Budd-daliadau a charchar
Budd-daliadau sy'n dod i ben neu sy'n cael eu hoedi
Ni allwch gael budd-daliadau os byddwch yn mynd i’r carchar, ar wahân i:
- rhan taliad tai Credyd Cynhwysol mewn rhai achosion
- Budd-dal Tai ar gyfer dedfrydau byrrach
- help gyda’r dreth gyngor os ydych chi’n gymwys
Mae rhai budd-daliadau’n cael eu rhewi neu eu ‘hoedi’ tra byddwch chi yn y carchar. Pan gewch eich rhyddhau, byddwch yn dechrau cael taliadau eto. Y budd-daliadau hyn yw:
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB)
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), er mai dim ond os ydych chi yn y ddalfa am fwy na 28 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis y bydd y taliadau’n dod i ben
- Lwfans Mamolaeth, cyn belled â’ch bod yn bodloni amodau hawlio’r budd-dal
Byddwch yn stopio cael Lwfans Gofalwr os bydd y sawl yr ydych yn gofalu amdano yn mynd i’r carchar neu ar remand.
Budd-daliadau tra ar remand
Os ydych chi ar remand, allwch chi ddim hawlio:
- Credyd Cynhwysol, ar wahân i ran taliad tai Credyd Cynhwysol mewn rhai achosion
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
- Cymhorthdal Incwm - ar wahân i help gyda chostau tai
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) neu Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Gweini
- Credyd Pensiwn - ar wahân i help gyda chostau tai
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB)
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), os ydych chi yn y ddalfa am fwy na 28 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis Ni fydd gennych hawl i Dâl Salwch Statudol (SSP) na Thâl Mamolaeth Statudol (SMP) gan eich cyflogwr.
Ôl-ddyledion budd-daliadau
Os oes unrhyw ôl-ddyledion budd-daliadau yn ddyledus i chi pan gewch eich anfon i garchar neu ar remand, gallwch wneud cais ysgrifenedig i’r rhain gael eu talu i rywun arall.
Ôl-ddyledion budd-daliadau os na chewch eich dyfarnu’n euog
Os na chewch eich dyfarnu’n euog, gallwch gael ôl-ddyledion budd-daliadau ar gyfer:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) cyfrannol neu arddull newydd
- Budd-dal Analluogrwydd
Ôl-ddyledion budd-daliadau os ydych yn cael eich dyfarnu’n euog
Os cewch eich anfon i garchar ac rydych yn hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB), efallai y bydd gennych hawl i hyd at flwyddyn o ôl-ddyledion pryd bynnag y cewch eich rhyddhau.
Hawlio budd-daliadau ar ôl cael eich rhyddhau
Os oes gennych hawl i fudd-daliadau, gallwch gyflwyno hawliadau newydd cyn gynted ag y byddwch yn gadael y carchar. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth ariannol ac ymarferol arall.
Ni allwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) os cewch eich rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL).