyrach ymlaen, byddant yn teithio i Airbus ym Mrychdyn a Toyota Manufacturing UK yng Nglannau Dyfrdwy i gwrdd ag uwch swyddogion gweithredol ac aelodau o weithlu Cymru sy’n parhau i gyfrannu’n allweddol at y sector gweithgynhyrchu byd-eang.

Cynhelir yr ymweliadau yn ystod yr wythnos yn dilyn taith fasnach yr Ysgrifennydd Gwladol i Malaysia ac Oman, lle bu’n cwrdd ag arweinwyr allweddol yn y llywodraeth ac ym maes busnes er mwyn adeiladu ar gysylltiadau busnes sydd eisoes yn bodoli a datblygu cysylltiadau busnes newydd.

Wrth siarad cyn yr ymweliadau, dywedodd Mr Jones:

Os yw Cymru am lwyddo yn y ras fyd-eang, mae’n rhaid inni helpu cwmnïau i dyfu ac i lwyddo mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd.

Yn ystod f’ymweliad ag Indonesia y llynedd, ac, yn fwy diweddar, Malaysia ac Oman, rwyf wedi gweld â’m llygad fy hun y cyfleoedd enfawr sydd ar gael yn y marchnadoedd newydd hyn.

Mae gennym fusnesau rhagorol yng Nghymru sy’n masnachu’n rhyngwladol, sy’n dangos bod busnesau Cymru yn gallu bod yn llwyddiannus mewn marchnadoedd byd-eang. Felly, pleser o’r mwyaf i mi yw croesawu’r Llysgennad i ogledd Cymru heddiw i drin a thrafod beth mwy y gellir ei wneud i atgyfnerthu cysylltiadau busnes rhwng Cymru ac Indonesia, er budd hirdymor economi Cymru.

Bydd yr eitem gyntaf ar agenda’r cynrychiolwyr yn cynnwys trafodaeth rownd y bwrdd gydag aelodau o Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.

Dan gadeiryddiaeth Colin Brew, Cyfarwyddwr Gweithredol y Siambr, bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar gyfleoedd i fusnesau gogledd Cymru gryfhau cysylltiadau sy’n bodoli eisoes, neu ganfod cyfleoedd newydd i fasnachu ym marchnadoedd Indonesia.

Dywedodd Colin Brew, Cyfarwyddwr Gweithredol Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru:

Ers i’r dirywiad ariannol gydio, mae Siambrau Masnach Prydain a llywodraethau ar bob lefel wedi bod yn hyrwyddo’n frwd y manteision y gall masnachu rhyngwladol a’r fasnach allforio eu rhoi i fusnesau o bob maint. Mae’r manteision dichonol i fusnesau sy’n deillio o fasnachu rhyngwladol yn amlwg.

Mae galw mawr am wasanaethau a chynnyrch Prydain a thrwy hynny, gwasanaethau a chynnyrch a gynhyrchir yn ardal ddaearyddol gogledd Cymru, ac, fel gwlad, mae ein proffil byd-eang yn uwch nag erioed o’r blaen. Mae digwyddiadau megis ymweliad Ei Ardderchogrwydd, Llysgennad Indonesia, yn gyfle gwych i fusnesau lleol archwilio sut y gallent dyfu eu busnes eto fyth drwy sefydlu cysylltiadau â gwledydd tramor. Felly, mae Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn.

Mae Airbus ym Mrychdyn yn cyflogi dros 6,600 o bobl, gan gynnwys bron i 400 o brentisiaid yn y cynllun prentisiaethau peirianneg mwyaf yng Nghymru. Mae’r ffatri yn gyfrifol am roi adenydd wrth ei gilydd ar gyfer holl awyrennau Airbus.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y cynrychiolwyr yn trafod cryfder a phwysigrwydd y sector awyrofod o safbwynt economi’r DU, ac yn cael taith o amgylch cyfleuster cyfarparu’r A330 lle bydd cynrychiolwyr o gwmni hedfan Garuda Indonesia yn cael y cyfle i weld un o adenydd eu hawyrennau yn cael ei chynhyrchu.

