Budd-daliadau a charchar
Eithriadau a gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Ni fyddwch yn cyfrif fel oedolyn sy’n byw mewn eiddo at ddibenion y Dreth Gyngor os ydych chi yn y carchar neu ar remand.
Os ydych chi’n berson sengl
Gallwch wneud cais i’ch cartref gael ei eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor os ydych chi’n sengl, yn y carchar neu ar remand, ac nad oes neb yn byw yno.
Ni fydd eich cartref wedi’i eithrio os ydych chi yn y carchar am beidio â thalu’r Dreth Gyngor neu ddirwy am beidio â’i thalu.
Os ydych chi mewn cwpwl
Ar remand
Gallwch wneud cais neu barhau i gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar y cyd os yw eich partner ar remand a bod disgwyl iddo/iddi ddychwelyd mewn blwyddyn neu lai.
Yn y carchar
Gallwch hawlio neu barhau i hawlio Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar y cyd os disgwylir i’ch partner fod yn y carchar am 13 wythnos neu lai - gan gynnwys unrhyw amser ar remand.
Gwneud cais newydd
Cewch ostyngiad o 25% oddi ar eich bil Treth Gyngor os yw eich partner yn mynd i fod yn absennol am fwy nag 13 wythnos ac mai chi yw’r unig oedolyn yn yr eiddo. Efallai y gallwch wneud cais am Ostyngiad Treth Gyngor os nad ydych eisoes yn ei gael.