Datganiad i'r wasg

Hydro Industries, enillydd gwobr Fast Growth 50, yn cyhoeddi contract £20 miliwn

Mae Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi llongyfarch Hydro Industries heddiw ar gontract newydd gwerth miliynau

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Photograph

Secretary of State for Wales Stephen Crabb with Hydro Industries CEO Wayne Preece and Director David Pickering (L to R)

Mae Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi llongyfarch Hydro Industries heddiw ar gontract newydd gwerth miliynau o bunnoedd a gyhoeddwyd yn ystod ei ymweliad â safle’r cwmni yn Llangennech.

Mae’r cwmni, sy’n arbenigo mewn puro dŵr gan ddefnyddio technoleg electro, wedi cyhoeddi cyd-fenter newydd gwerth £20 miliwn yn yr Emiradau Arabaidd Unedig i gynorthwyo’r wlad i ddod o hyd i atebion trin dŵr mwy effeithiol. Mae ei gytundeb busnes newydd yn gyd-fenter ag M Partners, grŵp busnes yr Emiradau Arabaidd Unedig sydd â’i bencadlys yn Abu Dhabi.

Dywedodd Stephen Crabb:

Mae hyn yn newyddion gwych i Hydro Industries sy’n ategu ei lwyddiant yng ngwobrau diweddar Fast Growth 50. Mae’r posibilrwydd y bydd Hydro Industries yn recriwtio hyd at 40 aelod o staff medrus yn ystod y tair blynedd nesaf, a’r effaith gadarnhaol y rhagwelir y bydd ei dwf yn ei chael ar y diwydiannau cadwyn gyflenwi, yn newyddion ardderchog i economi Cymru. Rwyf ar ben fy nigon yn cael ymweld â’i safle yn Llangennech wrth iddo gyhoeddi’r cytundeb busnes newydd pwysig hwn ac o glywed ei gynlluniau ar gyfer ehangu yn y dyfodol.

Dywedodd Wayne Preece, Prif Swyddog Gweithredol Hydro Industries:

Mae’r cytundeb hwn yn dod ar ôl dros flwyddyn o waith yn yr Emiradau i sicrhau bod Hydro yn ymwneud â’r sefydliad gorau posibl i ddatblygu ei fusnes a’i frand. Disgwylir i’r cytundeb fod werth mwy nag £20m mewn archebion dros y tair blynedd nesaf, sy’n golygu mwy o swyddi medrus yng Nghymru i gefnogi’r archebion allforio newydd yn ardal yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Yn ystod ei ymweliad â Hydro Industries, dywedodd Stephen Crabb hefyd sut mae arloesedd ac entrepreneuriaeth Cymru yn ennill enw da yn fyd-eang, rhywbeth y bydd Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU yng Nghymru yn gobeithio manteisio arno fis nesaf.

Mae Hydro Industries yn enghraifft wych o arloesi yng Cymru ar ei orau. Byddwn yn adeiladu ar enw da cynyddol ein cenedl ar draws y byd, yn enwedig yn y sector uwch-dechnoleg, yn Uwchgynhadledd Buddsoddi’r DU fis nesaf yng Nghymru. Mae’r gynhadledd ryngwladol hon, sy’n rhan o’n cynllun economaidd tymor hir i hybu economi Cymru, yn ymwneud â dangos i fusnesau pam y dylai Cymru fod ar ben y rhestr fel man ar gyfer buddsoddi.

Cefndir:

  • Gall technoleg Hydro Industries lanhau dŵr yn gyflym y tu hwnt i safonau dŵr yfed Ewropeaidd. Mae proses buro draddodiadol yn golygu trin gan ddefnyddio cemegau, neu bwmpio dŵr ychwanegol i mewn i wanhau’r amhureddau. Fodd bynnag, mae Hydro yn defnyddio trydan, sy’n golygu nad oes angen ychwanegu cemegau a all achosi problemau amgylcheddol eraill. Mae’r busnes wedi tyfu’n sylweddol ers iddo lansio yn 2011 gan helpu cwmnïau sglodyn glas yn cynnwys Shell, Tata, Dŵr Cymru a Morgan Crucible i ddod o hyd i atebion dŵr glân.

  • Cyhoeddwyd mai Hydro Industries oedd enillydd cyffredinol unfed seremoni wobrwyo flynyddol ar bymtheg Fast Growth 50 mewn seremoni a fynychwyd gan Mr Crabb ddydd Gwener 17eg Hydref yng Nghaerdydd. Mae Hydro Industries, a sefydlwyd bedair blynedd yn ôl wedi gweld cyfradd twf trosiant o dros 750% yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, o £258,000 i dros £2 filiwn.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU.

Cliciwch yma i weld datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd gan Swyddfa Cymru ddechrau’r wythnos am Fast Growth 50.

Cyhoeddwyd ar 23 October 2014