Mynd i wrandawiad llys

Efallai y bydd rhaid i chi roi mwy o wybodaeth mewn gwrandawiad os bydd eich cynnig yn cael ei wrthod neu os bydd cyfryngu yn aflwyddiannus.

Os cynhelir gwrandawiad, gallwch wneud y canlynol:

  • cynrychioli eich hun
  • talu i fargyfreithiwr neu gyfreithiwr eich cynrychioli
  • gofyn i rywun eich cynghori yn y llys - nid oes rhaid iddynt fod yn gyfreithiwr
  • gofyn i rywun siarad ar eich rhan - efallai y bydd angen i chi gael caniatâd y llys

Gellir cynnal eich gwrandawiad yn ystafell y barnwr neu mewn ystafell llys mewn llys sirol os yw eich hawliad am lai na £10,000. Efallai y cynhelir gwrandawiad mwy ffurfiol os yw’r hawliad am fwy o arian.

Ar ôl y gwrandawiad

Byddwch yn cael penderfyniad ar ddiwrnod y gwrandawiad. Hefyd, bydd y llys yn anfon copi o’r penderfyniad atoch yn y post.

Apelio yn erbyn y penderfyniad

Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad os ydych yn meddwl bod y barnwr wedi gwneud camgymeriad yn ystod y gwrandawiad. Rhaid i chi wneud y cais o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad gael ei wneud.

Darllenwch fwy am pa lys neu dribiwnlys y dylech apelio iddo.

Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth i gael cyngor ar apelio.