Dywedodd Steve Thomas, Swyddog Gweithredol Materion Llywodraethol Airbus:

Rydym yn hynod falch o estyn croeso i’r cynrychiolwyr o Indonesia i Airbus Brychdyn. Mae’r farchnad yn Indonesia yn eithriadol o bwysig i ni ac mae cludiant awyr wedi bod yn tyfu ar raddfa o 15-20% y flwyddyn yn y rhanbarth. Gwych o beth fydd gallu dangos ein cyfleuster gweithgynhyrchu, sy’n gyfleuster o’r radd flaenaf lle cyflogir dros 6,000 o bobl fedrus iawn, a gweld adenydd A330 Garuda yn cael eu cynhyrchu. Rydym yn croesawu’r cyfle hwn i gryfhau cysylltiadau economaidd rhwng Cymru ac Indonesia.

Yn hwyrach ymlaen, bydd y cynrychiolwyr yn teithio i Lannau Dyfrdwy i weld cwmni Toyota Manufacturing UK lle bydd Cyfarwyddwr y Ffatri, Richard Kenworthy, yn eu croesawu ac yn eu tywys o amgylch y safle.

Gan gyflogi 557 o bobl, mae’r ffatri yn cynhyrchu injans drwy broses o gastio alwminiwm, gwaith peiriannu, cydosod, a phrofi. Yn ogystal â chyflenwi injans i’r ffatri weithgynhyrchu cerbydau yn Derby, mae Glannau Dyfrdwy hefyd yn cyflenwi injans a chydrannau i ffatrïoedd Toyota eraill ledled y byd.

Dywedodd Richard Kenworthy, Cyfarwyddwr Ffatri Toyota Manufacturing UK:

“O’n rhan ni, mae Cymru yn lle da i wneud busnes. Gyda gweithwyr medrus ar gael, yn ogystal â chymorth gan y llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol, rydym wedi gallu allforio ein hinjans a’n cydrannau i bob rhan o’r byd. Mae allforio yn allweddol i dwf ein busnes a pharhad ein llwyddiant.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Mae Toyota ac Airbus yn gwneud cyfraniad pwysig i enw da a llwyddiant cynyddol sector gweithgynhyrchu’r DU. Maent yn enghreifftiau ardderchog o gydweithredu rhwng cwmnïau byd-eang a’r DU, ac yn dangos pam mae Cymru’n parhau i fod yn lleoliad rhagorol ar gyfer buddsoddi a gwneud busnes ynddo. > > Nod y Llywodraeth hon yw creu economi gadarn a llewyrchus yng Nghymru, ac mae creu’r amodau cywir a sicrhau cefnogaeth ar gyfer mewnfuddsoddi a buddsoddi dramor yn ganolog i’r weledigaeth hon.

Er mwyn dangos y cyfraniad pwysig mae twristiaeth ryngwladol yn ei wneud i economïau lleol yng Nghymru, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn mynd â’r cynrychiolwyr ar ymweliad â Chastell Y Waun yn Wrecsam.

Mae’r adeilad hwn, sy’n deillio o’r 13eg ganrif, yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn atyniad allweddol i dwristiaid yn y rhanbarth, gan roi hwb i’r economi leol, cynyddu’r cyfleoedd gwaith a’r cyfleodd i wirfoddoli sydd ar gael a sicrhau lle pendant i Gymru ar y map fel cyrchfan o ddewis ar gyfer twristiaeth ryngwladol.

Dywedodd Shane Logan, Rheolwr Cyffredinol Sir Ddinbych yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol:

Mae’n fraint gennym groesawu Ei Ardderchogrwydd Mr. Teuku Mohammed Hamzah Thayeb a’r cynrychiolwyr eraill i Gastell Y Waun, sy’n un o fannau arbennig iawn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ni fyddai masnach rhwng ein dwy genedl arbennig yn ddim heb eiconau hanesyddol a diwylliannol fel Castell Y Waun yn gefndir. Mae’n gadarnle grymus ar y ffin ac ynddo cynhaliwyd cyfarfodydd o bwys mawr a gwnaed penderfyniadau aruthrol sydd wedi siapio’r Gymru rydym ni yn ei hadnabod ac yn ei charu heddiw.

Cyhoeddwyd ar 28 February 2014