Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn y carchar
E-bost a’r cyfryngau cymdeithasol
Ni fydd carcharorion yn cael mynediad at wefannau rhwydweithio cymdeithasol (fel Facebook neu Twitter) tra byddant yn y ddalfa.
Allwch chi ddim anfon e-bost at garcharorion yn uniongyrchol, ond gallwch ddefnyddio gwasanaeth Email a Prisoner. Os byddwch chi’n anfon neges fel hyn, bydd yn cael ei hargraffu a’i danfon gan staff y carchar. Mae pob e-bost yn costio 40c a bydd angen i chi brynu credyd i ddefnyddio’r gwasanaeth.
Mewn rhai carchardai, gall carcharorion ateb hefyd ac atodi llun drwy Email a Prisoner. Edrychwch pa garchardai sy’n caniatáu atebion.