Cymorth ar gyfer Llog Morgais

Nid yw Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI) yn fudd-dal mwyach. Dim ond fel benthyciad y mae ar gael erbyn hyn.

Ni allwch gael benthyciad SMI os ydych chi’n bwrw dedfryd o garchar, ond efallai y bydd eich partner yn gallu hawlio yn eich lle.

Efallai na fydd yn rhaid i enw eich partner fod ar y morgais er mwyn gallu hawlio.    

Cael benthyciad SMI tra byddwch ar remand

Os ydych chi’n berson sengl ac ar remand, efallai y gallwch barhau i gael taliadau benthyciad SMI os ydych chi’n bodloni’r amodau cymhwysedd. 

Ni llwch gael benthyciad SMI na Chymhorthdal Incwm os ydych chi’n rhan o gwpwl ac ar remand, ond gall eich partner hawlio budd-daliadau a chostau tai.

Cymhwysedd

Os ydych chi ar remand, rhaid i chi fod yn cael Credyd Pensiwn neu Gymhorthdal Incwm i gael benthyciad SMI.

Bydd angen i chi wneud cais am un o’r budd-daliadau hyn os ydych chi wedi cymhwyso ar gyfer SMI yn y gorffennol drwy gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Dim ond taliadau benthyciad SMI y byddwch yn gallu eu cael - ni fyddwch yn cael Credyd Pensiwn na Chymhorthdal Incwm.

Os ydych chi’n cael Cymhorthdal Incwm ac wedi derbyn cynnig o fenthyciad SMI, dim ond ar ôl i chi fod yn cael y budd-dal am 39 wythnos yn olynol y gallwch gael taliadau benthyciad.