Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn y carchar
Anfon arian
Gallwch anfon arian at rywun yn y carchar drwy wneud taliad ar-lein drwy gerdyn debyd Maestro, Visa a Mastercard.
Bydd yr arian yn cael ei dalu i gyfrif y carcharor – cyfrif arian sylfaenol y gall ei ddefnyddio i anfon a derbyn arian.
Erbyn hyn, chewch chi ddim anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec neu archeb bost, nac anfon arian parod drwy’r post i unrhyw garchar. Bydd angen i chi ddefnyddio cerdyn debyd yn lle hynny.
Os na allwch chi wneud taliad ar-lein
Efallai y gallwch wneud cais am eithriad – er enghraifft:
-
os nad ydych chi’n gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
-
os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Os felly, cewch anfon arian drwy’r post.
Gallwch hefyd gael gwybod sut mae cael cerdyn debyd drwy sefydlu cyfrif banc sylfaenol.