Rhywun yn mynd â chi i dribiwnlys cyflogaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Os byddwch yn colli’r achos

Os byddwch yn colli, gall y tribiwnlys eich gorchymyn i wneud pethau penodol, yn ddibynnol ar y math o achos. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys:

  • ailbenodi’r hawlydd i’w swydd
  • talu iawndal os nad yw’n bosib ailbenodi’r hawlydd i’w swydd
  • talu treuliau tyst(ion)
  • talu iawndal neu enillion a gollir

Talu iawndal

Talu iawndal yw’r canlyniad mwyaf cyffredin mewn achos tribiwnlys. Gall fod terfynau ar faint o arian gall tribiwnlys ei ddyfarnu. Nid oes terfyn mewn achosion gwahaniaethu.

Fel arfer, bydd y tribiwnlys yn cyfrifo’r swm yn seiliedig ar y golled ariannol mae’r unigolyn wedi’i brofi o ganlyniad i’ch gweithredoedd.

Cyfrifir llog o’r dyddiad cafwyd y dyfarniad, ond ni fydd rhaid ichi dalu llog os byddwch yn talu’r iawndal yn ei gyfanrwydd o fewn 14 diwrnod.

Gallwch gael eich galw i’r llys a’ch gorfodi i dalu. Gallwch hefyd gael dirwy a’ch enwi ar-lein os na fyddwch yn talu.

Ad-dalu budd-daliadau gwladol

Efallai bydd rhaid ichi ad-dalu unrhyw Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) mae’r hawlydd wedi hawlio wrth ddod a’u hachos i’r tribiwnlys.

Mae hyn er mwyn osgoi eu bod yn cael eu talu ddwywaith.

Bydd y tribiwnlys a’r Uned Adennill Iawndal yn dweud wrthych beth fydd rhaid ichi ei wneud a faint i’w dalu.