Ymateb i hawliad llys am arian

Sgipio cynnwys

Ymateb i hawliad ar-lein

Byddwch angen gwybod pa wasanaeth a ddefnyddiwyd i wneud yr hawliad. Gwiriwch eich e-bost neu lythyr os nad ydych yn siŵr.

Gallwch ddefnyddio ffurflen bapur i ymateb os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Os gwnaed yr hawliad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein

Bydd angen i chi greu cyfrif i ymateb i’r hawliad.

Byddwch angen eich rhif hawliad a chod diogelwch. Bydd eich rhif hawliad yn cynnwys ‘MC’.

Ymateb gan ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein.

Cymorth i ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein

Cysylltwch â Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil.

Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm Gwybodaeth am gost galwadau

Os gwnaed yr hawliad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein

Byddwch angen rhif adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth a chyfrinair i ymateb i’r hawliad. Os nad oes gennych rif adnabod defnyddiwr, gallwch greu un cyn i chi ymateb i’r hawliad.

Byddwch angen eich rhif hawliad. Bydd eich rhif hawliad yn 8 digid o hyd ac yn cynnwys llythrennau a rhifau.

Ymateb gan ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein.

Cymorth i ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein

Cysylltwch â Hawliadau am Arian Ar-lein.

Hawliadau am Arian Ar-lein
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Ar ôl i chi ymateb

Cadwch brawf (er enghraifft, eich cofnodion banc neu dderbynneb gan yr hawlydd) i ddangos eich bod wedi talu.

Os byddwch yn cynnig talu swm gwahanol, bydd yr hawlydd yn penderfynu pa un a yw am ei dderbyn. Os byddwch yn amddiffyn yr hawliad, bydd yr hawlydd yn penderfynu pa un ai i barhau â’r hawliad neu ei dynnu’n ôl.