Canllawiau

Talu Treth Gorfforaeth os ydych yn gwmni mawr

Sut i gyfrifo taliadau, a phryd y dylech wneud y taliadau hyn, os yw elw trethadwy blynyddol eich cwmni rhwng £1.5 miliwn a £20 miliwn.

Fel arfer, os yw elw eich cwmni ar gyfradd flynyddol o dros £1.5 miliwn ar gyfer cyfnod cyfrifyddu, mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod hwnnw mewn ffordd electronig a fesul rhandaliad.

Mae rheolau gwahanol mae’n rhaid i chi eu dilyn os oes gennych elw o dros £20 miliwn (yn agor tudalen Saesneg).

Cwmnïau mawr

Mae cwmni mawr yn gwmni sydd ag elw ar gyfradd flynyddol rhwng £1.5 miliwn a £20 miliwn ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sydd dan sylw.

Yn gyffredinol, mae’n rhaid i gwmnïau ‘mawr’ dalu eu Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) mewn ffordd electronig a fesul rhandaliad.

Eithriadau

Does dim angen i’ch cwmni dalu fesul rhandaliad ar gyfer cyfnod cyfrifyddu (er bod ganddo elw dros £1.5 miliwn) os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • roedd cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yn llai na £10,000 (neu, ar adegau pan fydd cyfnod cyfrifyddu yn llai na 12 mis, roedd cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni ar gyfradd flynyddol o lai na £10,000)
  • roedd elw eich cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yn llai na £10 miliwn, ac mae’r naill neu’r llall o’r canlynol hefyd yn wir:
    • nid oedd y cwmni’n bodoli, neu nad oedd ganddo gyfnod cyfrifyddu ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis blaenorol
    • roedd ei elw ar gyfradd flynyddol o lai na £1.5 miliwn, neu roedd ei rwymedigaeth treth ar gyfradd flynyddol o lai na £10,000 – a hynny ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu a ddaeth i ben yn ystod y 12 mis blaenorol

Os yw’r naill neu’r llall o’r amodau hyn yn berthnasol, mae’n rhaid i’r cwmni dalu ei dreth yn llawn erbyn y dyddiad dyledus arferol ar gyfer talu.

Cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2015, ac sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023

Os oes gan eich cwmni gwmnïau cysylltiedig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu a ddechreuodd naill ai cyn 1 Ebrill 2015 neu ar 1 Ebrill 2023, neu ar ôl hynny, gostyngwyd y trothwyon o £1.5 miliwn a £10 miliwn drwy eu rhannu â nifer y cwmnïau cysylltiedig, gan gynnwys eich cwmni chi.

Y ffigur newydd hwn yw’r trothwy perthnasol ar gyfer eich cwmni.

Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Rhagfyr 2023 i 30 Tachwedd 2024

Mae gan gwmni 5 o gwmnïau cysylltiedig. Mae ganddo elw o £300,000 ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2024. Ei rwymedigaeth Treth Gorfforaeth yw £75,000. Y trothwy blynyddol wedi’i addasu yw:

£1.5 miliwn wedi’i rannu â 6 (hynny yw, 5 + y cwmni ei hun) = £250,000.

Mae’r cwmni yn gwmni mawr ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn. Er bod ei elw o dan £1.5 miliwn, mae gan y cwmni drothwy blynyddol sydd wedi’i addasu o dros £250,000, ac mae ganddo rwymedigaeth treth o dros £10,000.

Mae cwmni yn gysylltiedig â chwmni arall os yw’r canlynol yn wir:

  • mae un cwmni o dan reolaeth y cwmni arall
  • mae’r ddau gwmni o dan reolaeth yr un person neu bersonau

Fel arfer, caiff ‘o dan reolaeth’ ei ddiffinio drwy gyfeirio at berchnogaeth o gyfranddaliadau cyfalaf, neu bŵer pleidleisio.

Gall cwmni fod yn gwmni cysylltiedig, ni waeth ble y mae wedi’i leoli at ddibenion treth.

Cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015, a chyn 1 Ebrill 2023

Cafodd y rheolau ar gyfer cwmnïau cysylltiedig eu disodli gan brawf cwmnïau grŵp 51% ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015, a chyn 1 Ebrill 2023.

Os oes gan y cwmni gwmnïau grŵp 51% cysylltiedig, gostyngwyd y trothwyon o £1.5 miliwn a £10 miliwn drwy eu rhannu â nifer y cwmnïau grŵp 51% cysylltiedig, gan gynnwys eich cwmni chi.

