Apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
Y gwrandawiad tribiwnlys
Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi fynychu gwrandawiad lle byddwch chi (neu eich cynrychiolydd) yn cyflwyno eich achos.
Bydd y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT) yn penderfynu a yw eich apêl wedi bod yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael gwybod canlyniad yr achos naill ai ar ddiwedd y gwrandawiad neu wedyn drwy lythyr.
Paratoi ar gyfer y gwrandawiad
Fel arfer gofynnir i chi pryd rydych ar gael i fynychu gwrandawiad. Mewn rhai achosion mae’n bosibl y dywedir wrthych pryd y cynhelir gwrandawiad, ond dywedir wrthych o leiaf 14 diwrnod ymlaen llaw. Gall gwrandawiadau gael eu cynnal yn gynt na hyn mewn amgylchiadau eithriadol.
Cewch wybod pa ddogfennau rydych angen eu hanfon at yr EAT a’r partïon eraill.
Mae’n bosibl y gallwch gael cyngor am ddim yn union cyn y gwrandawiad os nad oes gennych gynrychiolydd - gofynnwch i’r EAT am fanylion.
Ni allwch hawlio unrhyw gostau teithio i fynd i wrandawiad.
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Byddwch yn cyflwyno eich achos - gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan, er enghraifft cyfreithiwr, ffrind neu aelod o’r teulu. Bydd y parti arall yn cyflwyno’r achos yn eich erbyn. Mae’n bosibl y gofynnir cwestiynau i chi am eich achos.