Sut rydych yn talu Treth Incwm

Talu Wrth Ennill (TWE)

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu Treth Incwm drwy TWE. Dyma’r system y mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn ei defnyddio i ddidynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn talu’ch cyflogau neu’ch pensiwn. Mae eich cod treth yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr faint i’w ddidynnu.

Treth ar fudd-daliadau’r Wladwriaeth

Gall eich cod treth ddwyn budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth i ystyriaeth, felly os oes arnoch dreth ar y rheiny (er enghraifft ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth), fel arfer caiff ei didynnu’n awtomatig oddi wrth eich incwm arall.

Os mai Pensiwn y Wladwriaeth yw’ch unig incwm, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ysgrifennu atoch os oes arnoch Dreth Incwm. Efallai y bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Ffurflenni Treth Hunanasesiad

Os yw’ch materion ariannol yn fwy cymhleth (er enghraifft os ydych yn hunangyflogedig neu fod gennych incwm uchel), mae’n bosibl y gallwch dalu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol drwy’r drefn Hunanasesiad. Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth bob blwyddyn.

Hefyd, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad os gwnaethoch ennill mwy na naill ai:

  • £1,000 o ganlyniad i hunangyflogaeth
  • £2,500 o incwm arall heb ei drethu, er enghraifft o ganlyniad i gildyrnau neu roi eiddo ar osod

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oedd eich incwm o roi eiddo ar osod rhwng £1,000 a £2,500.