Y ffigur newydd hwn yw’r trothwy perthnasol ar gyfer eich cwmni.

Mae cwmni A yn gwmni grŵp 51% cysylltiedig o gwmni B os yw’r canlynol yn wir:

  • mae A yn is-gwmni 51% o B
  • mae B yn is-gwmni 51% o A
  • mae A a B yn is-gwmnïau 51% o’r un cwmni

Mae ‘A’ yn is-gwmni 51% o ‘B’ os taw ‘B’ sy’n berchen yn llesiannol (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) ar dros 50% o gyfalaf cyfranddaliadau cyffredin ‘A’.

Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Mai 2019 i 30 Ebrill 2020

Mae gan gwmni 4 o gwmnïau grŵp 51% cysylltiedig. Mae ganddo elw o £400,000 ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Ebrill 2020. Ei rwymedigaeth Treth Gorfforaeth yw £76,000.

Y trothwy blynyddol wedi’i addasu yw: £1.5 miliwn wedi’i rannu â 5 (hynny yw, 4 + y cwmni ei hun) = £300,000.

Er bod yr elw ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu o dan £1.5 miliwn, mae’r elw dros y trothwy blynyddol wedi’i addasu o £300,000.

Gan fod y rhwymedigaeth treth hefyd dros £10,000, mae’r cwmni yn gwmni mawr ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwnnw.

Pryd y mae angen talu rhandaliadau

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 12 mis, byddwch fel arfer yn talu’ch Treth Gorfforaeth fesul 4 rhandaliad chwarterol, a bydd 2 o’r rhandaliadau hyn yn ddyledus cyn diwedd eich cyfnod cyfrifyddu.

Cyfnodau cyfrifyddu o 12 mis

Os oes gan eich cwmni gyfnod cyfrifyddu o 12 mis, mae angen i chi dalu fesul 4 rhandaliad cyfartal, a rhieni’n ddyledus fel a ganlyn:

  • 6 mis a 13 diwrnod ar ôl diwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu
  • 3 mis ar ôl y rhandaliad cyntaf
  • 3 mis ar ôl yr ail randaliad (14 diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu)
  • 3 mis a 14 diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu

Mae hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar ôl 30 Mehefin 2002.

Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2026 i 31 Rhagfyr 2026

Taliad Dyddiad dyledus y taliad
Y taliad cyntaf 14 Gorffennaf 2026
Yr ail daliad 14 Hydref 2026
Y trydydd taliad (yn ddyledus ar ôl i’r cyfnod cyfrifyddu ddod i ben) 14 Ionawr 2027
Y taliad terfynol 14 Ebrill 2027

Cyfnodau cyfrifyddu o lai na 12 mis

Os oes gan eich cwmni gyfnod cyfrifyddu o lai na 12 mis, bydd eich taliad olaf yn ddyledus 3 mis a 14 diwrnod ar ôl diwrnod olaf eich cyfnod cyfrifyddu.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 3 mis, bydd y taliad cyntaf yn ddyledus 6 mis a 13 diwrnod ar ôl diwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn ddigon hir, mae’n bosibl y bydd taliadau eraill hefyd yn ddyledus bob 3 mis ar ôl hynny.

Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Awst 2027

Taliad Dyddiad dyledus y taliad
Y taliad cyntaf 14 Gorffennaf 2027
Ail daliad yn ddyledus ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu 14 Hydref 2027
Y taliad terfynol 14 Rhagfyr 2027

Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Mawrth 2027

Mae’r holl Dreth Gorfforaeth yn ddyledus mewn un taliad llawn ar 14 Gorffennaf 2027.

Cyfrifo rhandaliadau

Cam 1: amcangyfrifwch gyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni

Er mwyn cyfrifo’ch rhandaliadau, amcangyfrifwch eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu, gan gynnwys unrhyw dreth sy’n ddyledus ar y canlynol:

Wedyn, tynnwch yr holl ryddhadau a gwrthbwysiadau i gyfrifo cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni, fel y byddech yn gwneud wrth gyfrifo’r Dreth Gorfforaeth sydd arnoch yn eich Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg).

Defnyddiwch y ffigur hwn i gyfrifo’ch rhandaliadau.

