Ymateb i hawliad llys am arian
Datrys yr hawliad drwy gyfryngu
Cyfryngu yw pan fydd unigolyn proffesiynol diduedd (y cyfryngwr) yn helpu’r ddwy ochr i ddod i gytundeb. Mae’n gyfrinachol a gan amlaf bydd yn gyflymach ac yn rhatach na mynd i’r llys.
Os ydych yn gwrthwynebu hawliad gwerth £10,000 neu lai, dywedir wrthych bod yn rhaid i chi fynychu apwyntiad cyfryngu. Bydd y llys yn trefnu’r cyfryngu hwn. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.
Os ydych yn gwrthwynebu hawliad gwerth mwy na £10,000:
- efallai y bydd y llys yn cynnig cyfryngu i chi - bydd y llys yn trefnu hyn
- gallwch drefnu cyfryngu annibynnol eich hun, os na fyddwch yn cael cynnig cyfryngu
Cyfryngu sydd wedi’i drefnu gan y llys
Bydd cyfryngwr o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn siarad â chi ar wahân dros y ffôn i’ch helpu i ymchwilio opsiynau, trafod a chytuno ar setliad. Bydd yr apwyntiad yn para hyd at un awr.
Gallwch gael rhywun gyda chi yn yr apwyntiad cyfryngu. Er enghraifft, ffrind rydych yn ymddiried ynddynt, perthynas neu gyfreithiwr.
Os cawsoch gynnig apwyntiad cyfryngu, bydd y ddwy ochr angen cytuno iddo. Os bydd y ddwy ochr yn cytuno, cewch ddyddiad ac amser ar gyfer eich apwyntiad a gynhelir dros y ffôn.
Os dywedwyd wrthych bod rhaid i chi fynychu apwyntiad cyfryngu, cewch ddyddiad ac amser ar gyfer eich apwyntiad a gynhelir dros y ffôn.
Cysylltwch â’r gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain cyn eich apwyntiad:
- os oes gennych anabledd corfforol, meddyliol neu addysgol neu gyflwr iechyd hirdymor sy’n golygu bod angen cymorth arnoch yn ystod eich apwyntiad cyfryngu
- rydych yn agored i niwed (er enghraifft, rydych yn poeni am eich diogelwch)
- os oes gennych gwestiynau eraill am yr hawliad neu eich apwyntiad
Dylech gynnwys eich rhif hawliad pan fyddwch yn cysylltu â’r gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain, os oes gennych un.
Gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain
scmreferrals@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 123 4593
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os na fyddwch yn mynychu eich apwyntiad cyfryngu
Os na fyddwch yn mynychu eich apwyntiad cyfryngu, byddwch fel arfer angen mynd i wrandawiad llys.
Gallwch barhau i geisio setlo’r achos y tu allan i’r llys gyda’r ochr arall, hyd at ddyddiad y gwrandawiad (er enghraifft, trwy gyfryngu annibynnol). Os gallwch setlo y tu allan i’r llys, ni fydd angen i chi fynychu’r gwrandawiad llys.
Os dywedwyd wrthych bod rhaid i chi fynychu apwyntiad cyfryngu, gall y barnwr eich cosbi os na fyddwch yn mynychu neu’n gwneud ymdrech i ddod i gytundeb. Gall sancsiynau gynnwys dileu eich achos neu orfod talu holl gostau’r llys hyd yn oed os byddwch yn ennill.
Os byddwch yn dweud wrth y llys pam na wnaethoch fynychu eich apwyntiad cyfryngu, bydd y barnwr yn ystyried eich rhesymau wrth benderfynu ar eich sancsiynau. Gallwch ddweud wrth y llys pam na wnaethoch fynychu:
- yn eich cyfrif Hawliadau am Arian ar-lein
- yn eich gwrandawiad llys
Os ydych eisiau i’ch rhesymau dros beidio â mynychu eich apwyntiad fod yn breifat, cysylltwch â’r llys ble bydd eich gwrandawiad. Efallai y dywedir wrthych i lenwi ffurflen N244 i ofyn i’r wybodaeth gael ei chadw’n breifat.
Cyfryngu annibynnol
Gallwch gael sesiynau cyfryngu gan gyfryngwr annibynnol ar gyfer hawliad am unrhyw swm. Mae yna ffi benodol am y gwasanaeth hwn.
Os yw’r hawliad am £10,000 neu lai, bydd yn rhaid i chi fynychu apwyntiad cyfryngu gan y llys.
Os byddwch yn dod i gytundeb
Byddwch yn gwneud cytundeb llafar yn yr apwyntiad cyfryngu. Mae’r cytundeb hwn yn rhwymol gyfreithiol, sy’n golygu bod rhaid i chi gydymffurfio ag ef. Byddwch yn cael gwybod telerau’r cytundeb mewn dogfen - gelwir y ddogfen hon yn gytundeb setlo.
Os bydd y naill ochr neu’r llall yn torri telerau’r cytundeb, yna gall yr ochr arall fynd i’r llys i ofyn am ddyfarniad neu wrandawiad.
Os na fyddwch yn dod i gytundeb
Bydd rhaid i chi fynychu gwrandawiad llys.
Ni allwch grybwyll beth ddigwyddodd yn ystod yr apwyntiad cyfryngu yn y llys.
Ni fydd rhaid i chi aros yn hirach am wrandawiad llys os byddwch yn mynychu apwyntiad cyfryngu yn gyntaf.