Talu eich bil Treth Gorfforaeth
 cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
Gallwch dalu ar-lein.
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Os na allwch dalu’ch bil Treth Gorfforaeth yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu.
Cyfeirnod
Defnyddiwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 o gymeriadau, ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn talu amdano.
Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:
- ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF
- yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘Bwrw golwg dros eich datganiad Treth Gorfforaeth’, ‘cyfnodau cyfrifyddu’, yna dewiswch y cyfnod cywir
Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau cyffredinol Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.