Cam 2: cyfrifwch swm pob rhandaliad

Ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis, rydych yn talu cyfanswm eich rhwymedigaeth fesul 4 rhandaliad cyfartal. Mae pob rhandaliad yn gyfwerth ag un chwarter o gyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 3 mis neu lai, gwnewch 1 taliad unigol o gyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n hirach na 3 mis, ond sy’n llai na 12 mis, bydd pob rhandaliad (oni bai am yr un olaf) yn cael ei gyfrifo drwy rannu cyfanswm rhwymedigaethau’r cwmni â nifer y misoedd sydd yn y cyfnod cyfrifyddu, a lluosi’r ffigur hwnnw â 3.

Y rhandaliad olaf bydd cyfanswm rhwymedigaeth eich cwmni, llai y taliadau a wnaed hyd yma.

Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Awst 2027, a £900,000 o Dreth Gorfforaeth yn ddyledus

Cam cyfrifo Canlyniad
Cyfanswm rhwymedigaeth y cwmni £900,000
Nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu 8
Cyfanswm rhwymedigaeth y cwmni ÷ nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu x 3 £900,000 ÷ 8 x 3 = £337,500
Y rhan leiaf o gyfanswm rhwymedigaeth y cwmni a chyfanswm rhwymedigaeth y cwmni ÷ nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu x 3 £337,500
Y rhandaliad cyntaf a’r ail randaliad £337,500
Y trydydd rhandaliad a’r rhandaliad terfynol £900,000 - (2 × £337,500) = £225,000

Cam 3: diwygiwch eich amcangyfrif ac addaswch eich rhandaliadau

Mae’n bosibl y bydd amcangyfrif eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yn newid wrth i’r cyfnod cyfrifyddu fynd yn ei flaen. Gall hyn ddigwydd ar ôl eich rhandaliad olaf. Bydd angen i chi gyfrifo pob rhandaliad yn seiliedig ar y ffigur diwygiedig.

Os ydych yn disgwyl i’ch rhwymedigaeth fod yn fwy na’ch amcangyfrifon blaenorol, bydd angen i chi wneud un taliad atodol (neu fwy) i dalu’r gwahaniaeth.

Gallwch wneud taliadau ychwanegol ar unrhyw adeg. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu llog os ydych yn gwneud rhandaliadau sy’n llai na’ch rhwymedigaeth wirioneddol.

Os ydych yn darganfod yn ddiweddarach eich bod wedi gordalu (neu os na ddylech fod wedi talu o gwbl), byddwch fel arfer yn gallu hawlio’ch gordaliad yn ôl, neu gallwch adael y gordaliad gyda CThEF a’i ddefnyddio i fynd tuag at dalu rhandaliadau yn y dyfodol.

Mae’n bosibl y cewch log ar ordaliadau o randaliadau, ac ar daliadau a wnaed yn gynnar.

Cwmnïau a ddiogelir

Os yw’ch cwmni’n agored i Dreth Gorfforaeth, ac yn agored i dâl atodol ar elw o weithgareddau a ddiogelir (gweithgareddau Sgafell Gyfandirol y DU sy’n ymwneud ag olew sydd, o dan gyfraith y DU, yn cyfrif fel masnach ar wahân), byddwch yn talu unrhyw Dreth Gorfforaeth sy’n ddyledus ar elw sydd heb ei ddiogelu – a hynny fesul rhandaliad gan ddefnyddio’r rheolau arferol.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019, os yw’ch elw dros £20 miliwn, byddwch yn talu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar elw sydd heb ei ddiogelu gan ddefnyddio’r rheolau ar gyfer cwmnïau mawr iawn. Dysgwch ragor am y rheolau mae’n rhaid i chi eu dilyn os oes gennych elw o dros £20 miliwn (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd angen i chi hefyd dalu’r Dreth Gorfforaeth a’r tâl atodol ar eich elw a ddiogelir. Gwnewch hyn mewn 3 rhandaliad cyfartal ar y mwyaf. Bydd y rhain yn ddyledus fel a ganlyn:

  • 6 mis a 13 diwrnod ar ôl diwrnod cyntaf y cyfnod cyfrifyddu
  • 3 mis ar ôl y rhandaliad cyntaf
  • 14 diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod cyfrifyddu

Mae hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar ôl 30 Mehefin 2005.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 12 mis a ddaeth i ben ar ôl 30 Mehefin 2005, ond cyn 1 Gorffennaf 2006, mae’r rhandaliadau yn 25%, 25% a 50% o’r rhwymedigaeth a ddiogelir.

Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Rhagfyr 2027

Taliad Dyddiad dyledus y taliad
Y taliadau cyntaf ar gyfer treth a ddiogelir a Threth Gorfforaeth arall 14 Gorffennaf 2027
Yr ail daliadau ar gyfer treth a ddiogelir a Threth Gorfforaeth arall 14 Hydref 2027
Y trydydd taliad (sef, y taliad terfynol) ar gyfer treth a ddiogelir, a’r trydydd taliad ar gyfer Treth Gorfforaeth arall 14 Ionawr 2028
Taliad terfynol ar gyfer Treth Gorfforaeth arall 14 Ebrill 2028

Enghraifft — cyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr 2027 i 31 Mai 2027

Taliad Dyddiad dyledus y taliad
Mae’r holl dreth a ddiogelir yn ddyledus ar y dyddiad hwn 14 Mehefin 2027
Y taliad cyntaf ar gyfer Treth Gorfforaeth arall 14 Gorffennaf 2027
Yr ail daliad (sef, y taliad terfynol) ar gyfer Treth Gorfforaeth arall 14 Medi 2027

Mae’r dyddiad y byddai’r trydydd rhandaliad yn ddyledus (14 Mehefin 2027) yn disgyn cyn unrhyw ddyddiad dyledus arall ar gyfer taliadau, felly, mae’r holl dreth a ddiogelir yn ddyledus ac yn daladwy ar 14 Mehefin 2027.

Cyfrifo rhandaliadau ar gyfer cwmnïau a ddiogelir

Os yw’ch cwmni’n agored i Dreth Gorfforaeth, ac yn agored i dâl atodol ar elw o weithgareddau a ddiogelir, dylech gyfrifo’r rhandaliadau ar gyfer y Dreth Gorfforaeth sy’n ddyledus ar elw sydd heb ei ddiogelu gan ddefnyddio’r rheolau arferol.

Bydd angen i chi hefyd gyfrifo’r rhandaliadau ar gyfer y Dreth Gorfforaeth a’r tâl atodol ar eich elw a ddiogelir.

Cam 1: cyfrifwch eich swm a ddiogelir

Amcangyfrifwch y Dreth Gorfforaeth a ddiogelir a’r tâl atodol sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu.

Cam 2: cyfrifwch swm eich rhandaliadau

Ar gyfer cyfnod cyfrifyddu o 12 mis, rydych yn talu cyfanswm eich rhwymedigaeth fesul 3 rhandaliad cyfartal – bydd pob rhandaliad yn gyfwerth ag un traean o’r swm a ddiogelir.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu o 4 mis neu lai, gwnewch 1 taliad unigol o gyfanswm eich rhwymedigaeth.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sydd yn hirach na 4 mis, ond sy’n llai na 12 mis, eich taliadau yw rhan leiaf y balans o’r swm a ddiogelir sydd heb ei dalu, neu’r swm a ddiogelir wedi’i rannu â nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu, wedi’i luosi â 4.

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2006.

Os hoffech wirio’r cyfrifiadau ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar ôl 30 Mehefin 2005, ond cyn 1 Gorffennaf 2006, gallwch ddefnyddio’r canlynol:

Y swm a ddiogelir ÷ nifer y misoedd yn y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer cyfnodau byrrach x 3.

Cam 3: diwygiwch eich amcangyfrif ac addaswch eich rhandaliadau

Mae’n bosibl y bydd amcangyfrif eich rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yn newid wrth i’r cyfnod cyfrifyddu fynd yn ei flaen. Gall hyn ddigwydd ar ôl eich rhandaliad olaf. Bydd angen i chi gyfrifo’ch rhandaliadau yn seiliedig ar y ffigur diwygiedig.

Os ydych yn disgwyl i’ch rhwymedigaeth fod yn fwy na’ch amcangyfrifon blaenorol, bydd angen i chi wneud un taliad atodol (neu fwy) i dalu’r gwahaniaeth.

Gallwch wneud taliadau ychwanegol ar unrhyw adeg. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu llog os ydych yn gwneud rhandaliadau sy’n llai na’ch rhwymedigaeth wirioneddol.

Os ydych yn darganfod yn ddiweddarach eich bod wedi gordalu (neu os na ddylech fod wedi talu o gwbl), byddwch fel arfer yn gallu hawlio’ch gordaliad yn ôl, neu gallwch adael y gordaliad gyda CThEF a’i ddefnyddio i fynd tuag at dalu rhandaliadau yn y dyfodol. Mae’n bosibl y cewch log ar ordaliadau o randaliadau, ac ar daliadau a wnaed yn gynnar.

