Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn y carchar

Sgipio cynnwys

Llythyrau a galwadau ffôn a fideo

Llythyrau

Gallwch gysylltu â charcharor drwy ysgrifennu ato. Ysgrifennwch rif y carcharor ar yr amlen. Fel arfer, does dim cyfyngiad ar nifer y llythyrau y cewch chi eu hanfon.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r rhan fwyaf o lythyrau sy’n cael eu hanfon i’r carchar ac oddi yno yn cael eu harchwilio gan staff y carchar.

Ni chaiff carchardai agor llythyrau gan gyfreithwyr a llysoedd dim ond mewn achosion arbennig, er enghraifft, os ydynt yn amau nad cynghorydd cyfreithiol sydd wedi anfon y llythyr go iawn.

Gallwch gwyno i’r carchar os ydych chi’n meddwl bod eich llythyrau’n cael eu darllen pan na ddylai hynny fod yn digwydd, neu os nad yw eich llythyrau’n cyrraedd y carcharor.

Galwadau fideo

Gallwch wneud galwadau fideo diogel i bobl mewn rhai carchardai gan ddefnyddio eich ffôn symudol neu dabled.

Gall galwadau bara hyd at 30 munud. Mae gan garcharor hawl i 1 alwad fideo am ddim bob mis.

Pwy sy’n cael ffonio

Rhaid i chi fod dros 18 oed ac ar restr ffrindiau a theulu’r carcharor.

Gallwch wahodd hyd at 3 pherson arall (o unrhyw oedran) i ymuno â’r alwad os ydynt ar restr ymwelwyr y carcharor.

Sut i ffonio

  1. Edrychwch i weld a yw’r carchar yn cynnig galwadau fideo.

  2. Gosodwch ap ar eich ffôn neu’ch tabled (gall gymryd hyd at 24 awr i ddilysu eich cyfrif ar yr ap).

  3. Gwiriwch a yw pawb sydd eisiau ymuno â’r alwad ar restr ffrindiau a theulu’r carcharor.

  4. Gwnewch gais am alwad fideo gan ddefnyddio’r ap neu gofynnwch i’r carcharor wneud cais am alwad.

  5. Bydd staff y carchar yn trefnu’r alwad ac yn anfon cadarnhad drwy e-bost.

Caiff pob galwad fideo ei recordio. Gall staff y carchar wylio galwadau fideo pan fyddant yn digwydd.

Galwadau ffôn

Mae’n rhaid i’r carcharor eich ffonio chi gan ddefnyddio un o ffonau’r carchar.

Dim ond pobl sydd wedi’u henwi ar restr ffrindiau a theulu carcharorion y cânt eu ffonio. Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r rhestr hon pan fyddan nhw’n cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y byddant yn gallu ffonio.

Gall staff y carchar wrando ar y rhan fwyaf o alwadau a’u recordio. Nid yw rhai galwadau’n cael eu monitro, er enghraifft, pan fydd carcharor yn ffonio cynghorydd cyfreithiol.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gyda charcharor gan ddefnyddio gwasanaeth Prison Voicemail.