Cyn y gwrandawiad

Byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd cyn y gwrandawiad - byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau hyn. Rhaid ichi baratoi dogfennau a gwneud trefniadau i dystion fynychu ymlaen llaw.

‘Gwrandawiad Rhagarweiniol’

Efallai gofynnir ichi fynychu gwrandawiad cychwynnol (a elwir yn wrandawiad rhagarweiniol) gyda’r barnwr i benderfynu ar bethau fel:

  • dyddiad ac amser y gwrandawiad
  • pa mor hir dylai’r gwrandawiad bara

Bydd y tribiwnlys yn rhoi gwybod ichi os bydd rhaid ichi roi tystiolaeth neu ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Trefnu dogfennau

Gallwch ofyn i’r hawlydd am ddogfennau a fydd yn eich helpu gyda’r achos, a gallant ofyn am ddogfennau gennych chi hefyd.

Mae enghreifftiau o ddogfennau yn cynnwys:

  • contract cyflogaeth
  • slipiau cyflog
  • manylion cynllun pensiwn
  • nodiadau cyfarfodydd perthnasol

Fel arfer bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn yn pennu amserlen ar gyfer pryd y dylech gyfnewid dogfennau.

Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych sawl copi o bob dogfen y dylech ddod gyda chi i’r gwrandawiad.

Trefnu tystion

Gallwch ddod â thystion i’r gwrandawiad os ydynt yn gallu rhoi tystiolaeth sy’n berthnasol yn uniongyrchol i’r achos.

Os byddwch yn gofyn i dyst fod yn bresennol ac nid ydynt eisiau bod yn dyst, gallwch ofyn i’r tribiwnlys orchymyn iddynt fod yn bresennol. Mae’n rhaid ichi wneud cais ysgrifenedig i’r swyddfa tribiwnlys sy’n delio â’r achos, gan roi:

  • enw a chyfeiriad y tyst
  • manylion o ran beth all y tyst ddweud a sut bydd yn helpu’r achos
  • y rheswm pam bod y tyst wedi gwrthod mynychu (os ydynt wedi rhoi rheswm)

Mwy na thebyg, chi fydd yn gyfrifol am dalu costau’r tyst.