Skip to main content

Talu eich bil Treth Gorfforaeth

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Bydd y dyddiad cau ar gyfer eich taliad yn dibynnu ar eich elw trethadwy.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Elw trethadwy hyd at £1.5 miliwn

Mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth 9 mis ac 1 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod cyfrifyddu. Fel arfer, eich cyfnod cyfrifyddu yw’ch blwyddyn ariannol, ond mae’n bosibl y bydd gennych 2 gyfnod cyfrifyddu yn ystod y flwyddyn y gwnaethoch sefydlu’ch cwmni (yn agor tudalen Saesneg).

Elw trethadwy dros £1.5 miliwn

Mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth fesul rhandaliad.

Gwiriwch y rheolau a’r dyddiadau cau:

Talu cosbau Treth Gorfforaeth

Codir cosbau am gyflwyno’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg) arnoch os na fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni mewn pryd, hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu.

Talwch gosbau gan ddefnyddio:

  • unrhyw un o’r dulliau sydd ar gael i dalu
  • y cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth 17 cymeriad ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu y mae’r cosbau’n berthnasol iddo

Bydd eich cyfeirnod talu i’w weld:

  • ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’
  • ar unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF
  • drwy gyfrif ar-lein CThEF eich cwmni

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau cyffredinol Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.

Dulliau o dalu

Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn codi llog arnoch (yn agor tudalen Saesneg) os na fyddwch yn talu mewn pryd. Bydd yn talu llog i chi (yn agor tudalen Saesneg) os byddwch yn talu’ch treth yn gynnar.

Talu nawr

Dewiswch y ffordd o dalu sy’n caniatáu digon o amser i’ch taliad glirio.

Ni allwch dalu Treth Gorfforaeth drwy’r post.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith

5 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).