Mewngofnodi i weinyddiaeth yr ŵyl
O drethu ceir i brynu rhif plât personol, dewisodd pobl mewngofnodi ar wasanaethau ar-lein DVLA ar 25 Rhagfyr 2017.

Tra bod dros 7 miliwn o bobl wedi gwylio Araith y Frenhines ar Ddydd Nadolig, dangosir ffigurau gan DVLA bod miloedd o bobl wedi mewngofnodi i’w gwasanaethau ar-lein i aros ar ben eu gwaith gweinyddol.
O drethu ceir i brynu rhif plât personol, dewisodd pobl mewngofnodi ar wasanaethau ar-lein DVLA ar 25 Rhagfyr 2017.
Ynghyd a’r 10 miliwn o dyrcïod sydd wedi cael eu bwyta, a’r miloedd o bobl aeth am nofiad yn y môr, ar Ddydd Nadolig eleni…
- cafodd 8,550 o gerbydau eu trethu neu eu datgan oddi ar y ffordd
- dywedodd 521 o bobl eu bod nhw wedi prynu neu werthu cerbyd
- edrychodd 11,343 o bobl ar eu trwydded yrru
- roedd dros 1,600 wedi ymgeisio am eu trwydded yrru dros dro cyntaf
- dywedodd 727 bod eu cyfeiriad wedi newid
- gwnaeth 456 cais am drwydded ddyblyg
- talodd 136 o gwsmeriaid dirwy ar-lein
- prynodd 621 rhif plât personol
- gwnaeth 1,556 o gwsmeriaid aseinio rhif cofrestru i gerbyd, tra bod 114 o fodurwyr wedi tynnu rhif cofrestru i ffwrdd o gerbyd i roi ar gadw
Dywedodd Oliver Morley, Prif Weithredwr DVLA:
Mae rhoi dewis i gwsmeriaid ar sut, ble a phryd maent yn defnyddio ein gwasanaethau yn ganolig i beth rydym yn gwneud. Rydym yn ymrwymedig i greu gwasanaethau digidol sy’n cyrraedd anghenion ein cwsmeriaid ac yn glir iawn, mae’r gwasanaethau yma yn galluogi pobl i ffitio gwaith gweinyddol i mewn i’w ffordd o fyw – 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407