Apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth

Sgipio cynnwys

Os byddwch yn colli eich achos

Efallai y gallwch apelio i lys uwch os ydych yn meddwl bod yna broblem gyfreithiol gyda phenderfyniad y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT).

Gofynnwch am gymorth neu gyngor cyfreithiol os nad ydych yn siŵr am hyn.

Apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth a wnaed yng Nghymru neu Loegr

Mae’n rhaid i chi ofyn am ganiatâd cyn apelio i’r llys uwch, y Llys Apêl. Gallwch naill ai ofyn i EAT neu’r Llys Apêl am ganiatâd.

Rhaid i chi roi eich rhesymau dros apelio a’r broblem gyfreithiol gyda’r penderfyniad.

Gofyn i EAT am ganiatâd

Mae’n rhaid i chi ofyn i’r EAT am ganiatâd i apelio o fewn 7 niwrnod i’r dyddiad ar y llythyr penderfyniad.

Gallwch ofyn am ganiatâd ar ddiwrnod eich gwrandawiad (os cewch eich penderfyniad ar y diwrnod).

Os gwrthodir rhoi caniatâd i chi, gallwch ofyn i’r Llys Apêl yn uniongyrchol.

Gofyn i’r Llys Apêl am ganiatâd

Gallwch ofyn i’r Llys Apêl am ganiatâd. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod i’r dyddiad ar y llythyr penderfyniad.

Os cewch orchymyn Rheol 3(7ZA) neu Reol 3(10)

Os yw eich apêl wedi’i gwrthod o dan Reol 3(7ZA) neu wedi’i diystyru o dan Reol 3(10), ni allwch ofyn i’r EAT am ganiatâd i apelio.

Mae angen i chi ofyn i’r Llys Apêl yn uniongyrchol am ganiatâd o fewn 7 niwrnod i ddyddiad y gorchymyn.

Gofyn am fwy o amser

Gallwch ofyn am fwy o amser i ofyn am ganiatâd i apelio. Mae’n rhaid i chi gael rheswm da.

Fel arfer, mae’n rhaid i chi ofyn i’r Llys Apêl am fwy o amser.

Apelio i’r Llys Apêl

Unwaith y byddwch wedi cael caniatâd, gallwch apelio i’r Llys Apêl.

Apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth a wnaed yn yr Alban

Mae’n rhaid i chi ofyn i’r EAT am ganiatâd i apelio o fewn 7 niwrnod i’r dyddiad ar y llythyr penderfyniad.

Os cewch ganiatâd, gallwch apelio i’r llys uwch yn yr Alban, Llys y Sesiwn.

Os bydd EAT yn gwrthod rhoi caniatâd i chi apelio, gallwch ofyn i Lys y Sesiwn yn uniongyrchol. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 42 diwrnod i’r dyddiad y gwrthodwyd caniatâd i chi. Cysylltwch â Llys y Sesiwn i gael gwybod sut i wneud hyn.