Apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
Sut i apelio
-
Darllenwch y cyfarwyddyd ymarfer llawn a’r canllaw apelio.
-
Llenwch y ffurflen hysbysiad o apêl.
-
Anfonwch y ffurflen, gyda’r dogfennau ategol a restrir arni, i’r swyddfa Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT).
Nid oes rhaid i chi dalu ffi i apelio.
Terfyn amser ar gyfer apelio
Mae’n rhaid i chi apelio o fewn 42 diwrnod o’r dyddiad y cafodd naill ai:
- y penderfyniad ei anfon atoch
- y rhesymau eu hanfon atoch (dim ond os na wnaeth y Tribiwnlys Cyflogaeth roi rhesymau yn y gwrandawiad neu eich bod wedi gofyn am y rhesymau o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad atoch chi)
Rhaid i’ch apêl gyrraedd erbyn 4pm ar y diwrnod olaf.
Gallwch ofyn i apêl gael ei hystyried hyd yn oed os yw’n hwyr, ond anaml y rhoddir estyniad ac mae’n rhaid i chi gael rheswm da.
Ble i anfon eich apêl
Gallwch ei hanfon:
- drwy’r gwasanaeth E-Ffeilio
- drwy e-bost - dylech atodi’r ffurflen apêl ac unrhyw ddogfennau ategol i’r e-bost, ac mae’n rhaid i’r e-bost fod yn 10MB neu lai
- drwy’r post
Mae’r cyfeiriad e-bost neu postio yn wahanol yn dibynnu lle cafodd eich achos ei wrando.
Ar gyfer achosion yng Nghymru a Lloegr
Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT)
londoneat@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 020 7273 1041
Gwybodaeth am gost galwadau
Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT)
5ed Llawr / 5th Floor
Rolls Building
7 Rolls Buildings
Fetter Lane
Llundain
EC4A 1NL
Ar gyfer achosion yn yr Alban
Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT)
edinburgheat@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0131 225 3963
Gwybodaeth am gost galwadau
Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT)
George House
126 George Street
Caeredin
EH2 4HH
Ar ôl i chi apelio
Bydd EAT yn penderfynu a all eich apêl barhau. Os bydd, efallai y gofynnir i chi fynychu gwrandawiad i gyflwyno eich achos.
Os na all eich apêl barhau, anfonir llythyr atoch yn egluro pam a ph’un a allwch apelio ymhellach.