Skip to main content

Talu’r Doll Peiriannau Hapchwarae

Sgipio cynnwys

Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec drwy’r post i: Cyllid a Thollau EF (CThEF).

HMRC
Direct
BX9 1ST

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich taliad yn cyrraedd CThEF erbyn y dyddiad cau.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘HM Revenue and Customs only’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Bydd eich cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD) i’w weld ar naill ai:

  • y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF, os ydych yn cyflwyno datganiad papur
  • eich cyfrif ar-lein CThEF, os gwnaethoch eich datganiad ar-lein

Os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu â’r adran ymholiadau am dollau hapchwarae (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.

Os ydych yn cyflwyno datganiad papur, anfonwch eich slip talu ynghyd â’ch siec.

Os ydych yn cyflwyno ar-lein, anfonwch lythyr sy’n cynnwys y canlynol:

  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
  • eich cyfeirnod talu Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD)
  • y swm yr ydych yn ei dalu

Peidiwch â phlygu na rhoi staplen yn eich siec.