Trosolwg

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Fe gewch lythyr neu e-bost os bydd rhywun yn honni bod arnoch chi arian iddyn nhw. Mae’n rhaid i chi ymateb erbyn y dyddiad ar yr e-bost neu’r llythyr a gewch.

Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost neu’r llythyr. Dylech ymateb yn yr un modd ag y gwnaed yr hawliad, er enghraifft, dylech ymateb ar-lein os gwnaed yr hawliad ar-lein.

Mae’r broses yn wahanol yn yr Alban.

Ffyrdd o ymateb

Gallwch wneud y canlynol:

  • talu’r swm llawn
  • cynnig talu swm gwahanol (os ydych yn meddwl bod arnoch lai na swm yr hawliad)
  • amddiffyn yr hawliad (os nad ydych yn meddwl bod arnoch unrhyw arian)

Os byddwch yn cynnig talu swm gwahanol a’i fod yn cael ei wrthod, efallai y bydd rhaid i chi roi rhagor o wybodaeth mewn gwrandawiad.

Gallwch ofyn am 14 diwrnod arall i ymateb os nad ydych yn talu’r swm llawn. Efallai y bydd rhaid i chi dalu mwy neu efallai y cewch ddyfarniad llys sirol (CCJ) os na fyddwch yn ymateb mewn pryd.

Gallwch hefyd wneud hawliad yn eu herbyn nhw (‘gwrth-hawliad’) os ydych yn meddwl bod arian yn ddyledus i chi ganddynt. Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi i’r llys.