Ymateb i hawliad llys am arian
Ymateb i hawliad drwy'r post
Os gwnaed yr hawliad gan ddefnyddio ffurflen bapur, dylech ymateb drwy’r post. Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen bapur i ymateb os gwnaed yr hawliad ar-lein ond nad ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaethau ar-lein. Byddwch wedi cael llythyr gyda chyfarwyddiadau ar sut i ymateb.
Mae pa ffurflen y mae angen i chi ei llenwi yn dibynnu ai swm penodol ynteu swm amhenodol sy’n cael ei hawlio. Os ydych angen mwy o amser i ymateb i’r hawliad, lawrlwythwch a llenwch ffurflen N9.
Os yw’r hawliad am swm penodol
Lawrlwythwch a llenwch:
- ffurflen N9A i dalu’r cyfan neu ran o’r hawliad
- ffurflen N9B os nad ydych yn cytuno â’r hawliad
Os yw’r hawliad am swm amhenodol
Lawrlwythwch a llenwch:
- ffurflen N9D os nad ydych yn cytuno â’r hawliad
- ffurflen N9C os ydych angen gofyn i’r llys benderfynu faint sy’n ddyledus gennych, neu os ydych eisiau cynnig talu swm penodol
Ble i anfon y ffurflenni
Mae ble rydych yn anfon y ffurflenni yn dibynnu ar sut y gwnaed yr hawliad.
Os gwnaed yr hawliad gan ddefnyddio ffurflen bapur
Anfonwch y ffurflen i:
Y Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol/Civil National Business Centre
St Katharine’s House
21 - 27 St Katharine’s Street
Northampton
NN1 2LH
Os gwnaed yr hawliad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein
Bydd eich rhif hawliad yn cynnwys ‘MC’ os gwnaed yr hawliad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein.
I ymateb gan ddefnyddio ffurflen bapur, anfonwch y ffurflen i:
Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil
HMCTS CMC
PO Box 12747
Harlow
CM20 9RA
Os gwnaed yr hawliad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein
Bydd rhif eich hawliad yn 8 digid ac yn cynnwys llythyrau a rhifau os gwnaed yr hawliad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein.
I ymateb gan ddefnyddio ffurflen bapur, anfonwch y ffurflen i:
Hawliadau am Arian Ar-lein (MCOL)
Y Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol/Civil National Business Centre
St Katharine’s House
21 - 27 St Katharine’s Street
Northampton
NN1 2LH
Cymorth i ymateb i hawliad drwy’r post
Os gwnaed yr hawliad gan ddefnyddio ffurflen bapur, cysylltwch â’r Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol os ydych angen cymorth.
Y Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Saesneg 0300 123 1056
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os gwnaed yr hawliad ar-lein, cysylltwch â’r gwasanaeth ar-lein perthnasol am gymorth.
Ar ôl i chi ymateb
Cadwch brawf (er enghraifft, eich cofnodion banc neu dderbynneb gan yr hawlydd) i ddangos eich bod wedi talu.
Os byddwch yn cynnig talu swm gwahanol, bydd yr hawlydd yn penderfynu pa un a yw am ei dderbyn. Os byddwch yn amddiffyn yr hawliad, bydd yr hawlydd yn penderfynu pa un ai i barhau â’r hawliad neu ei dynnu’n ôl.