Grwpiau o gwmnïau

Gall grwpiau o gwmnïau ddewis gwrthbwyso swm a ordalwyd gan un cwmni yn erbyn swm a dandalwyd gan gwmni arall yn y grŵp.

Mae CThEF hefyd yn cynnig Trefniadau Talu Grŵp (yn agor tudalen Saesneg), sy’n galluogi’r grwpiau i wneud rhandaliadau ar y cyd. Gallwch enwebu un cwmni o’r grŵp i dalu’r rhandaliadau ar ran y grŵp cyfan, yn hytrach na bob cwmni yn talu rhandaliadau ar wahân.

Gwneud rhandaliad

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad sy’n ymwneud â Threth Gorfforaeth, ac unrhyw daliadau perthnasol, mewn ffordd electronig.

Mae taliadau perthnasol yn cynnwys llog a godwyd ar Dreth Gorfforaeth sydd heb ei thalu, a chosbau am beidio â chyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni mewn pryd.

Gallwch wneud eich rhandaliadau mewn ffordd electronig ar-lein drwy ddefnyddio’r dulliau canlynol:

  • Debyd Uniongyrchol
  • cerdyn debyd
  • cerdyn credyd y cwmni
  • gwasanaeth bancio ar-lein eich banc neu’ch cymdeithasau adeiladu

Gallwch wneud eich rhandaliadau mewn ffordd electronig (heb fynd ar-lein) drwy ddefnyddio’r dulliau canlynol:

  • Credyd Uniongyrchol Bacs
  • gwasanaeth bancio dros y ffôn eich banc neu’ch cymdeithasau adeiladu
  • CHAPS
  • Giro Banc

Llog a rhandaliadau

Llog a godwyd gan CThEF

Mae CThEF yn codi llog ar randaliadau a wneir yn hwyr, neu a dandalwyd (yn agor tudalen Saesneg). Os oes angen i chi dalu’r llog hwn, bydd modd i chi ei ddidynnu oddi wrth dreth sydd i’w thalu at ddibenion Treth Gorfforaeth.

I wahaniaethu rhwng y llog hwn a’r llog arferol am dalu’n hwyr, mae CThEF yn galw’r llog hwn yn ‘llog ar ddebyd’ (yn agor tudalen Saesneg).

Dim ond ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni y caiff y llog hwn ei gyfrifo a’i godi.

Talu llog i chi

Bydd CThEF yn talu llog i’ch busnes os gwnaethoch y canlynol:

  • rhandaliad diangen
  • taliad cynnar
  • taliad rhy uchel

Bydd unrhyw log a dalwyd yn cael ei gyfrifo naill ai o adeg y rhandaliad cyntaf, neu pan fydd gordaliad yn digwydd, p’un bynnag sydd hwyraf.

Mae’r llog a dalwyd gan CThEF yn drethadwy at ddibenion Treth Gorfforaeth. Caiff y llog hwn ei gyfrifo a’i godi yn ôl-weithredol yn unig, a hynny unwaith i’r rhwymedigaeth gael ei gyfrifo, sy’n digwydd, fel arfer, ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni.

Mae’r gyfradd ar gyfer y llog hwn yn wahanol i gyfradd y llog a godwyd am dalu’n hwyr ac am wneud tandaliadau. Mae CThEF yn galw hyn yn ‘llog ar gredyd (yn agor tudalen Saesneg)’.

Enghraifft — dim rhwymedigaeth a ddiogelir, a chyfnod cyfrifyddu o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr

Mae’r cwmni’n adolygu’r amcangyfrif o’i rwymedigaeth derfynol yn rheolaidd ac, lle bo’n briodol, yn diwygio’i randaliad (neu, os oes angen, yn gwneud taliadau atodol) er mwyn lleihau’r posibilrwydd o dalu unrhyw log. Mae’n cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni sy’n dangos rhwymedigaeth treth derfynol o £120 miliwn.

