Budd-daliadau a charchar
Budd-dal Tai
Efallai y gallwch barhau i gael Budd-dal Tai neu wneud hawliad am y tro cyntaf os byddwch yn mynd i’r carchar neu ar remand.
Gwneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai
Dim ond os yw un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch chi wneud cais newydd am Fudd-dal Tai:
- rydych wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych chi’n byw mewn llety dros dro
- rydych chi’n byw mewn tai gwarchod neu dai â chefnogaeth gyda chyfleusterau arbennig megis larymau neu wardeniaid
Pan na fyddwch yn gallu hawlio
Ni fydd gennych hawl i hawlio Budd-dal Tai:
- os ydych chi’n debygol o fod ar remand am fwy na 52 wythnos
- os ydych yn debygol o fod yn y carchar am fwy nag 13 wythnos (gan gynnwys unrhyw amser ar remand)
- os nad ydych yn bwriadu dychwelyd adref ar ôl cael eich rhyddhau
- os ydych chi’n ei hawlio fel cwpl ac rydych chi wedi gwahanu
- os bydd yr eiddo’n cael ei osod ar rent
Ar remand
Os ydych chi’n berson sengl
Gallwch hawlio taliadau Budd-dal Tai am hyd at 52 wythnos tra byddwch ar remand, os ydych yn debygol o ddychwelyd adref mewn blwyddyn neu lai.
Os ydych chi mewn cwpwl
Gallwch hawlio Budd-dal Tai ar y cyd am hyd at 52 wythnos tra bo un ohonoch ar remand, os yw’n debygol o fod am flwyddyn neu lai.
Os yw’ch plentyn ar remand
Gall eich taliadau Budd-dal Tai barhau am hyd at 52 wythnos os yw eich plentyn ar remand, os yw’n debygol o fod i ffwrdd am flwyddyn neu lai.
Yn y carchar
Os ydych chi’n berson sengl
Gallwch hawlio Budd-dal Tai am hyd at 13 wythnos os ydych chi’n sengl ac yn mynd i’r carchar ac yn debygol o ddychwelyd adref mewn 13 wythnos neu lai - gan gynnwys unrhyw amser ar remand.
Os ydych chi mewn cwpwl
Gallwch hawlio Budd-dal Tai ar y cyd am hyd at 13 wythnos os yw un ohonoch wedi mynd i’r carchar ac yn debygol o ddychwelyd adref mewn 13 wythnos neu lai - gan gynnwys unrhyw amser ar remand.
Os mai eich partner yw’r un sydd wedi bod yn hawlio Budd-dal Tai, ac mae ef / hi yn mynd i’r carchar, efallai y gallwch ei hawlio yn ei le / ei lle. Efallai y bydd angen ychwanegu eich enw at y cytundeb tenantiaeth, os nad yw arno yn barod.
Os yw’ch plentyn yn y carchar
Os bydd eich plentyn yn mynd i’r carchar, bydd angen i chi gysylltu â’ch cyngor lleol i weld a fydd eich hawl i gael Budd-dal Tai yn newid. Er enghraifft, os ydych yn rhentu gan landlord preifat, mae swm y budd-dal a delir yn gyfyngedig, yn dibynnu ar bwy sy’n byw gyda chi.