Cymhwysedd

I gael Credyd Gofalwr mae’n rhaid i chi:

Rhaid i’r person rydych yn gofalu amdanynt gael un o’r ganlynol:

  • elfen gofal Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganol neu uwch
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson
  • elfen bywyd bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • elfen ofal Taliad Anabledd Plant ar y gyfradd ganol neu uwch
  • elfen bywyd bob dydd Taliad Anabledd Oedolion ar y gyfradd ganol neu uwch

Os nad yw’r person rydych yn gofalu amdano yn cael un o’r budd-daliadau hyn, efallai y byddwch yn dal yn gallu cael Credyd Gofalwr. Pan fyddwch yn gwneud cais, llenwch y rhan ‘Tystysgrif Gofal’ ar y ffurflen gais a gofynnwch i weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol i’w lofnodi.

Gall gofalwyr nad ydynt yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr fod yn gymwys i gael Credyd Gofalwr.

Seibiannau o ofalu a chymhwysedd

Gallwch gael Credyd Gofalwr o hyd os ydych yn cymryd seibiant o ofalu (hyd at 12 wythnos olynol).

Er enghraifft, gallwch gael Credyd Gofalwr o hyd am 12 wythnos os:

  • rydych yn cymryd gwyliau byr
  • yw rhywun rydych yn gofalu amdano yn yr ysbyty
  • rydych chi yn yr ysbyty

Rhowch wybod i’r Uned Lwfans Gofalwr os ydych yn cael seibiant o ofalu am dros 12 wythnos yn olynol.

Uned Lwfans Gofalwr
Ffôn: 0800 731 0297
Ffôn testun: 0800 731 0317
Relay UK(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0297
Iaith Arwyddion Prydain gwasanaeth cyfnewid fideo os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau