Trosolwg

Gall cyflogai neu rywun arall (er enghraifft ymgeisydd am swydd neu undeb llafur) fynd â chi i dribiwnlys cyflogaeth am amryw faterion, gan gynnwys:

  • cyflog
  • diswyddo
  • gwahaniaethu

Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth a bydd yn gwrando arnoch chi (yr ‘atebydd’) a’r parti arall (yr ‘hawlydd’) cyn gwneud penderfyniad.

Os byddwch yn colli’r achos, efallai y bydd rhaid i chi dalu iawndal neu ailbenodi’r hawlydd i’w swydd.

Datrys yr anghydfod heb wrandawiad

Bydd y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cysylltu â chi os bydd rhywun eisiau gwneud hawliad yn eich erbyn. Byddant yn cynnig gweithio gyda chi a’r hawlydd i geisio datrys y broblem heb fynd i dribiwnlys - gelwir hyn yn ‘cymodi’.

Ffoniwch Acas i gael cymorth a chyngor.

Acas
Rhif ffôn: 0300 123 11 00
Ffôn testun: 18001 0300 123 1100
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Ymateb i hawliad

Bydd y tribiwnlys yn anfon llythyr atoch (a elwir yn ‘pecyn ymateb’) os oes hawliad wedi’i wneud yn eich erbyn ac nid yw cymodi wedi gweithio.

Cyn i chi ymateb, darllenwch y cyfarwyddyd ar ymateb i hawliad.

Rhaid i chi ymateb i’r hawliad o fewn 28 diwrnod.

Efallai y gallwch gael mwy o amser i ymateb - gofynnwch i’r tribiwnlys. Os byddwch yn hwyr yn ymateb neu ddim yn ymateb o gwbl, efallai y bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad yn eich erbyn heb gynnal gwrandawiad.

Ymateb i hawliad ar-lein

Gallwch ymateb ar-lein drwy gyflwyno ffurflen ymateb ET3.

Os ydych yn weithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith neu’n fath arall o weithiwr proffesiynol a bod yna gyfeirnod 16 digid yn eich pecyn ymateb, gallwch ymateb ar-lein drwy ddefnyddio cyfrif MyHMCTS.

Defnyddio ffurflen bapur i ymateb i hawliad

Gallwch ddefnyddio ffurflen bapur i ymateb a naill ai:

Gallwch ei dychwelyd i un o’r cyfeiriadau canlynol.

Swyddfa Ganolog y Tribiwnlys Cyflogaeth (Cymru a Lloegr)
PO Box 11225
Crown House
Loughborough
LE11 9PX

Swyddfa Ganolog y Tribiwnlys Cyflogaeth (Yr Alban)
PO Box 27105
Glasgow
G2 9JR

Gallwch hefyd ei danfon â llaw i un o brif swyddfeydd y Tribiwnlys Cyflogaeth. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o’r swyddfeydd yn y cyfarwyddyd ymateb.

Cynnig iawndal i’r hawlydd

Gallwch geisio setlo’r achos unrhyw adeg trwy gynnig talu iawndal i’r hawlydd (a elwir yn ‘cytundeb setlo’).

Cael cymorth neu gyngor cyfreithiol

Efallai byddwch eisiau cael cyngor cyfreithiol os bydd hawliad yn cael ei wneud yn eich erbyn.

Ffoniwch llinell ymholiadau’r tribiwnlys cyflogaeth i gael arweiniad cyffredinol ar sut mae’r broses yn gweithio neu os ydych chi’n cael problemau technegol gyda’r gwasanaeth ar-lein. Ni allant roi cyngor cyfreithiol i chi.

Canolfan gyswllt cwsmeriaid y Tribiwnlys Cyflogaeth
Rhif ffôn: 0300 303 5176 (Llinell Iaith Gymraeg)
Rhif ffôn: 0300 123 1024 (Siaradwyr Saesneg yng Nghymru a Lloegr)
Rhif ffôn: 0300 790 6234 (Yr Alban)
Ffôn testun: 18001 0300 123 1024 (Cymru a Lloegr)
Ffôn testun: 18001 0300 790 6234 (Yr Alban)
Gwybodaeth am gost galwadau

Cymorth i ymateb ar-lein

Cysylltwch â We Are Group os ydych eisiau ymateb ar-lein ond nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, neu nid ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we.
 

We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Bydd Office of Industrial Tribunals and the Fair Employment Tribunal yn delio â’ch achos.