Enillydd Gwobr Fast Growth 50 eleni’n enghraifft o arloesi ar ei orau
Hydro Industries oedd prif enillydd y gwobrau blynyddol a gynhaliwyd am yr unfed tro ar bymtheg yng Nghaerdydd ddydd Gwener, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Hydro Industries yn enghraifft o arloesi ar ei orau yng Nghymru. Mae’r cwmni a sefydlwyd ychydig dros bedair blynedd yn ôl wedi gweld cyfradd twf trosiant o dros 750% yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, o £258,000 i dros £2 filiwn.
Mae’r llwyddiant ysgubol hwn yn dangos y rôl hollbwysig sydd gan ein hentrepreneuriaid a’n busnesau lleol o ran creu swyddi a rhoi hwb i dwf economaidd ledled Cymru. Mae hefyd yn dangos bod ein cynllun economaidd hirdymor yn helpu i greu’r hyder a’r amodau iawn i fusnesau yng Nghymru fuddsoddi a thyfu.
Bydd Stephen Crabb yn ymweld â Hydro Industries yn Llangennech yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae’r cwmni’n arloesi gyda thechnoleg electro ym maes puro dŵr er budd cymunedau yn rhai o ranbarthau mwyaf difreintiedig y byd. Yn ogystal â dysgu mwy am gynlluniau’r cwmni, bydd Mr Crabb yn clywed sut mae ei dwf yn helpu cadwyn gyflenwi busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Dywedodd bod y talentau entrepreneuraidd a welwyd yn ystod Gwobrau Fast Growth 50, sy’n cydnabod rhai o’r cwmnïau sydd wedi tyfu gyflymaf yng Nghymru, hefyd yn argoeli’n dda ar gyfer Uwchgynhadledd Fuddsoddi Ryngwladol y DU a fydd yn dod i Gymru ym mis Tachwedd.
Ychwanegodd Stephen Crabb:
Mae gan Gymru enw da Cymru fel cartref i entrepreneuriaid talentog, ac o ran cynhyrchu rhai o’r cynnyrch a’r gwasanaethau mwyaf arloesol ar y blaned. Bydd yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r mis nesaf, sy’n canolbwyntio ar y sector uwch dechnoleg, yn gyfle gwych i arddangos ein harloesedd, ein gweithlu medrus iawn a pham dylai buddsoddwyr rhyngwladol ddechrau talu sylw i Gymru.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU.