Credyd Gofalwr

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut i wneud cais

Cyn i chi ddechrau

Nid oes rhaid i chi wneud cais am Gredyd Gofalwr os ydych:

  • yn cael Lwfans Gofalwr – byddwch yn cael y credydau’n awtomatig
  • yn cael Budd-dal Plant am blentyn sydd o dan 12 oed – byddwch yn cael y credydau’n awtomatig
  • yn ofalwr maeth – gallwch wneud cais am gredydau Yswiriant Gwladol yn lle

Gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen

Lawrlwythwch y ffurflen gais Credyd Gofalwr.

Mae’r ffurflen yn cynnwys Tystysgrif Gofal – gofynnwch i weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol ei lofnodi i chi.

Gallwch hefyd gael y ffurflen trwy ffonio’r Uned Lwfans Gofalwr.

Uned Lwfans Gofalwr
Ffôn: 0800 731 0297
Ffôn testun: 0800 731 0317
Relay UK(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0297
Iaith Arwyddion Prydain gwasanaeth cyfnewid fideo os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Fformatau amgen

Ffoniwch yr Uned Lwfans Gofalwr a gofynnwch am fformatau amgen, fel braille, print bras, neu CD sain.

Ble i anfon eich ffurflen

Carer's Allowance Unit
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2AB

Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hwn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.