Rhywun yn mynd â chi i dribiwnlys cyflogaeth

Neidio i gynnwys y canllaw

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y tribiwnlys

Gallwch ofyn i’r tribiwnlys ailystyried y penderfyniad os ydych yn colli’r achos.

Mae’n rhaid ichi ysgrifennu i swyddfa’r tribiwnlys o fewn 14 diwrnod ichi gael y penderfyniad, gan ddweud pam eich bod eisiau i’r penderfyniad gael ei ailystyried.

Mae rhaid ichi roi rhesymau da, er enghraifft:

  • mae’r tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad yn y ffordd y daeth i’w benderfyniad
  • ni chawsoch eich hysbysu am y gwrandawiad
  • mae tystiolaeth newydd wedi dod i’r amlwg ers y gwrandawiad

Anfonwch eich llythyr i swyddfa’r tribiwnlys a wnaeth ddelio â’r achos.

Apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth

Gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth os ydych yn credu bod y tribiwnlys cyflogaeth wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.