Stori newyddion

Crynodeb economaidd ar gyfer Cymru: 10 – 14 Tachwedd 2014

Crynodeb o ddata economaidd ar gyfer Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r data diweddaraf yn dangos gostyngiad o dros 20,000 yn nifer y bobl ddi-waith dros y flwyddyn ddiwethaf, er nad yw wedi newid dros y chwarter diwethaf. Ers Mai 2010, mae 38,000 yn fwy o bobl mewn gwaith ac mae nifer y bobl ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng 35,000. Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yn gostwng hefyd – 6,100 yn is dros y flwyddyn ddiwethaf.

Gwelwyd gostyngiad o 1,100 yn nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru dros y mis diwethaf hefyd – gostyngiad am yr ugeinfed mis yn olynol yng Nghymru – sy’n ostyngiad o 16,000 dros y flwyddyn.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau i bobl sy’n ddi-waith yng Nghymru wedi gostwng 9,500 dros y tri mis diwethaf, a 18,300 dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Cymru’n dal i ddenu mwy o ymwelwyr yn ystod y dydd a dros nos, o gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Mae mwy o ymwelwyr yn aros dros nos, ac maent yn gwario mwy hefyd. Yn ogystal, mae cyfran Cymru o dwristiaeth Prydain wedi parhau i gynyddu.

Ers 2010, mae 100,000 o swyddi newydd wedi cael eu creu yn y sector preifat yng Nghymru. Mae’r rhagolygon o ran cyflogaeth yn gadarnhaol ledled y DU, gyda thwf ym mhob un o brif sectorau’r economi. Mae cynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn anelu at gael pobl yn ôl i’r gwaith a sicrhau bod yr economi’n dal i dyfu.

Yr ystadegau diweddaraf:

Y Farchnad Lafur

  • Mae cyflogaeth wedi gostwng yng Nghymru dros y flwyddyn, ond mae’n parhau’n sefydlog dros y chwarter

Ystadegau’r Farchnad Lafur yn Rhanbarthol - Tachwedd 2014

Ystadegau’r Farchnad Lafur yn y DU - Tachwedd 2014

  • Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau sy’n ymwneud â gwaith wedi gostwng yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac ers Mai 2010

Hawlwyr budd-daliadau i bobl ddi-waith

Twristiaeth

  • Mae twristiaeth yn dal i ffynnu yng Nghymru gyda mwy o deithiau am y dydd a dros nos o gymharu â’r llynedd

Ymweliadau Dros Nos - Prydain Fawr

Ymweliadau am y Dydd

Cyhoeddwyd ar 17 November 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 November 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.