Budd-daliadau a charchar
Budd-dal Plant
Gallwch barhau i hawlio Budd-dal Plant pan fyddwch yn y carchar:
-
os mae eich plentyn gyda chi yn y carchar
-
os yw’r plentyn yr ydych yn hawlio ar ei gyfer yn byw gyda rhywun arall a’ch bod yn talu swm cyfatebol iddynt
Gallwch hefyd ofyn am gael trosglwyddo’r taliad Budd-dal Plant i rywun arall.
Os yw eich plentyn yng ngofal y cyngor lleol, bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben ar ôl 8 wythnos.
Os bydd eich plentyn yn mynd i’r carchar neu ar remand
Bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben ar ôl 8 wythnos os bydd eich plentyn yn mynd i’r carchar neu ar remand. Byddwch yn cael ôl-ddyledion os cânt eu clirio o’r drosedd.
Gofalu am blentyn rhywun arall
Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwad os ydych chi’n gofalu am blentyn eich partner neu blentyn rhywun arall pan fyddan nhw yn y carchar.