Apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
Trosolwg
Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT) os ydych yn meddwl bod camgymeriad cyfreithiol wedi’i wneud mewn achos tribiwnlys cyflogaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Er enghraifft, gallwch apelio os:
- cafodd y tribiwnlys y gyfraith yn anghywir
- na wnaeth y tribiwnlys gymhwyso’r gyfraith gywir
- na wnaeth y tribiwnlys ddilyn y gweithdrefnau cywir ac amharodd hyn ar y penderfyniad
- nid oedd gan y tribiwnlys dystiolaeth i gefnogi ei benderfyniad
- roedd y tribiwnlys yn rhagfarnllyd yn annheg tuag at y parti arall
Gofynnwch am gyngor cyfreithiol os ydych yn ansicr am hyn.
Mae’r EAT yn annibynnol o’r llywodraeth a bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.
Cyn i chi apelio
Gofynnwch i’r tribiwnlys cyflogaeth anfon y rhesymau dros y penderfyniad atoch, os nad ydynt gennych yn barod. Gallwch barhau â’ch apêl tra byddwch yn aros amdanynt.
Cymorth gyda’ch apêl
Darllenwch y rheolau a ddilynir gan yr EAT wrth wneud penderfyniadau.
Gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim gan Gyngor ar Bopeth a Chyngor ar Bopeth yr Alban.
Cysylltu â’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
Cysylltwch â’r llinell ymholiadau am fwy o wybodaeth.
Llinell ymholiadau cyhoeddus EAT
Rhif ffôn: 020 7273 1041 (Cymru a Lloegr)
Rhif ffôn: 0131 225 3963 (Yr Alban)
Gwybodaeth am gost galwadau