Skip to main content

Talu eich bil Treth Gorfforaeth

Sgipio cynnwys

Debyd Uniongyrchol

Gallwch sefydlu a gwneud newidiadau i Ddebyd Uniongyrchol drwy gyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) eich cwmni.

Defnyddiwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 o gymeriadau, ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn talu amdano.

Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:

  • ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF
  • yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘Bwrw golwg dros eich datganiad Treth Gorfforaeth’, ‘cyfnodau cyfrifyddu’, yna dewiswch y cyfnod cywir

Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau cyffredinol Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.

Ni allwch ddefnyddio Debyd Uniongyrchol ar gyfer taliadau dros £20 miliwn. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio dull arall o dalu.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf.

Unwaith y byddwch wedi awdurdodi Debyd Uniongyrchol gan CThEF yn barod, dylai gymryd 3 diwrnod gwaith bob tro y byddwch yn talu.

Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflenni banc fel ‘HMRC NDDS’.

Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.