Budd-daliadau a charchar
Trosolwg
Gall taliadau budd-daliadau a hawliadau newid neu ddod i ben os ydych chi, eich partner neu eich plentyn:
- yn cael eich anfon i garchar neu sefydliad troseddwyr ifanc
- yn y ddalfa yn disgwyl treial (ar remand)
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am ddedfrydau carchar.
Does dim modd i chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch chi yn y carchar.
Os ydych chi yn y carchar neu ar remand
Gallwch gael help gan gynghorydd budd-daliadau i oedi neu gau budd-daliadau nad ydych chi’n gallu eu hawlio mwyach os byddwch chi’n mynd i’r carchar neu ar remand.
Os yw eich partner neu blentyn yn y carchar neu ar remand
Os yw eich partner neu blentyn wedi mynd i’r carchar neu ar remand, rhaid i chi ddweud wrth bwy bynnag sy’n talu eich budd-daliadau a chael gwybod:
- a fydd hyn yn effeithio ar eich hawliadau am fudd-daliadau
- a ydych yn gallu hawlio budd-daliadau eraill
Efallai y bydd gennych hawl o hyd i fudd-daliadau os yw eich partner wedi mynd i’r carchar, cyn belled â’ch bod yn bodloni’r amodau hawl i fudd-daliadau yn eich rhinwedd eich hun.