Stori newyddion

Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU 2014

Bydd Cymru’n cynnal uwchgynhadledd fuddsoddi ryngwladol ar 21 Tachwedd 2014.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
UK Investment Summit Wales 2014

Mabwysiadu technoleg newydd i sicrhau mantais gystadleuol’ yw thema’r uwchgynhadledd.

Bydd yr uwchgynhadledd yn adeiladu ar y diddordeb a gafwyd mewn busnesau yng Nghymru yn dilyn Uwchgynhadledd NATO 2014 yn ddiweddar.

Bydd y digwyddiad gwahoddiad yn unig hwn sy’n cael ei gyd-drefnu gan Lywodraethau Cymru a’r DU, yn dod â 150 o fuddsoddwyr byd-eang, arweinwyr busnesau ac uwch weinidogion y llywodraeth at ei gilydd. Bydd yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n bresennol rwydweithio, cael gweld technolegau chwyldroadol a chael cyfle i glywed gan yr arbenigwyr.

Bydd y trafodaethau yn y digwyddiad yn cynnwys:

  • Strategaethau a ddefnyddir gan fusnesau arweiniol i wybod y diweddaraf am dechnoleg newydd a’i defnyddio er mwyn tyfu
  • Rhagweld technoleg a’i masnacheiddio
  • Y dulliau a ddefnyddir i seibrdroseddu a’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru i ymateb i’r bygythiad hwn
  • Datblygu modelau newydd o ryngweithio’n academaidd ac o ran busnes
  • Rôl Cymru o ran cefnogi datblygiadau technoleg a thwf busnesau

Mae ecosystem gwyddoniaeth ac arloesi’r DU yn cynnig sgôp sylweddol i’r dyfodol. Mae defnyddio arbenigedd y DU ym maes technoleg yn ganolog i gynnal llwyddiant economaidd y DU ym meysydd busnes a diwydiant.

Y DU yw’r prif gyrchfan yn Ewrop ar gyfer prosiectau buddsoddi uniongyrchol tramor, gyda 14% yn fwy o brosiectau na’r llynedd.

Roedd gan Gymru 79 o brosiectau mewnfuddsoddi uniongyrchol tramor yn 2013-14, y nifer fwyaf mewn 24 mlynedd. Llwyddodd hyn i greu neu ddiogelu dros 10,000 o swyddi. Mae’r uwchgynhadledd yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU 2014, cysylltwch ag Isaac Hewlings isaac.hewlings@ukti.gsi.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Tachwedd 2014 show all updates
  1. Added link to the live stream and investment video.

  2. First published.