Budd-daliadau a charchar
Credyd Cynhwysol
Ni fyddwch yn cael lwfans safonol Credyd Cynhwysol os ydych chi yn y carchar neu ar remand.
Ni chewch ychwaith y taliadau ychwanegol i helpu gydag anabledd, cyflwr iechyd na gofal plant. Efallai y byddwch chi’n gallu cael rhan taliad tai Credyd Cynhwysol os ydych chi’n berson sengl.
Gallwch wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn gadael y carchar. Byddwch yn cael cynnig apwyntiad gyda hyfforddwr gwaith y carchar 12 wythnos cyn i chi gael eich rhyddhau. Gall yr hyfforddwr gwaith eich helpu i baratoi eich cais am Gredyd Cynhwysol.
Os ydych chi’n berson sengl
Gallwch barhau i gael taliad tai Credyd Cynhwysol am hyd at 6 mis os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
-
disgwylir i chi dreulio 6 mis neu lai yn y carchar
-
roeddech chi’n cael rhan taliad tai Credyd Cynhwysol yn syth cyn mynd i’r carchar neu gael eich rhoi ar remand
Os ydych chi mewn cwpwl
Os oeddech chi’n cael Credyd Cynhwysol fel cwpwl, ni fydd yr unigolyn yn y carchar neu ar remand yn gymwys i gael unrhyw daliadau Credyd Cynhwysol mwyach.
Dylai’r person nad yw yn y carchar roi gwybod am newid mewn amgylchiadau i gael y lwfans safonol Credyd Cynhwysol ac unrhyw daliadau Credyd Cynhwysol ychwanegol, er enghraifft ar gyfer tai neu ofal plant, fel person sengl.