Talu eich bil Treth Gorfforaeth
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Dim ond os oes gennych slip talu i mewn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) y gallwch dalu yn eich cangen ag arian parod neu siec.
Os ydych yn talu â siec, gwnewch hi’n daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’. Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 o gymeriadau, ar y cefn.
Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:
- ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF
- yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘bwrw golwg dros eich cyfrif’, ‘cyfnod cyfrifyddu’, ac yna dewiswch y cyfnod cywir
Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau cyffredinol Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (cyn belled â’ch bod yn talu o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Os nad oes gennych slip talu
Bydd angen i chi dalu drwy ddull arall yn lle hynny, er enghraifft: