Skip to main content

Talu eich bil Treth Gorfforaeth

Sgipio cynnwys

Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein

Gallwch dalu’ch bil Treth Gorfforaeth yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein neu’ch cyfrif bancio symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Treth Gorfforaeth.

Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’ch cyfrif bancio symudol, i gymeradwyo taliad i ‘HMRC Shipley’.

Defnyddiwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 o gymeriadau, ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn talu amdano.

Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:

  • ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan Gyllid a Thollau EF (CThEF)
  • yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘bwrw golwg dros eich cyfrif’, ‘cyfnod cyfrifyddu’, ac yna dewiswch y cyfnod cywir

Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau cyffredinol Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.