Amcangyfrif y cwmni o ran ei rwymedigaeth Taliadau a wnaed yn seiliedig ar ffigurau wedi’u hamcangyfrif (a’r dyddiad y gwnaed y taliad) Rhwymedigaeth wirioneddol yn seiliedig ar rwymedigaeth derfynol Dyddiad dyledus
£80 miliwn £20 miliwn (14 Gorffennaf) £30 miliwn (rhandaliad 1) 14 Gorffennaf
£110 miliwn £35 miliwn (14 Hydref) £30 miliwn (rhandaliad 2) 14 Hydref
£130 miliwn £10 miliwn (taliad atodol) (1 Tachwedd)
£140 miliwn £40 miliwn (14 Ionawr) £30 miliwn (rhandaliad 3) 14 Ionawr
£120 miliwn £15 miliwn (14 Ebrill) £30 miliwn (rhandaliad 4) 14 Ebrill

Yn yr enghraifft hon, mae’r llog yn ddyledus fel a ganlyn:

Dyddiadau Cyfanswm a dalwyd hyd yma Rhwymedigaeth wirioneddol hyd yma Manylion y llog sy’n ddyledus
14 Gorffennaf i 13 Hydref £20 miliwn £30 miliwn Llog ar ddebyd sy’n ddyledus ar £10 miliwn o 14 Gorffennaf i 13 Hydref
14 Hydref i 31 Hydref £55 miliwn £60 miliwn Llog ar ddebyd sy’n ddyledus ar £5 miliwn o 14 Hydref i 31 Hydref
1 Tachwedd i 13 Ionawr £65 miliwn £60 miliwn Llog ar gredyd sy’n ddyledus ar £5 miliwn o 1 Tachwedd i 31 Ionawr
14 Ionawr i 13 Ebrill £105 miliwn £90 miliwn Llog ar gredyd sy’n ddyledus ar £15 miliwn o 14 Ionawr i 13 Ebrill
14 Ebrill £120 miliwn £120 miliwn Ni fydd unrhyw log pellach yn cael ei godi na’u gredydu

Cosbau ar randaliadau

Mae’n bosibl y codir cosb os byddwch yn gwneud y canlynol yn fwriadol:

  • methu â gwneud rhandaliad
  • gwneud rhandaliad sy’n rhy isel

Dysgwch ragor am gosbau Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Hawlio ad-daliadau

Yn dilyn adolygiad o’r cyfrifon rheoli a’r rhagolygon diweddaraf yn ystod dyddiad y rhandaliad nesaf, os ydych yn darganfod y bydd eich rhwymedigaethau Treth Gorfforaeth yn llai na’r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, gallwch wneud hawliad am ad-daliad o’ch rhandaliad i gyd, neu ran ohono.

Mae’n rhaid i hawliadau gael eu gwneud i swyddog CThEF, ac mae’n rhaid i’r hawliad hwnnw nodi’r ddau beth canlynol:

  • y swm y credwch y dylid cael ei ad-dalu
  • eich rhesymau dros gredu’r canlynol (a hynny oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau ers gwneud y taliad(au)):
    • rydych o’r farn y bydd cyfanswm eich rhwymedigaeth ar gyfer y cyfnod yn llai na’r hyn a gyfrifwyd yn flaenorol
    • mae’r taliadau cronnus yn fwy na’r rhwymedigaeth ddiwygiedig

O dan rai amgylchiadau, gallwch hawlio ad-daliad pan fydd eich rhwymedigaeth ddiwygiedig yn cynnwys colledion disgwyliedig o’ch cyfnod cyfrifyddu presennol sydd heb ddod i ben ar hyn o bryd.

Gall hyn ddigwydd os ydych wedi dioddef colledion sylweddol. Bydd angen i chi roi tystiolaeth ategol er mwyn cadarnhau’r colledion hyn ac i ategu’ch hawliad am ad-daliad. Dysgwch ragor am hawlio ad-daliadau yn llawlyfr trethiant cwmnïau CThEM (yn agor tudalen Saesneg).

Cyhoeddwyd ar 1 January 2007
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 February 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. Information about accounting periods ending on or after 1 April 2015 and before 1 April 2023 has been added. This is due to a change in legislation with effect from 1 April 2023.

  3. Guidance updated with information on repayment claims if your Corporation Tax liability is less than expected due to exceptional circumstances.

  4. Guidance on paying by instalments if your annual profits are over £20 million has been added.

  5. Guidance updated to show it won't be possible to make a payment with a personal credit card from 13 January 2018.

  6. The Corporation Tax (Instalment Payments) (Amendment) Regulations 2014 (SI 2014/2409)) has been amended and will apply to accounting periods ending on or after 1 April 2015.

  7. First published.