The Rt Hon Stephen Crabb MP

Bywgraffiad

Penodwyd Stephen Crabb yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yng Ngorffennaf 2014. Roedd yn Is-ysgrifennydd Seneddol Cymru rhwng Medi 2012 a Gorffennaf 2014.

Cafodd ei fagu yn Hwlffordd, Sir Benfro, lle bu’n mynychu Ysgol Tasker Milward. Mae ganddo radd o Brifysgol Bryste (BSc.) ac o Ysgol Fusnes Llundain (MBA).

Cafodd Stephen ei ethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf dros yr etholaeth lle y’i magwyd, Preseli Sir Benfro, yn 2005, a chafodd ei ailethol ym mis Mai 2010 a (ail-etholwyd) 2015.

Cyn cael ei ethol i’r Senedd, bu’n gweithio fel ymgynghorydd marchnata. Mae hefyd wedi gweithio i Gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, ac i Siambr Fasnach a Diwydiant Llundain. Mae wedi bod yn weithiwr ieuenctid gwirfoddol yn Ne Llundain, a bu’n Gadeirydd y Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd fawr yng nghanol y ddinas rhwng 1998 a 2002. Mae gan Stephen gysylltiadau agos â nifer o elusennau sy’n helpu pobl ifanc i oresgyn anawsterau, ac mae’n un o Noddwyr Mencap Sir Benfro.

Yn y Senedd, mae Stephen wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig, y Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol a Phwyllgor Dethol y Trysorlys. Ym mis Ionawr 2009, cafodd ei benodi i’r fainc flaen fel Chwip yr Wrthblaid. Yn dilyn ffurfio’r Llywodraeth Glymblaid ym mis Mai 2011, penodwyd Stephen yn Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth.

Yn Sir Benfro, mae Stephen wedi bod yn gefnogwr brwd i’r sector ynni sy’n datblygu, ac mae’r sector hwnnw wedi gweld llawer o fuddsoddi mewn olew newydd, LNG, cynhyrchu pŵer a seilwaith ynni adnewyddadwy ym Mhorthladd Aberdaugleddau. Mae hefyd yn bencampwr dros y gymuned ffermio leol, ac roedd yn un o’r Swyddogion a sylfaenodd Grŵp Hollbleidiol ar y Diwydiant Llaeth yn y Senedd.

Y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, mae Stephen yn mwynhau amrywiaeth eang o chwaraeon gan gynnwys rygbi, beicio mynydd a thenis. Mae wedi rhedeg Marathon Llundain deirgwaith, gan godi miloedd o bunnau i elusennau lleol yr un pryd. Mae hefyd yn mwynhau coginio, chwarae’r gitâr a dysgu.