Yn y gwrandawiad

Fel arfer cynhelir achosion yn y swyddfa tribiwnlys cyflogaeth sydd agosaf at lle roeddech yn gweithio.

Mae’n rhaid ichi ddod â’r dogfennau rydych yn eu defnyddio i gefnogi’r achos gyda chi.

Ni allwch hawlio costau teithio am ddod i’r gwrandawiad.

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad

Byddwch yn cyflwyno’r achos i’r tribiwnlys - gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan, megis cyfreithiwr, ffrind neu aelod o’ch teulu. Bydd yr hawlydd yn cyflwyno eu hachos yn eich erbyn.

Efallai bydd y bobl ganlynol yn gofyn cwestiynau ichi:

  • y barnwr
  • yr hawlydd
  • y 2 aelod arall o’r panel tribiwnlys (dim ond mewn tribiwnlysoedd penodol)

Cael penderfyniad

Bydd y penderfyniad yn cael ei anfon atoch yn y post ychydig ddyddiau neu wythnosau ar ôl y gwrandawiad. Bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar GOV.UK. Mewn rhai achosion efallai byddwch yn cael y penderfyniad yn y gwrandawiad.

Os byddwch yn ennill yr achos

Gyda’r mwyafrif o achosion, ni fyddwch yn cael iawndal os byddwch yn ennill. Fodd bynnag, os bu i’r hawlydd ymddwyn yn afresymol neu os nad oedd unrhyw obaith y byddant yn llwyddiannus, gallwch ofyn i’r tribiwnlys ddyfarnu iawndal costau ichi.