Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: “Mae busnes yn Ne Ddwyrain Asia a'r Dwyrain Canol yn ffynnu, sy’n newyddion da i Brydain”

Yr wythnos hon, mae David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cychwyn ar ymweliad masnach a diplomyddol â Malaysia ac Oman.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Flight paths to Asia

Business is GREAT: Flight paths to Asia

Yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog yng Nghabinet Llywodraeth y DU, bydd Mr Jones yn manteisio ar y cyfle i gyfarfod ag arweinwyr busnes pwysig er mwyn atgyfnerthu cysylltiadau busnes sydd eisoes wedi’u sefydlu a meithrin cysylltiadau busnes newydd. Bydd hefyd yn chwilio am fwy o gyfleoedd i gwmnïau a sefydliadau’r DU weithredu yn yr ardal.

Wrth siarad yn fuan ar ôl cyrraedd Malaysia, dywedodd Mr Jones:

Mae’n rhaid i Brydain ystyried pob cyfle busnes sydd ar gael. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae’n amlwg fod busnes yn Ne Ddwyrain Asia a’r Dwyrain Canol yn ffynnu, sy’n newyddion da i Brydain

Roedd 11.7% o allforion Cymru yn Ch3 2013 i Asia ac Ynysoedd y De. Rwyf yn awyddus i weld y ffigur hwn yn cynyddu, a dyna pam y byddaf yn siarad â busnesau, sefydliadau addysgol a llywodraethau’r rhanbarth er mwyn sicrhau bod cwmnïau Prydain yn cael y cyfleoedd gorau posibl i gystadlu yn y ras fyd-eang.

Dywedodd Simon Featherstone, Uwch Gomisiynydd Prydain ym Malaysia:

Rwyf wrth fy modd bod Ysgrifennydd Cymru yn ymweld â Malaysia. Bydd ei raglen amrywiol a llawn yn ehangu ac yn cryfhau cysylltiadau rhwng Malaysia, Cymru a gweddill y DU ym meysydd masnach, buddsoddi, chwaraeon, addysg a gwyddoniaeth.

Yn ystod ei gyfnod yn y wlad, bydd Mr Jones yn ymweld â rhai o gysylltiadau mwyaf hirsefydlog Cymru, gan gynnwys Prifysgol Ryngwladol Malaya Cymru, a ddaeth i fod yn sgil partneriaeth rhwng Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Malaysia.

Bydd hefyd yn cynnal cinio ar gyfer partneriaid busnes allweddol, gan gynnwys Rolls Royce.

Wedyn, bydd Mr Jones yn dychwelyd drwy Oman, ble y bydd yn archwilio cyfleoedd ar gyfer Buddsoddiadau Uniongyrchol o Dramor i’r DU yn ogystal â chyfleoedd i Gymru yn y sector addysg uwch.

Eisoes, mae Oman yn y nawfed safle yng nghyswllt partneriaid masnachu mwyaf y DU yn y Dwyrain Canol ac mae Llywodraeth y DU eisoes yn elwa o nifer o gysylltiadau busnes a chysylltiadau diplomyddol â’r wlad.

Dywedodd Llysgennad Prydain yn Oman:

Edrychaf ymlaen yn fawr at groesawu Mr Jones, a chredaf mai hwn fydd y tro cyntaf erioed i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymweld â’r Swltaniaeth. Daw ei ymweliad yn sgil perfformiad gan Opera Cenedlaethol Cymru yn Nhŷ Opera Brenhinol Muscat ym mis Rhagfyr – perfformiad sydd wedi cael canmoliaeth fawr ar raddfa eang, gan godi proffil Cymru yn Oman fwy fyth.

Bydd hyn yn allweddol bwysig i’n nod o gryfhau masnach, buddsoddiad a chysylltiadau addysgol rhwng Cymru ac Oman.

Nodyn i Olygyddion:

  • Yn ystod ymweliad y Prif Weinidog ym mis Rhagfyr 2012, cytunodd Oman i brynu awyrennau Hawk a Typhoon, gwerth £2.7bn.

  • I gael y newyddion diweddaraf am ymweliad yr Ysgrifennydd Gwladol, dilynwch ni yn @walesoffice

Cyhoeddwyd ar 17 February 2014